成人快手

Prysurdeb ac anniddigrwydd

Jeff Williams

Jeff Williams yn sgrifennu o'r Gynhadledd Newid Hinsawdd yn Copenhagen

Bore Mawrth, Rhagfyr 15
Roedd ddoe yn ddiwrnod hyd yn oed yn llawnach nag arfer! Cychwynnais ar ben to fflat Iolo ap Dafydd yn Copenhagen - lle roedd Branwen Niclas a minnau'n darlledu'n fyw o'r oerfel i Good Morning Wales a'r Post Cyntaf.

Oddi yno, wedyn, ar y bws i Ganolfan Bella, ble roedd ciwiau hir, hir i fynd i mewn.

Wedi prysuro'n aruthrol
Mae'r wythnos hon yn wythnos dyngedfennol a'r lle wedi prysuro'n aruthrol a chyn hanner dydd roeddent wedi cau drysau'r ganolfan ac nid oedd caniat芒d i unrhyw un oedd yn gadael fynd yn 么l mewn.

Roedd miloedd o bobl yno - rhai ohonynt wedi bod yn ciwio am chwech i saith awr a gorfod troi am adre fu eu hanes i gyd.

Erbyn amser cinio hefyd, roedd y trafodaethau ar stop. Mae darnau allweddol o'r trafodaethau yn methu mynd yn eu blaenau gan fod gwledydd cyfoethog dal yn rhy styfnig i ymrwymo i brotocol Kyoto, heb s么n am ymrwymo i dargedau sydd eu hangen er mwyn sicrhau cadw cynnydd tymheredd y byd o dan 2 radd canradd.

Mae protestio dan reolaeth dynn yn y ganolfan. Rhaid cael caniat芒d ac weithiau, dim ond hanner awr o flaen llaw y rhoddir caniat芒d.

Yna, mae rheolau tynn am y 'math' o stynt a ble'n union y caniateir i'r stynt ddigwydd. Fel arfer, maent yn cael eu cynnal mewn coridor hir rhwng neuadd y mudiadau a'r brif neuadd - lle gwelir y gl么b mawr gwyn a du ar raglenni newyddion!

Anniddigrwydd a siom
Ond roedd anniddigrwydd mawr a siom bod y gwledydd cyfoethog yn defnyddio'r 'sbin' mai'r gwledydd tlawd yw'r meini tramgwydd yn y trafodaethau a'u cyhuddo nhw o gau'r ffordd ar gyfer cytundeb.

Felly, amser cinio, gyda'r brif neuadd yn orlawn o ohebwyr, rhaglenni newyddion yn darlledu'n fyw a chynrychiolwyr yn bwyta eu cinio fe drefnwyd protest yn y brif neuadd.

Protest fer iawn oedd hi gyda thua 300 ohonom yn sefyll am bum munud gyda phosteri uwch ein hysgwyddau yn llafarganu "We stand with Africa".

Syml ac effeithiol - ac mi gafodd sylw rhyngwladol ar y cyfryngau.

'Troi eu cefnau'
Mae Affrica a gwledydd llai datblygedig yn pryderu bod y gwledydd cyfoethog, mwy diwydiannol, yn barod i droi eu cefnau ar brotocol Kyoto mewn ymgais i drosglwyddo baich delio gyda newid hinsawdd ar ysgwyddau'r gwledydd tlawd.

Mae trafodaethau answyddogol yn Copenhagen yr wythnos hon wedi canolbwyntio ar ddwy agwedd: un yn canolbwyntio ar brotocol Kyoto, y cyfnod ymwrymo cyntaf sydd yn gorffen yn 2012, a'r llall yn trafod gweithredu tymor hir.

Mae gr诺p Affrica nawr yn gofyn i'r ail drac gael ei ohirio nes bo cytundeb ar ail gyfnod ymrwymo i brotocol Kyoto.

'Lladd Affrica' Meddai prif negydwr y gr诺p, Kamel Djemouai:

"Rydym ni'n amau mewn diwrnod neu ddau, neu ar y deunawfed, y byddant yn honni nad oes dim amser ganddyn nhw i ddelio gyda materion Kyoto - eu bod eisiau cytundeb newydd a dydd yn cael ei arwyddo ymhen 6-12 mis.

"Ond Affrica yw'r cyfandir mwyaf bregus. Mae protocol Kyoto'n hanfodol bwysig inni. Gallwn ni byth dderbyn lladd Protocol Kyoto. Byddai hynny yn lladd Affrica."


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.