成人快手

Naomi Klein a chyfiawnder hinsawdd

Naomi Klein

Jeff Williams yn sgrifennu o'r Gynhadledd Newid Hinsawdd yn Copenhagen

Bore Sadwrn, Rhagfyr 12
"Wyneb yn wyneb 芒 newid hinsawdd mae'r byd fel y Titanic lle mae gan rai fadau achub a'r lleill ddim."

> Dyna ddwedodd Naomi Klein, yr awdures a'r ymgyrchydd enwog, fore Gwener mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gymorth Cristnogol yng Nghanolfan Bela.

> Roedd yr ystafell fawr dan ei sang i wrando ar banel o arbenigwyr yn trafod "Cyfiawnder Hinsawdd o Copenhagen" a llongyfarchodd Klein y mudiad am fod ar flaen y gad yn hyrwyddo'r syniad o gyfiawnder yn y trafodaeth ar newid hinsawdd.

> "Mae'n amlwg yn fater o gyfiawnder," meddai, "am fod ffordd o fyw pobl mewn gwledydd cyfoethog yn effeithio ar fywydau pobl mewn gwledydd tlotach.

> Soniodd am y sefyllfa adeg trychineb New Orleans pan oedd y bobl 芒'r modd ganddynt yn gallu gyrru i ffwrdd yn eu ceir i fannau diogel ac yn aros mewn gwestai ond y tlotaf yn gorfod aros am gymorth neu foddi - "aparteit hinsawdd".

> Soniodd hefyd am y 'ddyled hinsawdd', sydd wedi datblygu'n gysyniad mawr yn y gynhadledd hon, sef bod ganddo ni, yn y gwledydd datblygedig, gyfrifoldeb moesol i dalu n么l i'r gwledydd tlawd, am y niwed rydyn ni wedi wneud iddyn nhw.

Ond soniodd hefyd bod arwyddion gobeithiol yma, a bod Bolifia yn un o'r gwledydd hynny sy'n cynnig cyfraniad adeiladol a gweledigaeth i'r trafodaethau.

> Roedd Tom Athanasiou, o hefyd yn siarad yn y cyfarfod, ac yn dweud y gallai'r byd fod yn wynebu $22 triliwn o gostau ailadeiladu yn unig, petai lefel y m么r yn dal i godi ar y raddfa bresennol.

Mae ecoequity yn edrych chwilio am atebion byd-eang realistig i her newid hinsawdd. Her anferth ond un sy'n rhaid ei wynebu.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.