成人快手

Cyrraedd Copenhagen

Mae Jeff Williams ymhlith y miloedd sydd wedi cyrraedd Copenhagen

Nos Lun: Ymhlith 17,000 o gynrychiolwyr a 5,000 o newyddiadurwyr!

Diwrnod gwlyb, llwyd a gwyntog oedd diwrnod agoriadol y trafodaethau yma. Ond roedd cynnwrf lliwgar dros y brifddinas wrth i bob math o bobl baratoi at bythefnos o brysurdeb.

Dywedir fod 17,000 o gynrychiolwyr gwahanol fudiadau yma a 5,000 o newyddiadurwyr.

Mae'r gwestai wedi llenwi yma ers dros flwyddyn ac rydym ni'n ffodus iawn o fod wedi cael lletygarwch caredig gan gyfaill a fu'n byw ym Mangor am gyfnod, ond sydd nawr yn byw mewn fflat ynghanol y ddinas.

Ar eu mwyaf croch

Mae gan Gymorth Cristnogol ddau stondin mawr yma - un yng Nghanolfan Bella, y brif neuadd gynadledda anferth, a'r llall yn y Klima Forum, sef cynhadledd amgen sydd wedi ei threfnu gan fudiadau gwirfoddol a grwpiau pwyso.

Yma bydd nifer o weithdai a chyfarfodydd ymylol yn digwydd ac yma y bydd lleisiau nifer o'r rhai sy'n byw dan effeithiau newid hinsawdd yn cael eu clywed ar eu mwyaf croch.

Mae gan Gymorth Cristnogol bartneriaid yma o wledydd fel Kenya, Brasil ac India, yn barod i siarad gyda'r wasg, lobio negydwyr ac i geisio dylanwadu ar y gwneuthurwyr penderfyniadau.

Yr uchelgais

Ers cyrraedd yma, bu arbenigwyr polisi Cymorth Cristnogol yn cyfarfod eu cydweithwyr Ewropeaidd, er mwyn cynllunio strategaeth lobio manwl.

Mae'r t卯m ymgyrchu a gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur yn trefnu digwyddiadau i ddosbarthu gwybodaeth a denu cyhoeddusrwydd.

Y prif nod o ran Cymorth Cristnogol fydd cael cytundeb teg, uchelgeisiol a chytundeb fydd yn ymrwymo llywodraethau i dorri ar allyriadau carbon. A hynny'n ymrwymiad cyfreithiol.

Ein huchelgais yw 40% o ostyngiad ar allyriadau domestig erbyn 2020 a chredwn hefyd bod angen cymorth rhyngwladol i helpu'r gwledydd tlawd i addasu yn sgil effeithiau newid hinsawdd.

Felly rydyn ni'n galw am addewid pellach gan arweinyddion rhyngwladol i roi cymorth ariannol tymor hir i'r gwledydd tlotaf er mwyn eu galluogi i ddatblygu'n gynaliadwy.

Dylai hyn fod yn o leiaf $150 biliwn y flwyddyn erbyn 2020.

Cyfraniadau eraill Jeff Williams

Gwefan Cymru Werdd 成人快手 Radio Cymru


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.