I gyd-fynd a chyhoeddi'r fersiwn Braille newydd o'r Testament Newydd lluniodd beirdd Caerfyrddin englyn trawiadol a gyhoeddwyd yn rhaglen laansio'r cyhoeddiad newydd.
Fe'i darllenwyd ar y Post Cyntaf 成人快手 Radio Cymru Mehefin 15 2010 gan Rhian Evans a fu'n flaenllaw iawn yn yr ymgyrch i gael y fersiwn Braille ar gyfer y deillion.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Dywedodd ei fod yn cyfleu ei hunion deimladau hi fel un fydd yn dibynnu ar y Testament:
Ail agor fy nau lygaid - y mae ef
Dan fy mys yn siarad
A dotiau adnodau nhad
Yn harddach bob cyffyrddiad
Er bod y Beibl neu rannau ohono ar gael mewn bron i 2,500 o ieithoedd, dim ond 30 iaith sydd 芒 fersiwn Braille a bellach mae'r Gymraeg yn un ohonynt. Un o'r ymgyrchwyr yw Rhian Evans o Gaerfyrddin sydd wedi bod yn ddall ers yn ferch ifanc ac wedi ap锚l genedlaethol llwyddwyd i godi 拢25,000 o fewn ychydig o fisoedd i dalu am y gwaith.