Taro'n fud
Nawr mae yna bethau sy'n peri fy mod i hyd yn oed yn gwbl fud. Meddyliwch am hyn er enghraifft.
Roeddwn yn teithio n么l o'r De neithiwr, siwrne digon diffwdan nes imi droi yn Y Bala i gyfeiriad Frongoch.
Wrth adael y dre, mae'r cyfarwydd yn gwybod fod yna ddarn bach o ffordd yno, lle y medrwch oddiweddyd os yw amgylchiadau yn caniat谩u. Nawr, dyma fi yn dod rownd y gornel yn fy nghar bach ac yno, ar fy ochr i i'r ffordd, car du crand.
Roedd naill ai ar frys gwyllt neu doedd yn gwybod dim am amynedd fel ffrwyth yr Ysbryd, neu ei fod yn gwybod, a bod y ffrwyth hwnnw yn ei fywyd, wedi hen bydru! Wel! Roedd geiriau wedi methu, a d'oedd fawr i neud ond synnu'n geg agored.
Cofiwch, mae yna bobl dwi'n nabod sydd 芒 digon i'w ddweud mewn sefyllfa o'r fath, a d'oes fawr o ffrwyth yr Ysbryd am eu cyfraniad hwythau chwaith.
O Japan
Dwi wedi bod yn teimlo yn fud wyneb yn wyneb a'r adroddiadau o Japan yr wythnos yma hefyd. Rhaid cydnabod fod yna elfen o sioc wrth weld o bell y llanast wnaeth dorri ar draws bywyd y bobl, a'r wlad honno mewn ychydig funudau brynhawn Gwener diwethaf.
Tu cefn i'r ffigyrau am farwolaethau ac anafiadau, tu cefn i'r trafod ymhlith gwyddonwyr am y peryglon yn yr orsaf b诺er mae yna dorcalon a dagrau, nosweithiau digwsg a dyddiau o ofid.
Dwi'n gwybod digon am fugeilio pobl i wybod nad yw dioddefaint cannoedd yn yr un sefyllfa 芒 chi yn gwneud fawr i dynnu'r boen ingol o'ch sefyllfa bersonol.
Yn rhestr y Times o wledydd cyfoethoca'r byd, roedd Japan yn drydydd ac mewn prynhawn mae'r cyfoeth yn chwalu, gyda phobl yn dioddef o oerni, o newyn, yn marw o anallu gwladwriaeth gyfoethog i ymateb i rym naturiol annaturiol.
Geiriau Iago
Mae wedi bod yn wers go sownd i mi. Dwi angen cofio nad yw'r cestyll crandiaf dwi'n eu hadeiladu ond yn gestyll tywod. Dwi angen cofio geiriau Iago:
Gwrandwch, chi sy'n dweud, "Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian."
Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth - mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu!
Dyma beth dylech chi ddweud: "Os Duw a'i myn, cawn ni wneud hyn a'r llall."
Dw'i hefyd angen cofio geiriau Iesu; "Dyma sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dwi'n ei ddweud. Maen nhw fel dyn call sy'n adeiladu ei d欧 ar graig solet."