成人快手

'Facebook'

gan Aled Lewis Evans

17 Mawrth 2011

Gweplyfr a'r ffilm

Mae'n syndod weithiau cymaint o ddaioni sy'n gallu deillio o ganol blerwch a gwendid dynol, ynghanol ansicrwydd ein ffaeleddau, yn ogystal 芒'n dawn a'n hathrylith.

Wedi bod yn gwylio'r ffilm arobryn The Social Network yr oeddwn i, a sylweddoli sut y ganwyd Facebook o sefyllfa felly ym Mhrifysgol Harvard o Hydref 2003 ymlaen.

Hen ffrindiau

Fel y gwyddom, gall safleoedd rhyngweithio fel hyn esgor ar gamddefnydd ond o mhrofiad innau o'r Gweplyfr mae 'na lawer iawn o fendithion.

I mi yr un mwyaf trawiadol ydy dod i gysylltiad unwaith eto 芒 hen gyfaill.

Llwybrau bywyd wedi mynd i wahanol gyfeiriadau, ond y dechnoleg yn foddion i uno bobl drachefn. Gall y cysylltiad ar Facebook arwain at y cysylltiad gorau ohonyn nhw i gyd - sef cyfarfod "wyneb yn wyneb". Does dim i gymryd lle hwnnw wrth gwrs.

Ond dwi'n meddwl y gall rhwydweithiau fel hyn leddfu unigrwydd, ac mae astudiaeth wedi ei wneud yn honni bod pobl yn teimlo yn llai ynysig o fod ar y Gweplyfr.

Syndod bob dydd

Mae'n ffynhonnell ddihysbydd o syfrdanau bach dyddiol - fel hen ffrind o ugain mlynedd yn 么l yn cysylltu eto.

Cysur felly i ni gyd ynghanol blerwch ein bywyd bob dydd ydy bod rhai ohonon ni fel Mark Zuckerberg, sylfaenydd Facebook.

Er gwaetha'r ffaith ei fod o'n cael ei bortreadu'n hynod o ddynol a ffaeledig, medrodd gyflawni bethau da.

Mae'n gysur meddwl ynghanol pa bynnag sefyllfa y canfyddwn ein hunain ynddi, bod gwe o ddaioni hefyd yno sy'n drech na chenfigen a delwedd, a bod cyfeillgarwch yn cyfri ar ddiwedd y g芒n.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.