Blwyddyn y Sgwarnog
Bore da neu, "Nihao".
Wrth inni dalu'n biliau credyd wedi'r gwyliau Nadolig, mae hi'n awr yn dymor un o wyliau arall mawr y byd - gwyliau'r flwyddyn newydd yn China ac mae eleni'n Flwyddyn y Sgwarnog.
Un o nodweddion mawr y dathliadau yw mai dyma'r unig adeg fydd gweithwyr ffatrioedd budr dinasoedd enfawr China yn cael mynd adre i gefn gwlad i weld eu teuluoedd.
Mae tua 130 miliwn o bobl yn pacio i mewn i bob bws a thren sydd ar gael i fynd am adre ac mae aml i ddinas yn dod i stop - heb fawr neb ar 么l yno i frwsio'r strydoedd neu dorri gwallt.
Ffilm i'w gwylio
Os gwyliwch chi un ffilm dramor eleni, byddwn i'n awgrymu Last Train 成人快手 gan Lixin Fan; ffilm sy'n cofnodi'r symudiad enfawr hwn o bobl ac yn dangos y pwysau ar weithwyr dinasoedd China - yn byw oddi cartref ac yn cynilo pob ceiniog i'w hanfon n么l at eu teuluoedd - yn aml filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Gwelwn b芒r priod, Mr a Mrs Zhang, sydd wedi gadael eu plant gyda'u mam-gu ers blynyddoedd a'r ddau yn gweithio dyddiau hir ar gyflog isel yn gwnio dillad mewn ffatri fawr annynol.
tristwch yn faich
Mae'r tristwch o fethu 芒 gweld eu plant am flwyddyn ar y tro a baich eu horiau hirion yn amlwg ar wyneb y fam a'r tad.
Gwelwn eu gobeithion yn y ffilm ddogfen wrth i'r camera eu dilyn dros fil o filltiroedd i'w cartref gwledig i ddathlu'r flwyddyn newydd gyda'u teulu.
Mae Qin, eu merch, yn ei harddegau n么l adre yn ei chael hi'n anodd gwerthfawrogi aberth ei rhieni ac mewn golygfa ddirdynnol, gwelwn y ferch yn cwyno nad yw ei mam yn dangos gofal digonol drosti.
Fe adawaf i chi ddychmygu ymateb y fam sy'n byw dan amodau ffatri uffernol er mwyn talu am fwyd a dillad i'w merch.
Cymru a China
Am ddwy ganrif China'r cenhadon fel Griffith John, David Davies a Timothy Richard oedd China i Gymrum ond os ydych chi wedi paratoi brecwast y bore 'ma, mae'n debyg y byddwch chi yn barod wedi cyffwrdd ag eitem sydd wedi dod o China.
Nid yn China mae achos tristwch y teulu yn Last Train 成人快手. Mae tristwch dwfn y ffilm ddogfen hon yn deillio o'n disgwyliadau ni am ddillad rhad.
Mae'n bosib bod y crys sydd 'da fi ar fy nghefn y bore 'ma wedi ei wnio gan Mr neu Mrs Zhang - ac yno yn y ffabrig yn rhywle bydd dagrau un o famau alltud China.
Felly, wrth gydnabod Blwyddyn y Sgwarnog, beth am inni werthfawrogi aberth dynion a merched i roi nwyddau rhad i ni wrth sylwi ar a gwerthfawrogi'r dagrau sydd rywle yn ein dillad ac i wneud yr hyn 芒 allwn yn y flwyddyn newydd hon i hyrwyddo masnachu tecach.
Nihao.