成人快手

Helynt Halal

Trin cig

07 Ionawr 2011

gan Geraint Morse

Labelu cig yn yr archfarchnad

A ydych chi'n un o rheini sy'n darllen labeli ar fwydydd yn yr archfarchnad?

Bydd y rhan fwyaf o siopwyr yr archfarchnad yn llenwi'r fasged neu'r troli heb boeni am foment o ble mae'r cynnyrch wedi dod.

Ond dwi'n poeni. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd mawr yn gwerthu peth cig oen "halal" a chyw i芒r "Halal" heb ddweud wrth eu cwsmeriaid.

Mae'r rhan fwyaf o gig oen sydd wedi ei fewnforio o Seland Newydd wedi cael ei baratoi dan reolau Islamaidd. Ond does dim s么n am hyn ar y labeli.

Y gwahaniaeth

O dan reolau caeth Islam, er mwyn galw cig yn "Halal" rhaid torri gwddf yr anifail ac yntau'n ymwybodol ar y pryd a gadael y gwaed i gyd i redeg m芒s.

Yn ogystal, rhaid i'r person sy'n lladd yr anifail adrodd brawddeg o weddi Arabaidd wrth ddefnyddio'r gyllell.

Mae'n wir fod rhai o'r amodau yma wedi cael eu llacio er mwyn cydymffurfio 芒 safonau gorllewinol ond mae'r ffaith yn aros bod yr anifail wedi cael ei ladd o dan amodau defodau crefyddol, a hyn sy'n fy mhoeni.

Dwi'n berffaith hapus bod Mwslemiaid yn cael cig Halal ond dydw i ddim eisiau ei fwyta.

Fel Cristion, dydw i ddim am fwyta cig sydd wedi ei baratoi o dan reolau Islamaidd, gyda gweddi Arabaidd, boed yn gig wedi ei brynu o'r archfarchnad neu ei fwyta allan mewn pryd bwyd.

Labeli clir

Gofyn am labeli clir ydw i er mwyn sicrhau bod pawb ohonom yn deall beth yr ydym yn ei fwyta. Os ydy'r label yn dweud "Halal", gall Mwslemiaid ei fwyta'n dawel eu cydwybod. Ond os nad yw'n dweud "Halal" gall eraill ohonom fwyta'n dawel ein cydwybod hefyd.

Does dim angen i chi dagu ar eich cig moch bore 'ma, oherwydd does dim y fath beth i gael a chig moch "Halal". Dydi Mwslemiaid ddim yn bwyta porc.

Ond beth am y frechdan cyw i芒r ichi wedi paratoi ar gyfer amser cinio, neu'r cig oen ar gyfer swper heno?

Efallai'r peth gorau i'w wneud yw prynu cyw-i芒r a chig oen Cymreig. Bydd hyn yn ateb y broblem - efallai!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.