Y rhai sy'n gaeth
Ydi, mae'r eira'n dal i fod ar frig y newyddion, ac 'Yvonne Tywydd' a'i chydweithwyr yn brysurach nag arfer hyd yn oed!
Gofid sawl un wrth inni siarad yw sut i gael y car allan, sut i fynd i'r gwaith neu orffen y siopa Nadolig munud olaf - sy'n dangos, yn un peth, gymaint ydan ni'n dibynnu ar drafnidiaeth amgenach na dwy droed!
Bydd y rhai hynny sy'n dymuno teithio ymhell dros y Nadolig, at eu teuluoedd a'u hanwyliaid, yn si诺r o wynebu penderfyniadau anodd.
A theithio o ddewis fyddwn ni ar y cyfan.
Miliynau dros y byd
Nid gadael Nasareth o ddewis wnaeth Mair a Joseff fodd bynnag - roedd rheidrwydd arnynt deithio i Fethlehem er mwyn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad.
Ac mae miliynau o bobl yn teithio dros y byd heddiw - rhai i fynd ar eu gwyliau - ond eraill nid o'u gwirfodd ond oherwydd eu statws neu oherwydd erledigaeth ac ofn.
Clwysom lawer am ryddhau'r ymgyrchydd hawliau dynol Aung Sang Suu Kyi o gaethiwed ei chartref eleni, ond clywsom lai o lawer am ei chydwladwyr.
Ers sawl degawd mae pobl wedi gorfod ffoi o Burma, gwlad a rwygwyd ers blynyddoedd gan ormes a thrais. Mae'r daith oddi yno'n un bryderus a pheryglus at rywle fel ffin gwlad Thai.
Fel y cafodd Mair a Joseff loches yn y stabl, caiff ffoaduriaid o Burma loches mewn gwersylloedd bamb诺 a tharpolin syml lle cant groeso a diogelwch, bwyd a tho uwch eu pennau.
Wedi gadael popeth
Bob mis mae 300 o bobl yn cyrraedd o'r newydd. Pobl sydd wedi gadael popeth, ac yn cyrraedd heb ddim.
Mae naw gwersyll ffoaduriaid ar y ffin efo Gwlad Thai ac mae 145,000 o ffoaduriaid yn byw yn y gwersylloedd hyn.
Gan nad ydi awdurdodau gwlad Thai wedi arwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid does gan y ffoaduriaid o Burma ddim yr un hawliau a ffoaduriaid mewn sawl gwlad arall. Ar 么l cyrraedd, dyw'r ffoaduriaid ddim yn cael gadael y gwersylloedd.
Gobeithio y daw seren
Dyma deuluoedd sy'n gaeth rhwng ffiniau, yn ysu am gael dychwelyd i'w cymunedau ac at eu hanwyliaid, ond yn methu.
Gobeithio y daw eu seren hwythau maes o law i oleuo eu ffordd adref a gwireddu eu breuddwyd.