成人快手

Cariad

Ynys Llanddwyn

gan Nan Wyn
Bore Llun, Ionawr 25 2010

Yn gariad i gyd

Dydd G诺yl Santes Dwynwen hapus i bob un ohonoch.

Faint ohonoch chi sy'n mwynhau brecwast yn y gwely bore yma. Yn edrych ar ddeuddeg o rosod coch efallai neu yn agor cerdyn a neges neu gerdd gariadus ynddo.

Does yna fawr o ddathlu ar yr 诺yl yn ein t欧 ni, rhyw esgus tila fel mai dim ond sgam farchnata yw'r 诺yl, a'r un esgus fydd yn cael ei ddefnyddio ddydd San Ffolant o fewn cwta dair wythnos.

Fe fydd ein mab ieuengaf, Obed, yn dathlu'r 诺yl yn yr Ysgol heddiw, bydd cyfle i bob disgybl ddod i'r ysgol wedi gwisgo mewn coch ac fe fydd cacennau yn cael eu gwerthu, y cyfan er mwy gwneud ymgais gariadus o gasglu arian tuag at drueiniaid Haiti.

Hanes Dwynwen

Dwn i ddim faint ohonom ni sy'n gwybod hanes Dwynwen chwaith.

Merch i frenin Brychan Brycheiniog oedd hi a'i thad am iddi briodi Tywysog pwysig.

Ond roedd Dwynwen mewn cariad a thywysog arall o'r enw Maelon Dafodrill.

Gwrthododd ei thad wrando arni, a mynnodd mai Brychan yr oedd am briodi. Pan dorrodd Dwynwen y newydd drwg i Maelon gwylltiodd hwnnw'n gacwn gyda hi. Torrodd Dwynwen druan ei chalon a ffodd i'r goedwig i fyw bywyd diflas ac unig.

Yno daeth angel ati a rhoi tri dymuniad iddi, sef dadmer Maelon a oedd erbyn hyn wedi troi yn dalp o rew, gwarchod dros holl gariadon Cymru ac, yn olaf, nad oedd hi i briodi Brychan.

A dyna pam yr ydym ni yn dathlu g诺yl Santes Dwynwen ar Ionawr 25 bob blwyddyn.

Swnio'n debyg i opera sebon fodern yn tydi!

Cariad yw . . .

Ond be ydy gwir gariad? Rhywbeth sy'n para'n hirach na diwrnod, yn hirach na bywyd y rhosus cochion.

Mae cariad go iawn yn amyneddgar.
Mae cariad yn garedig.
Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun.

Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nac yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg.

Dydy o ddim yn digio a phwdu ac mae'n fodlon anghofio pan fo rhywun wedi gwneud cam.

Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni - beth sy'n ei wneud e'n hapus ydy'r gwir.

Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu, bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.

Fydd cariad byth yn chwalu.

Waw! Pwy ydy'r carwr yna? Ydio'n sengl?
Duw ydi o ac o ydi, mae o'n gariad i gyd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.