成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Bardd y Bae

Cymru newydd - gwerthoedd oesol

Mehefin 2003


Y Bae, gan John Emyr (Gwasg Gomer, 拢7.50. tt119).
Adolygiad gan Grahame Davies


Tan yn ddiweddar iawn, tiriogaeth ddigon anghyfarwydd fyddai Bae Caerdydd i lenorion Cymraeg.

Ond gyda dyfodiad datganoli, dyma'r Bae a'i dirnodau - adeilad y Pier Head, yr Eglwys Norwyaidd, y Cynulliad ei hun - yn sydyn reit yn dod yn gymaint rhan o'n tirlun cenedlaethol ag yw Pont Hafren neu gopa'r Wyddfa.

Rhan o'r symudiad hwnnw yw'r gyfrol newydd hon o gerddi gan John Emyr, gyda'i theitl Y Bae, yn ei lleoli yn gadarn yng Nghymru newydd y flwyddyn 2003.

Mae'r clawr, gyda'r llun o adeilad y Pier Head, yn tanlinellu cyfoesedd y lleoliad, lleoliad sydd yn gyfarwydd iawn i John Emyr, ac yntau yn olygydd Y Cofnod, sef y record o weithgareddau ein fforwm democrataidd newydd.

Serch hynny, nifer gymharol fach - saith allan o ryw 80 o gerddi - sydd yn cael eu corlannu yn neilltuol i'r adran arbennig o'r llyfr sy'n rhannu teitl y gyfrol. Presenoldeb llawer mwy sylweddol yn y llyfr yw'r adrannau ar Gorthrwm, Teulu, Natur, Ffydd a Cherddi Eraill, er bod lleoliad y brifddinas yn amlwg yn rhai o'r rheiny hefyd.

John Emyr mewn derbyniad, i nodi cyhoeddi'r gyfrolYr hyn sy'n taro rhywun yng ngherddi'r gyfrol hon yw bod yma feddwl a ffurfiwyd gan rai o brif ffrydiau y traddodiad Cymraeg - llengarwch, brogarwch a chrefydd efengylaidd - yn delio gydag amodau Cymru'r mileniwm newydd lle mae cyfoeth newydd ar un llaw yn bodoli ochr-yn-ochr â thlodi.

Ceir awgrym o hyn yn y gerdd 'Dewch Adre i'r Bae' lle dywedir:

Brysiwn i siarad 芒'n cyf-fforddolion
Ar yr uwch-draffordd gwybodaeth,
Ond ofnwn gymdogion y trothwy
yn nieithrwch clos eu hen fyd.

Cyfeiriad yw hwnnw at y cymunedau o frodorion y Bae y mae eu hen gynefin bellach yn cyfochri gyda byd dipyn yn fwy llewyrchus pobl y Cynulliad.

Ceir cerdd hefyd yn nes ymlaen yn y gyfrol, 'Pobl y Stryd', lle mae cydwybod gymdeithasol y bardd yn cael ei phigo wrth iddo helpu i fwydo'r digartref mewn festri capel yng nghanol y ddinas. Hen reddf gymwynasgar yn delio 芒 hen broblem sy'n bodoli yng nghanol newydd-deb "Prifddinas ieuengaf Ewrop".

O ran cywair, ni all rhywun ond cynhesu at y diffuantrwydd hoffus a'r didwylledd amlwg drwy'r gyfrol gyfan.

O ran arddull, y mae'r bardd yn codi i'r tir uchaf ym myd y canu caeth. Dyma berl o englyn, 'Mwyara:

Er mor dew yw'r mwyar duon - yn hedd,
Eu llonyddwch ffrwythlon;
O fewn tir y fynwent hon,
Mwyara ni wna'r meirwon.

Ac mae eraill llawn cystal.

Peth braf yw gweld yn y gyfrol hon fod traddodiadau a chyneddfau cymdeithasol a chrefyddol yr hen Gymru yn dal yn ffrwythlon yn nhir y Gymru newydd.







Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 成人快手 Cymru'r Byd






About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy