|
|
Cymwynas
fawr â'r genedl
Llyfr penigamp yn werth pob ceiniog
Dydd Iau, Ionawr 23, 2003
|
Be Bop a Lula'r Delyn Aur
Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg gan
Hefin Wyn
Y Lolfa £14.95 -
ac yn werth pob ceiniog meddai ein hadolygydd, Dafydd Meirion
Mae hwn yn lyfr anhygoel! Mae'n dilyn canu poblogaidd Cymraeg
o'r 1940au tan yr 1980au ac hyd yn oed yn mynd mor bell yn 么l 芒'r
unfed ganrif ar ddeg. Mae'n anodd iawn meddwl am unrhyw beth sydd
wedi'i adael allan. Un camgymeriad yn unig welais i mewn bron i 400
tudalen, sef mai Hogia Llandegai sgwennodd 'Defaid William Morgan'.
Un beirniadaeth yn unig
Yr
unig feirniadaeth sydd gen i, yw nad yw, efallai, yn nodi'n ddigon
cryf y teimladau ynglyn 芒 chanu pop yn niwedd y 1960au a dechrau'r
1970au, pan roedd pop Cymraeg yn cael ei gynrychioli gan Hogia'r Wyddfa,
Perlau, Perlau Taf a'u tebyg.
Dyma oedd y cyfnod pan roedd gan lawer o ieuenctid gywilydd i fod
yn gysylltiedig 芒'r fath ganu. Roedd canu o'r fath yn gam ymlaen yn
natblygiad pop Cymraeg, ynteu cam yn 么l, gan nad oedd llawer o ieuenctid
eisiau dim i'w wneud ag o. Diolch am Y Tebot Piws a Meic Stevens ddyweda
i.
Gwrthwynebiad i ganu pop cynnar
Ar wah芒n i fynd yn 么l i s么n am feirdd y canol oesoedd a chantorion
y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu pop yr awdur yn dechrau yn
y 1940au. A diddorol yw nodi faint o wrthwynebiad oedd yna i hyd yn
oed Driawd y Coleg yr adeg hynny.
"Beth mewn gwirionedd sy'n Gymreig yn null y triawd o ganu caneuon
ysgafn? Nid yw'n ddim ond adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America,"
medd Brythonfab yn Y Cymro.
Roedd yna, hefyd, wrthwynebiad i gynnal cystadleuaeth sgiffl yn yr
Eisteddfod Genedlaethol ("It isn't music, but rubbish. The eisteddfod
is not the place for 'skiffle'," meddai un beirniad cerdd) ac
roedd hi'n gas gan Iorwerth Peate bod Hogia'r Wyddfa'n rhoi barddoniaeth
ar g芒n.
"Nid wyf am wrando ar ... ar osodiadau tila o 'Tylluanod', 'Creigiau
Aberdaron' a'r 'Llanc Ifanc o Lyn' a'r rheiny, eto fyth, wedi'u mwrdro
gan fampio diystyr y cyfeiliant piano," meddai.
Ac mae'r llyfr, hefyd, yn nodi'r ffraeo fu yna'n nyddiau'r cylchgrawn
Sgrech pan feirniedid grwpiau am gynnwys aelodau di-Gymraeg
neu hyd yn oed am nad oedd y grwp yn dod o'r Fro Gymraeg. Onid yw
hi'n syndod bod canu pop Cymraeg wedi datblygu o gwbwl!
Hen ddadl am ganu Cymraeg
Noda'r awdur fod grwpiau o Gymry Cymraeg yn mynnu canu'n Saesneg yn
y 1960au gan ddweud nad oedd y Gymraeg yn addas i ganu pop.
Ond 芒 ymlaen i ddweud "Y duedd oedd i Gymry Cymraeg gyfarch ei gilydd
yn Saesneg mewn dawnsfeydd Saesneg gan ei seilio fel iaith eu haelwydydd
am weddill eu hoes, oherwydd mai Saesneg oedd dawnsfeydd mewn ardaloedd
Cymraeg bod hyn wedi arwain at i gyplau Cymraeg fynd i siarad Saesneg
芒'i gilydd."
Fel un a fynychodd lawer o'r dawnsfeydd hyn, mi allai'ch sicrhau mai
'tshatio fodins' yn Gymraeg wnaem ni yn y cyfnod hynny er mai Saesneg
oedd y gerddoriaeth!
Ymchwil trylwyr
Mae'r
awdur wedi gwneud ei waith yn drylwyr. Mae'r llyfryddiaeth ar y diwedd
yn un faith. Yn eu mysg mae cyfeiriad at Y Tebot Piws a Disc Dawn
(rhaglen bop o'r 60au fu'n ddraenen yn ystlys dilynwyr pop ifanc
a'r anniddigrwydd yn cael sylw teilwng yn y llyfr) yn Beat Merchants:
The Origins, History, Impact and Rock Legacy of the 1960s British
Pop Groups!
Mae'r awdur yn gweithio ei ffordd yn araf o'r cyfnod cynnar, drwy'r
chwedegau i'r saithdegau a'r wythdegau gan nodi'r newidiadau a'r prif
chwaraewyr. Caiff rhai artistiaid, megis Meic Stevens, Geraint Jaramn,
Endaf Emlyn ac Edward H., fwy o sylw na'r gweddill, a da hyn gan bod
eu cyfraniad yn sylweddol.
Wrth fynd trwy'r blynyddoedd, mae gwahanol fathau o gerddoriaeth yn
cael ei sylw, o 'bop' y 1960au, i ganu roc Edward H y 1970au, i ffync
Bando, canu gwerin, reggae Jarman ...
Pennod ddi-fflach
Roeddwn i'n teimlo fod y bennod ar ganu gwerin braidd yn ddi-fflach,
ond dyna fo, does gen i fawr i'w ddweud wrth ganu gwerin, ac wrth
dynnu tua diwedd y llyfr roeddwn i'n dechrau fflagio; nid o bosib
am fod y llyfr yn rhy hir ond am nad oes gen i gymaint o ddiddordeb
yn y cyfnod diweddar.
Mae Hefin Wyn wedi gwneud cymwynas fawr 芒'r genedl; mae yna rai wedi
cael doethuriaeth am bethau salach.
Rhaid ei ganmol am gynnwys mynegai ar y diwedd; rhywbeth sydd ddim
yn cael ei gynnwys yn aml y dyddiau hyn.
Mae hwn yn lyfr i'w drysori a thrueni na fyddai'r wasg wedi darparu
cop茂au caled ohono. Ond ydy llyfr o'r maint yma, mor drylwyr 芒 hyn
at ddant pawb?
Rwy'n siwr bod yna le, hefyd, i lyfr ysgafnach, llai manwl, ac efallai
gyda rhagor o luniau. Yn sicr, dylai pob un sydd 芒 diddordeb mewn
canu pop cyfoes wybod 'chydig am y gwreiddiau, ond faint o bobol ifanc
y dyddiau hyn wnaiff ddarllen llyfr 400 tudalen?
i ddarllen mwy am y llyfr
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|