成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Mwy na'i haeddiant i dad Y Storm

Astudiaeth drylwyr a difyr o fywyd a gwaith Islwyn

Awst 2003

Islwyn, gan Glyn Tegai Hughes, Gwasg Prifysgol Cymru, 2003, 354 tt, 拢15.99
Adolygiad gan Grahame Davies.


Mae'n rhaid mai creadur digon arwynebol ydw i. Er fy mod wedi darllen Y Storm, cerdd fawr y bardd William Thomas (Islwyn), mae'n rhaid imi gyfaddef mai'r hyn a gofiaf fwyaf am yr awdur o'r Ynys-ddu yw ei eiriau olaf honedig.

Mwy o uchelgais na chyrhaeddiad

Fe gofir i Islwyn druan golli ei ddyweddi, Ann Bowen, pan fu hi farw yn annhymig yn 1853 ychydig cyn eu priodas arfaethedig, a dyna'r bardd ifanc yn mynd ati i fynegi ei hiraeth a'i ddryswch mewn cerdd faith, uchelgeisiol, sef Y Storm, cerdd a ddiwygiwyd ganddo yn nes ymlaen hefyd.

Ychydig o'r gerdd sy'n glynu yn fy nghof, a theg yw dweud ei bod yn fwy enwog yn gyffredinol am ei huchelgais na'i chyrhaeddiad.

Yr hyn sy'n glynu yn y cof yw'r geiriau yr honnir i Islwyn eu llefaru wrth iddo farw, chwarter canrif yn ddiweddarach. Erbyn hynny, roedd wedi priodi llysferch mam Ann Bowen drwy ei hail briodas (s么n am gynnau t芒n ar hen aelwyd).

"Diolch iti, Martha, am y cwbl a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. Rwyf yn mynd at Ann 'nawr."

Cwrtais, yn ddiau, ond ychydig yn tactless o dan yr amgylchiadau, a dweud y lleia'.

Ysgolhaig cydwybodol

Mae Glyn Tegai Hughes yn ysgolhaig llawer rhy gydwybodol i ganolbwyntio'n ormodol ar fanion fel geiriau olaf honedig.

Mae'r cwestiwn yna yn cael ei briod le, wrth gwrs, gydag ymchwil yr awdur yn dangos mai yn Saesneg yn 么l pob tebyg y llefarwyd geiriau olaf y bardd, gan mai dyna oedd iaith ei aelwyd briodasol, ac yn dangos hefyd fod 'na o leiaf dri fersiwn gwahanol o'r hyn a ddywedodd wrth ymadael 芒'r fuchedd hon.

Na, nid rhyw gasgliad o anecdotau yn unig a geir yma - er bod yma ddigonedd o rai blasus hefyd - ond enghraifft o ysgolheictod trylwyr i ryfeddu.

Eir i fanylder ynglyn ag achau teulu'r bardd, am hynt a helynt ei berthynas gydag Ann, am ei yrfa fel pregethwr, beirniad, cystadleuwr eisteddfodol a golygydd, ac, wrth gwrs, am ei waith fel bardd.

Cywirdeb a sylwgarwch

Ni allaf ond synnu at faint yr ymchwil a aeth i mewn i'r gyfrol hon. Mae'n hynod nid yn unig am grynswth ei chynnwys ond am gywirdeb a sylwgarwch y feirniadaeth.

Mae Islwyn yn sicr wedi cael ei haeddiant gyda chofiannydd a beirniad mor ddisglair yn treulio amser uwchben ei waith.

Bron na ddywedwn ei fod wedi cael mwy na'i haeddiant, achos, yn fy nhyb i o leiaf, mae 'na fwy o niwl nag o fellten yn storm fawr Islwyn o beth wmbreth.

Er mor feistrolgar yw dadansoddiad Glyn Tegai Hughes o destun Y Storm, teimlais weithiau fod y gorchwyl o dreulio'r fath ddoniau ar waith mor ddiffygiol ychydig fel cyflogi llawfeddyg i dorri torth - manwl, yn sicr, ond mwy manwl nag yr oedd y deunydd yn ei haeddu.

Teimlo dros yr awdur

Teimlais dros yr awdur yn treulio llawer mwy o ofal yn dehongli ac yn egluro gwaith crwydrol a digyswllt Islwyn nag yr oedd bardd hwnnw ei hun wedi trafferthu ei wneud wrth lunio'i waith .

Yn wir, credaf imi synhwyro, er gwaetha' cydwybodolrwydd amlwg yr awdur, ryw ddiffyg amynedd gydag Islwyn ar ei ran yntau o bryd i'w gilydd. "Nid yw byth yn hawdd gwybod at beth yn hollol y mae Islwyn yn cyfeirio", meddai mewn un man. Amen ddywedaf innau.

Wrth s么n am arfer Islwyn o greu geiriau cyfansawdd drwy eu clymu gyda'r gair "byd", er enghraifft "byd-ddyfnder" a "byd-gwmwl", fe ddywed: "Dichon mai ymgais oedd y ddyfais yn y lle cyntaf i gwmpasu popeth, i gofleidio'r holl ddaear neu, a bod yn llai haelfrydig ein barn, i bwmpio gwynt i enwau ac ansoddeiriau cyffredin at wasanaethy syniad o arucheledd."

Un enghraifft o ddawn dweud yr awdur yw hwnna, a cheir degau tebyg.

Cyffyrddiadau o hiwmor

Ceir cyffyrddiadau da o hiwmor hefyd, fel pan sonnir am Islwyn yn mynd ar daith bregethu i godi arian at yr Hen Gorff yn Sir Aberteifi: "nid y dasg hawsaf, gellid tybio".

Dyna fo wedyn yn s么n am fynych gwynion Islwyn ei fod wedi'i lethu gyda'i weithgaredd diflino fel beirniad ac eisteddfotwr:
"Fe'n temtir i ddweud os oedd yn mynd ati fel lladd nadroedd, mai cyrff penbyliaid a gafwyd yn rhy aml ar faes y frwydr."

Llawysgrifen IslwynRhaid imi gyfaddef imi ddechrau diffygio braidd yn y penodau ar gefndir deallusol Y Storm, ac yn ystod y dadansoddiad manwl ar y gerdd ei hun.
Ond mae'r gyfrol yn bywiogi gryn dipyn yn y penodau canlynol wrth inni ddilyn trywydd mwy bywgraffyddol ac olrhain ail briodas Islwyn a'i yrfa ddiweddarach.

"Y methiant mwyaf ysblennydd yn hanes ein ll锚n," oedd barn R Williams Parry ar Islwyn, ac nid yw llyfr Glyn Tegai Hughes yn newid y farn honno, nac yn ceisio gwneud ychwaith.

Yr hyn a wna yw gosod y cyd-destun hanesyddol a deallusol yn hynod o lwyddiannus, a dadansoddi'r testun a seicoleg y bardd gyda threiddgarwch a chraffter rhyfeddol ac, yn aml iawn, gyda ffraethineb sych.

Anodd yw dychmygu gwell llyfr ar Islwyn na hwn.

Bywiogrwydd Cymraeg

Fel nodyn i gloi, un o'r pethau sy'n synnu rhywun wrth ddarllen y llyfr hwn yw bywiogrwydd bywyd Cymraeg yr hen Sir Fynwy yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg - yn ferw o gapeli, cyfnodolion, a chymdeithasau llenyddol Cymraeg- a hynny mewn mannau yr ystyriwn bellach fel rhai Seisnigedig iawn, megis Brynmawr, Tredegar, a Chasnewydd.

Dyna gynhysgaeth gyfoethog y dylid ei dwyn mewn cof wrth i'r brifwyl ymweld 芒'r ardal hon yn 2004, yn sicr. Braf fyddai meddwl y daw o'r ardaloedd hyn eto feirdd a llenorion fel Islwyn - er, wrth gwrs, y gellir gobeithio eu bod ychydig yn fwy cryno eu harddull.

Cyfle i chi fynegi barn - ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 成人快手 Cymru'r Byd






About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy