成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Tua'r Gorllewin


Mentro yn y Merica

Mai 2003

Gwladychu'r Cymry yn yr American West gan Eirug Davies. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.50

Adolygiad Dafydd Meirion

Llyfr ydy hwn ar hanes y Cymry a ymsefydlodd yn y Gorllewin Gwyllt, er i'r cyfeiriadau yn bennaf fod ar daleithiau Minessota, Kansas, Missouri, Oregon.
Beth am y Dakotas, Montana, Wyoming, Texas, Arizona?

Ond mae yna gyfeiriadau tuag at Batagonia, a thrwy'r llyfr mae s么n am ymdrechion i sefydlu Gwladfa yn y fan honno.

Cymunedau Cymraeg

Penderfynu aros yn America wnaeth y rhan fwyaf o'r Cymry er bod yna gryn bwysau arnyn nhw i fynd i'r de i sefydlu cymunedau Cymraeg.

Ac, yn wir, hyn a gwella safon byw oedd y cymhelliad i symud tua'r gorllewin.

"Er bod llawer o'r ardaloedd [yn y dwyrain] mor Gymreigaidd ag unrhyw le yng Nghymru, sylweddolwyd yn raddol na fedrai'r fath sefyllfa barhau ac mai rhywbeth dros dro ydoedd. Yr ... oedd cymysgedd o bobl o bob cenedl a dd么i i fyw'n gyson yn eu mysg ... a daeth awydd cynyddol ar y Cymry i aros gyda'i gilydd."

Ac meddai y Cenhadwr Americanaidd: "Oni fyddai ... cael gafael mewn dosran o ddaear dda ... i genedl y Cymry i'w gwladychu, lle cadwent eu haith ... heb fod mewn tlodi a than y fath orthrwm ag y maent yng Nghymru."

Pwy oedd yn iawn?

Ond tybed mai'r rhai ymfudodd i Batagonia oedd yn iawn? O leiaf, mae'r iaith wedi para yn fan'no er nad yw'r trigolion mor gyfoethog yn faterol.

Ond, fel yn ein dyddiau ni, mi roedd yna ramant yn perthyn i'r America, ac yn arbennig y gorllewin. Yn 么l D Humphrey a ymfudodd o Gymru i Vermont:

"Da y cofiwn pan eto ond bachgenyn am y siarad mawr yng Nghymru am ddyffryn anferth y Mississippi a'r awydd mawr a feddai y bobl am fyned yno, yn enwedig i diriogaeth Wisconsin. Ifan Sion ... a ddywedai, 'Mi fysswn ina' yn leicio mynd i'r Wunsunconsun hwnnw'."

Tair ffordd o deithio

Ffermwyr oedd y rhan fwyaf a symudodd tua'r gorllewin. Ond nid pawb allai fynd gan fod angen cryn dipyn o arian.

Roedd tair ffordd o deithio - Rownd yr Horn, ar draws wddf Panama neu'r ffordd y cysylltwn ni 芒'r ymfudwyr - ar draws y peithdiroedd.

Roedd pob un o'r rhain yn costio rhwng $200 a $550 y pen! Roedd rhaid cychwyn "mor gynnar yn y gwanwyn ag y byddo'r glaswellt wedi tyfu digon i'r anifeiliaid ei bori" sef rhwng Ebrill 1 a Mai 1.

'Yn finteioedd'

"Gellir cymryd gwedd o ychain, o fulod neu geffylau. Dylid trafaelu'n finteiodd o amgylch ugain o wagenni... Cymered gydag ef ddigon o ymborth i bara ei holl daith, a hefyd baratoi ar gyfer damweiniau ac angen, a gwneud ei lwyth mor ysgafn ag y byddo modd."

Y cwmn茂au tirol a gynorthwyai'r Cymry i symud tua'r gorllewin gan drefnu iddyn nhw brynu tir wedi cyrraedd. Ac unwaith eto roedd angen gryn dipyn o gelc (er yn sicr yn llai na fyddai ei angen yng Nghymru).

Byddai tai yn costio rhwng $130 a $260 i'w codi a ffensys $192 y filltir a hyn yn ychwanegol i bris y tir. Roedd y cwmn茂au tirol hyn yn "cynghori darpar ymsefydlwyr oedd yn brin o arian i beidio myned yn union ... ond aros i weithio yn y Taleithiau Dwyreiniol nes ennill digon o arian i gychwyn yn gysurus gyda'u ffermydd yn y Gorllewin".

Tir a thywydd

Ond nid arian yn unig oedd yn rhwystr. Roedd, hefyd, y tirwedd a'r tywydd. Ceir cyfeiriad at "underbrush mor dew fel y buasai yn ofynol i wnigen gael spectol cyn gweled ffordd trwodd". Ceir cyfeiriad at gorwyntoedd a sychder a thywydd oer. Ond prin iawn yw'r rhain, a dyna o bosib yw gwendid y llyfr. Does yna fawr o brofiadau personol o'r anhawsterau oedd yn wynebu'r rhai oedd am "wladychu'r" Gorllewin Gwyllt.

Cyfeirio at ffermio yn bennaf y mae'r llyfr, ynghyd ag at ambell fasnachwr wnaeth wella'i fyd yn sylweddol. Does ond un cyfeiriad at y ranchers, a hwnnw oedd Walter Jones neu Cattle Jones, The Cattle Baron of Texas. Does dim s么n am y Cymry 'cyffredin'.

Y rhai nad oedd ganddynt arian i ddechrau ffermydd, y cowbois nodweddiadol. Does ond un cyfeiriad at Indiaid, a hynny:
"Nid yw bobl yn gallu dyrnu am fod yr Indiaid wedi dwyn eu ceffylau" a hynny yn Minnesota ble cafodd rhai cannoedd o Gymry eu lladd a'u hanafu yn ystod gwrthryfel y Sioux!

Cartref ar y paithUn cyfeiriad sydd yna, hefyd, at yr ymladd nodweddiadol o'r Gorllewin. Does dim s么n am y Range Wars rhwng y gwahanol ffermydd mawrion, ac mae'r unig gyfeiriad at ymladd yn dod o gyfnod cyn y Rhyfel Cartref pan oedd dwy farn yngl媒n 芒 chaethwasiaeth yn Kansas.

"... yn gwylio y ffordd o'r gorllewin, y sefydlai ein gw媒r ein hunain ... Y bwledi a chwyrnellid o'u hamgylch fel cenllysg," ac mae'n debyg bod unarddeg o ddynion oedd yn gwrthwynebu caethwasiaeth (fel oedd y rhan fwyaf o'r Cymry) wedi cael eu lladd.

Dihirod Cymreig

Does yna ddim s么n chwaith am y dihirod Cymreig ar wah芒n i fwynwyr Califfornia.

"Drwg gennyf ddweud fod llawer yn ymollwng i demtasiynau wedi dyfod i'r wlad yma, rhai oeddynt yn aelodau heirdd mewn eglwysi pan gartref, ond yma yn afradlonaidd; rhai pan gartref, oeddynt yn pregethu yr efengyl, ond yma yn ymborth ym mhlith y moch a'r cibau." Braf fyddai wedi clywed rhagor am y dynion 'diddorol' hyn!

Ond mae yma doreth o wybodaeth ddifyr a da eu bod wedi'u cofnodi.

Llyfr 92 tudalen ydy hwn ond dwi'n siwr fod yna lawer o wybodaeth mewn dyddiaduron a chyhoeddiadau am anturiaethau a phrofiadau'r bobol fentrus hyn. Dalied ati gan obeithio y cawn ragor gan Eirug Davies ar y pwnc difyr hwn.




Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 成人快手 Cymru'r Byd






About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy