|
|
Adnabod
bro drwy ei cherddi
Cyfrol sy'n profi fod mwy i Abertawe na Dylan Thomas
Dydd Iau, Rhagfyr 26, 2002
|
Cerddi Abertawe ²¹â€™r Cwm (gol. Heini Gruffudd). Gwasg Gomer, £6.95
Adolygiad: Eiry Miles
Cysylltir Abertawe’n bennaf â llenyddiaeth Eingl-Gymreig, a chred
llawer hyd heddiw mai dinas Seisnig yw hi.
Derbyniodd Dylan Thomas a chriw’r Kardomah lawer o sylw ar draul gweithgarwch
llenyddol Cymraeg y fro, ond daeth cyfle yn awr i unioni’r cam hwnnw.
Yn y gyfrol Cerddi Abertawe ²¹â€™r Cwm, y drydedd yng nghyfres
Cerddi Fan Hyn, llwydda Heini Gruffudd i brofi nad dinas Dylan
yn unig yw hon.
Hagrwch a harddwch
Yr hyn sy’n ei gwneud yn gyfrol arbennig o ddifyr yw’r ffaith fod
Abertawe ei hun yn ardal mor amlweddog.
Rai milltiroedd o Fro Gwyr ( a glustnodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol ) mae creithiau diwydiannau trwm, a hagrwch yr adeiladau
modern a godwyd blith-draphlith wedi’r rhyfel.
Rhaid canmol y golygydd am ddewis cerddi sy’n adlewyrchu’r cyferbyniadau
hyn.
Er ei bod yn llai na chant a hanner o dudalennau, mae’r gyfrol yn
delio â chyfnod eang, ac yn rhoi lle i feirdd o bob math.
O'r Oesoedd Canol hyd heddiw
Mae ynddi gerddi gan feirdd o’r Oesoedd Canol, a chan feirdd cyfoes
megis Mari George a Mari Stevens.
Cawn gerddi gan y prifeirdd Emyr Lewis, Robat Powel ac Alan Llwyd,
a beirdd llai cyfarwydd fel Prys Morgan, sy’n fwy adnabyddus fel hanesydd
na bardd.
Nid ‘Âá²¹³¦²õ’ yw’r beirdd i gyd chwaith; cawn gerddi twymgalon
i’r ardal gan ei brodorion, ond mae Bryn Road Tudur Hallam
yn mynegi teimladau chwithig mewnfudwr i’r fro.
Rhoddir hefyd le i waith y byddai rhai yn gyndyn o’i alw’n farddoniaeth,
sef geiriau caneuon pop Huw Chiswell a Neil Rosser.
Heli'r môr
Fel y gellid disgwyl, mae’r môr yn elfen amlwg yn nifer o’r cerddi
gyda Glas gan Bryan Martin Davies yn sôn yn hiraethus am dripiau’r
bardd i’r Mwmbwls yn blentyn.
Mae’r môr yn gefnlen hudolus i brofiadau serch Mari George yn ei cherddi.
Gwylltineb a chreulondeb y môr sydd yn Bywydfad y Mumbles gan
John Rees, ²¹â€™r môr yn adleisio gwewyr meddwl Islwyn yn dilyn marwolaeth
ei gariad yn y gerdd Atgofion Serch.
Cerddi natur yw nifer o gyfraniadau Alan Llwyd i’r gyfrol, a disgrifio
adfywiad byd natur ar ôl cau’r gweithiau diwydiannol a wna Dangosaf
iti lendid gan Dafydd Rowlands.
Eithr ceir awgrym yn ei gerdd Y Pentref Hwn nad yw pethau o
angenrheidrwydd yn well, ac mae Yr Hen Waith Tun gan Abiah
Roderick yn disgrifio cymdeithas yn chwalu yn sgil diweithdra.
Perfformiad
Cerddi a berfformiwyd o flaen cynulleidfaoedd yw llawer o gerddi hynaf
y casgliad, sy’n rhoi cip i ni ar gylchoedd barddonol bywiog a fu
yn yr ardal, a rhydd cerdd Crwys i Graig-Cefn-Parc ddarlun o gymdeithas
ddiwylliedig a Chymraeg ei hiaith.
Er hyn, nid yw’r gyfrol yn cyflwyno darlun delfrydol o Abertawe a’i
phobl. Yn y gerdd Suburbia gan Aneirin Talfan Davies, trafodir
y maestrefi oeraidd a ddisgrifiodd Saunders Lewis yn ei nofel Monica.
Mae Croeso Capel gan J.Gwyn Griffiths yn sôn am anfoesgarwch
addolwyr ei gapel tuag at ei wraig, a cherdd Prys Morgan, Bro Gwyr
, yn beirniadu ‘cryg werinos’ Seisnig y fro.
Disgrifiadau cignoeth
Nid rhamantu a hiraethu am ‘oes aur’ a wneir yn y gyfrol ychwaith;
cawn ddisgrifiadau cignoeth o ddioddefaint y gweithwyr diwydiannol
yn Y Meirwon gan Gwenallt.
Yn anochel, mae Caerdydd yn aml yn gocyn hitio, megis yng ngherdd
grafog Robat Gruffudd, Second Siti.
Lladd ar Gaerdydd a wn²¹â€™r bardd canoloesol Lewys Glyn Cothi
hefyd, yn ei gerdd I Ddymuno Iachad i Ddafydd ap Siôn.
Ynddi, mae’r bardd yn annog Dafydd ap Siôn i arwain pobl Abertawe
mewn ymosodiad ar Gaerdydd. Ymddengys nad peth newydd felly yw gelyniaeth
y Swans ²¹â€™r Bluebirds!
Angen egluro
Ar y cyfan, mae’r cerddi i gyd yn ddealladwy, ac aralleiriad Cynfael
Lake o’r cerddi canoloesol yn cyfleu ysbryd y cerddi gwreiddiol.
Ond, o bryd i’w gilydd, credaf y byddai rhywfaint o wybodaeth am gefndir
y cerddi yn eu cyfoethogi.
Penderfynodd golygwyr y gyfres beidio â chynnwys nodiadau ysgolheigaidd,
ond efallai na fyddai darllenwyr iau yn llwyr werthfawrogi cerddi
megis Y Tangnefeddwyr gan Waldo a sonedau carchar T.E. Nicholas
heb wybod am effaith andwyol y rhyfel ar Abertawe.
Er hyn, llwydd²¹â€™r casgliad i gyflwyno darlun lliwgar a bywiog
o Abertawe o’r Oesoedd Canol hyd heddiw, ²¹â€™r newidiadau mawr a fu
dros y canrifoedd.
Ond nid dinas sy’n byw yn y gorffennol yw hi; tôn herfeiddiol sydd
i gerdd Mari Stevens, Cul Cymru. Iddi hi, mae Abertawe’n ddinas
fyw, ddeinamig a Chymreig o hyd:
Hi sy’n meddwi
ar ddwyieithrwydd
ac ecstasi dinesig
sy’n pwmpio bît newydd
i’w Chalon Lân.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig
a'r Calan
|
|
|