|
|
Yr
hen ffordd - Geltaidd - o weld pethau
Cyfrol arloesol am weledigaeth gelfyddydol yr hen Geltiaid
Dydd Iau, Rhagfyr 12, 2002
|
Mae un o gerflunwyr amlycaf Cymru yn "tanseilio'n llwyr"
y syniadau traddodiadol ynglyn 芒 chelfyddyd y Celtiaid mewn llyfr
newydd.
Mewn astudiaeth sy'n cael ei disgrifio fel un "arloesol"
a "newydd" gan y cyhoeddwyr, mae John Meirion Morris yn
trafod perthynas celfyddyd y Celtiaid 芒'u credoau.
"Cyflwynir safbwynt cwbl newydd ar elfennau'r gelfyddyd hynafol
yn Y Weledigaeth Geltaidd, ac y mae disgwyl i'r gyfrol fod
yn gyfraniad ysgytwol i'r drafodaeth," meddai'r Lolfa.
Mwy na phatrymau
Ac meddai John Meirion Morris: "Y mae f'y astudiaeth wedi f'y argyhoeddi
fod mwy i'r gelfyddyd soffistegedig hon na phatrymau addurniedig a
siapiau amwys, chwedl llawer o sylwebyddion.
"Y mae fy astudiaeth wedi fy argyhoeddi hefyd, fod i gelfyddyd
La T猫ne seiliau crefyddol.
"Myfyrdod neu deimlad mewnol sy'n rhoi bod i'r gweithau hyn, symbolau
ydynt. Y maent yn 'cynrychioli' pwerau ac y mae'n amlwg i mi fod gan
yr artistiaid, a'r gymdeithas yma ymwybyddiaeth sylfaenol o gylch
bywyd ac o lonyddwch ysbrydol."
Dros 150 o ddarluniau
Er mwyn esbonio ac atgyfnerthu ei ddadl a dangos cysondeb rhyfeddol
them芒u y gelfyddyd, defnyddia'r awdur enghreifftiau o greiriau Celtaidd
o bob rhan o Ewrop, ac mae'r gyfrol yn cynnwys dros 150 o ddarluniau
llawn-lliw trawiadol.
Cymherir celfyddyd y Celtiaid gyda chelfyddydau eraill, hynach a chyfoes.
Cyfeirir at chwedlau hynafol fel y Mabinogion yn ogystal, 'Mae edrych
ar ein traddodiad llenyddol ni'r Cymry drwy sbectol theori John yn
brofiad cyffrous iawn.' meddai Mared Roberts o'r Lolfa.
"Mae'r un them芒u yn codi dro ar 么l tro, bron nad ydi rhai o'r delweddau
ar y creiriau yma, fel y panel o Bair Gundestrup sy'n ymddangos ar
glawr-么l y gyfrol yn cynnig animeiddiad o rannau o'r Mabinogi!"
Hawdd ei darllenEr yn bwnc astrus, mMae'r cyhoeddwyr yn
disgrifio Y Weledigaeth Geltaidd fel cyfrol "hawdd iawn i'w
darllen a'i deall" ac i'r diben hwnnw bu'r Athro Gwyn Thomas yn cydweithio
gyda John Meirion Morris i greu fersiwn "hylaw a chyffrou" o ymchwil
yr awdur.
"Fel gweddill Cyfres Celf 2000 - Cymru o Hud, Aneurin
a Delweddau o'r Ymylon - mae'r diwyg a'r cynhyrchu o safon
uchel," meddai Mared Roberts o'r Lolfa.
"Mae'r Lolfa wedi cyhoeddi sawl llyfr uchelgeisiol iawn yn ddiweddar,
heb os, Y Weledigaeth Geltaidd ydy pinacl hyn. Rydan ni'n edrych ymlaen
yn fawr at glywed ymateb pobl i'r gyfrol.'
Cerflunydd dylanwadol
John Meirion Morris yw un o gerflunwyr mwyaf dylanwadol Cymru. Dywed
Iwan Bala fod ei waith "yn gyfoes ac yn oesol ar yr un pryd."
Ysbrydolir ef gan gelfyddydau hynafol, a chan gelf a chwedloniaeth
y Celtiaid yn arbennig, a dyna oedd dechreuadau y gyfrol hon.
Y mae'n byw ym Mrynrefail, Arfon, ond daw yn wreiddiol o Lanuwchllyn.
Y Weledigaeth Geltaidd gan John Meirion Morris. Y Lolfa. 拢24.95
(clawr caled) 0 86243 554 4
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig
a'r Calan
|
|
|