|
|
Llyfr
teilwng o arwr cenedlaethol
Cyflwyno cymeriadau hanesyddol o gig a gwaed
Dydd Iau, Tachwedd 28, 2002
|
Owain Glyn Dwr, Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru gan R. R. Davies Lolfa.
£6.95.
Adolygiad gan Si芒n Ifan o Lysgenhadaeth Glyndwr, Caerdydd
Er gwaethaf ymdrechion y 'gwybodusion academaidd' a'r 'llyfwyr tinau
gwasaidd' i bardduo a dileu hanes ein harwr cenedlaethol mwyaf allan
o dudalennau hanes - fel petai'r hanes hwnnw yn daten boeth yn eu
dwylo - mae hanes Tywysog Owain Glyndwr, wedi goroesi diolch i l锚n
gwerin a nifer fechan o haneswyr gwladgarol ffyddlon.
Llanw wedi troi
Ac, yn wir, yn ystod y cyfnod yma o goff谩u 600 mlwyddiant y Rhyfel
Mawr dros Annibyniaeth ymddengys fod y llanw wedi troi gyda mawredd
Tywysog Owain Glyndwr yn derbyn, yn raddol, y gydnabyddiaeth mae'n
deilwng ohono.
Cydnabyddir y mawredd yma mewn llefydd reit annisgwyliadwy a dweud
y gwir.
Yn y p么l piniwn hwnnw gan bapur newydd Prydeinig The Times
ar droad y mileniwm er enghraifft ac mewn un arall gan y 成人快手 y llynedd
ar gyfer y rhaglen Great Britons ac hefyd gan arlywyddion gwleidyddol
fel Fidel Castro.
Yn ei wlad ei hun
Ond yr un mor arwyddocaol 芒 phwysig yw'r gydnabyddiaeth sy'n cael
ei meithrin i Dywysog Owain Glyndwr yn ei dywysogaeth frodorol.
Erbyn hyn mae nifer y cymunedau sy'n trefnu gweithgareddau i goff谩u
a dathlu cyfnod 600 mlwyddiant y Rhyfel Mawr dros Annibyniaeth Gymreig
yn cynyddu'n flynyddol.
Ac mae Dydd Owain Glyndwr yn cael ei anrhydeddu gan y Cynulliad a
nifer gynyddol o gynghorau Cymru yn chwifio baner frenhinol Owain
Glyndwr ar Fedi 16.
Tystiolaeth ychwanegol o'r gydnabyddiaeth newydd yma yw'r nifer o
lyfrau sydd wedi ymddangos am Dywysog Owain Glyndwr ers y flwyddyn
2000.
Y
diweddaraf o'r rhain yw cydweithrediad rhwng Y Lolfa a'r Athro R.
R.Davies - sydd eisoes wedi ysgrifennu llyfr academaidd cynhwysfawr,
yn Saesneg, o dan y teitl The Revolt of Owain Glyn Dwr - gwaith
sy'n anhepgor ar gyfer unrhyw un sydd am astudio'r pwnc i ddiben academaidd.
Mae'r llyfr diweddaraf yma'n gwbl wahanol o ran maint, arddull ac
iaith.
I'r darllenydd cyffredin
Fel y dywed yr awdur yn ei ragair, mae Owain Glyn Dwr wedi
ei ysgrifennu mewn dull sydd o fewn cyrraedd y darllenydd cyffredin.
Felly, dyma lyfr y gellir ei ddarllen o glawr i glawr yn rhwydd ar
daith hir mewn tr锚n, d'wedwch, a diweddu'r daith yn teimlo ichi ddod
i adnabod Tywysog Owain Glyndwr a'i gyfnod yn gymaint gwell na chynt.
A hynny heb orfod pori mewn twmpath o weithiau academaidd - rhywbeth
na fyddai'r darllenydd cyffredin yn dueddol i'w wneud. .
Mewn iaith seml, ddealladwy iawn, mae'r awdur yn cyflwyno darlun o
sefyllfa wleidyddol Cymru'r cyfnod gan ddangos sut, y bu i'r gyfres
o ddigwyddiadau ddatblygu i fod yn ddim llai na rhyfel i adennill
annibyniaeth i Gymru a'i phobl.
Pobl o gig a gwaed
Wrth i ddarnau'r jig-so hanesyddol a gwleidyddol gael eu gosod yn
eu lle ceir cyfle i gyfarwyddo a'r prif gymeriadau fel rhai cig a
gwaed 'carismatig' y gellir uniaethu a nhw.
Er enghraifft, mae'r awdur yn disgrifio'r Cadfridog Rhys Gethin fel
"Che Guevara'r gwrthryfel".
Ar wah芒n i Dywysog Owain Glyndwr - a oedd, yn 么l y disgrifiadau, yn
arweinydd cenedlaethol poblogaidd, yn filwr medrus a gwladweinydd
craff gyda'i ffydd yn ddwfn yn y proffwydi a'r traddodiadau ac sydd
yn berchen dawn y Scarlet Pimpernel - mae'r prif gymeriadau
eraill i gyd yn haeddu cael eu hatgyfodi ar ffilm hefyd.
Fyddai dim rhaid eu creu!
Prif amcan Llysgenhadaeth Glyndwr yw hyrwyddo hanes Tywysog Glyndwr
a'i Ryfel Mawr dros Annibyniaeth mewn modd bywiog sy'n mynd i uniaethu
Cymry heddiw a'u gorffennol arwrol.
Diben hynny yw deffro a meithrin ymwybyddiaeth a balchder cenedlaethol
yn y Gymru fodern sydd ohoni.
Hybu ymgyrch
Yn ein tyb ni, gan fod y llyfr yma o yrfa Tywysog Owain Glyndwr a'i
gyfoeswyr yn un mor ddifyr a bywiog a rhwydd i'w ddarllen, ni all
ond bod yn ychwanegiad amhrisiadwy i'r ymgyrch i wireddu amcanion
y Llysgenhadaeth i greu cenedl newydd o 'Bobl Glyndwr'.
Yn enwedig pe cyfieithid y llyfr ar gyfer y Cymry difreintiedig hynny
sydd wedi eu hamddifadu o'u mamiaith.
Mae Llysgenhadaeth Glyndwr felly yn croesawu'r llyfr yma'n fawr iawn
a byddem yn sicr yn ei ychwanegu at y rhestr o lyfrau ar ein safle
gwe.
Am 拢6. 97 mae'n anrheg gwerth chweil ar unrhyw adeg o'r flwyddyn -
ac yn arbennig yn ystod y cyfnod hwn o goff谩u y Rhyfel Mawr am Annibyniaeth
1400-22.
Gwefan Llysgenhadaeth Glyndwr www.Embassy-glyndwr.co.uk
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|