|
|
Newid
byd wrth werthu llyfrau
Ond er gwaethaf pob chwyldro mae llyfrau yma o hyd . . .
Dydd Iau, Tachwedd 21, 2002
|
Dydi cadw siop lyfrau ddim yr hyn oedd o. Erbyn hyn, th芒l hi
ddim sefyll y tu 么l i lathen o gwonter yn disgwyl cwsmeriad. Yn hytrach,
rhaid mentro allan i ganol pobl i werthu.
Dyna brofiad Gwyn S茂on Ifan, rheolwr siop Awen Meirion sy'n dathlu
ei phen-blwydd yn 30 oed yn Y Bala eleni.
Mynd o'r siop
Ac wrth edrych yn 么l dros flynyddoedd cyffrous yn hanes y diwydiant
cyhoeddi a recordiau Cymraeg mae Gwyn yn edrych ymlaen yn frwdfrydig
tuag at y dyfodol hefyd.
"Erbyn hyn, fedrwn ni ddim disgwyl i bobl weld be sy ar gael trwy
ddod i mewn drwy'r drws yn unig," meddai.
"Mae'r amser wedi hen ddod i ni fynd 芒 llyfrau at ein cwsmeriaid.
Felly, dwi'n mynd o amgylch ysgolion a chymdeithasau yn gwerthu llyfrau.
"Dwi'n gweithio'n galed i hyrwyddo llyfrau ac i wneud hynny mae'n
bwysig mynd allan i'w dangos.
Awduron yn y siop
"Yn ddiweddar dwi hefyd wedi bod yn gwerthu a hyrwyddo llyfrau drwy
gael awduron yma i'r siop ac yn cynnal sesiwn lofnodi. Mae hyn yn
rhoi cyfle i'r darllenwyr ddod i adnabod awduron yn ogystal 芒 bod
yn ffordd o hyrwyddo gwerthiant a drwy hynny cael bobl i'r siop."
Wrth edrych yn 么l dros ei flynyddoedd yn y siop ychwanegodd:
"Mae'n swydd sydd yn dod yn fwy o sialens ac oherwydd y gystadleuaeth
hyrwyddo sydd dros y we, mae'n golygu bod yn rhaid i siop fach fel
Awen Meirion ehangu a'r cam nesaf fydd sefydlu ein tudalen ein hunain
ar y we.
"Ar hyn o bryd mae na nifer o gwsmeriaid yn cysylltu drwy e-bost -
rhai o'r America, Yr Eidal, Awstralia, ond mae'n rhaid agor drws y
siop yn bellach a bydd tudalen ar y we yn mynd ar draws y byd," meddai.
Ond nid ar draul y siop ei hun y digwydd hynny gan fod Gwyn yn paratoi
i ail-ddodrefnu'r siop ei hun hefyd.
Menter gydweithredol
Siop sy'n cael ei rhedeg gan 17 o gyfarwyddwyr ydi Awen Meirion gyda
Gwyn S茂on Ifan yn rheolwr.
"Ar hyn o bryd fi sy'n rheoli'r siop ond mae'r ochr gydweithredol
yn dal i barhau," meddai.
Ond er gwaethaf pob newid a chwyldro mae Gwyn yn sicr o un peth -
fod dyfodol y llyfr fel cyfrwng yn ddiogel.
"Yn rheolwr ers deuddeng mlynedd, mae yna lot fawr o newid wedi bod
dros y blynyddoedd ac yn ddiweddar mae dylanwad technegol wedi bod
yn rhyfeddol gyda'r CD yn disodli'r feinyl ym maes recordiau a chyn
bo hir bydd casetiau yn diflannu i wneud lle i ddisg gyda Wil Cwac
Cwac a Dai Jones i'w gweld ar DVD.
"Wrth gwrs fel pob peth mae'n rhaid newid ond un peth y gwelaf barhad
iddo yw'r llyfr. Er bod cymaint o bethau ar gas茅t a CD y fedra i ddim
gweld siop Awen Meirion heb lyfrau ar ei silffoedd," meddai.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|