|
|
Ceinion
Llyn ac Eifionydd
Detholiad o gerddi am fro rhwng môr a mynydd
Dydd Iau, Tachwedd 14, 2002
|
Cerddi Llyn ac Eifionydd. Golygydd: R. Arwel Jones. Cyfres
Cerddi Fan Hyn. Gomer. 拢6.95
gan Ioan Mai Evans
Dyma'r gyfrol gyntaf yng nghyfres newydd Gwasg Gomer, Cerddi Fan Hyn
Sawl hen ffefryn
Cyfrol raenus sydd wedi llwyddo i gywain dros gant o gerddi amrywiol
gan feirdd cyfoes amlwg fel Iwan Llwyd, Meirion MacIntyre Huws, Myrddin
ap Dafydd a Twm Morys.
Hyn oll yn gymysg 芒 sawl hen ffefryn fel c芒n Huw Puw (J.Glyn Davies),
Cwm Pennant (Eifion Wyn), Aberdaron, a Pen Draw'r Byd gan Cynan
Cawn hefyd bymtheg cwpled a gyfansoddodd Cynan yn ystod ei ddyddiau
olaf pan yn ffilmio ar benrhyn Llyn ac yntau fel pe'n ymdeimlo 芒'r
machlud ar orwel y m么r di-ffin,
fermiliwn, fioled, oraens a gwin.
Yn nodweddiadol o Cynan roedd am rannu ei brofiad;
Os mynnwch ddal bendith y machlud eich hun,
Ewch yn yr ysbryd i ben draw Llyn.
Enwau ffermydd
Tipyn o gamp ddywedwn i oedd i W.J.Williams, lunio saith englyn fel
hwn gydag enwau gwahanol ffermydd yn Llyn:
Tanyfoel, Brynmoel, Brynmair - Tanrallt
Ty'nrynn a Chefnllanfair,
Bryngwdyn, Bronygadair,
Pont y Go a Punt y gwair.
Syndod meddwl am y cyfrolau o hanes sydd i'r naw fferm nesaf, gan
ddechrau yn gyfoes gyda Bodegroes, sydd newydd gael ei anhrydeddu
yn fwyty gorau Prydain -
Bodegroes a Brynhunog y Mela
Brynmoelyn a Cherniog,
Bronygaer a Brynyg么g,
Gwernallt a'r Dafarngorniog.
Hen win
Oes gwell gwin na'r hen win a brofodd R.Williams Parry, a sawl un
arall yn Eifionydd?
Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win.
Hen, hen yw murmur Ilawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan
Yn swn dyfroedd Afon Dwyfach yn yr un cwmwd yr ymlaciai awdur 'Mae'r
gwaed a redodd ar y groes', Robert Ap Gwilym Ddu:
Cefais awr o ddistawrwydd
Uwch ei phen i'r awen rwydd;
Awr fach ymhlith oriau f'oes,
Fwynaf o oriau F'einioes.
Mynd a dod
O'r niter o feirdd sydd yn y gyfrol deuwn heibio i un anhysbys sydd
wedi canu deg o benillion sy'n ddadleniad o'r newid syfrdanol yn hanes
trafnidiaeth:
Ar Benrhyn Llyn
Y ffyrdd oedd o gyflwr difrifol -
Yn bydew, a hynod o gul,
Ni fedrai fawr ddim fynd trwyddynt
Ond pobol ac ambell i ful.
Pwy bynnag oedd y rhigymwr fe osododd y Ilwyfan i unrhyw ymchwilydd
a garai olrhain hanes Bysiau'r Tocia a weddnewidiodd y penrhyn a thref
Pwllheli yn ogystal fel y cydnebydd yr anhysbys:
Mae'r Tocia o hyd yn y gorchwyl
Naill deulu yn dilyn y Ilall
Yn ddiwyd a hynod ofalus,
Ac ynddynt ni welwyd un pall.
Mae ganddynt hwy naw o foduron,
A rheini'n mynd allan bob un,
Yn debyg i hyn mae'r drafnidiaeth
Sydd wedi cynyddu yn Lleyn.
Tad a mab
Calondid oedd darllen gweithiau tad a mab o gwmwd Eifionydd .Y tad
Twm Prys Jones,:
Eifionydd
Unwaith, celwydd oedd, henoed
Nain a'i gw锚n ger y L么n Goed,
Ei haur hi oedd geiriau hen;
Rhywiog oedd ei chystrawen
Haf uniaith oedd Eitionydd
Hirfelyn heb derfyn dydd.
Mor gyfoes ydyw camp y mab, Ifan Prys Jones, enillydd y gadair yn
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Oes mae yna her yn Y Storm:
Yn Llyn, o'r Eifl hyd y Ili-trigolion
Trwy'i gilydd sy'n codi
I ddweud na fydd ynddi hi
Dwristiaid a'u hawl drosti.
I'r rhai ohonom a gafodd y fraint o adnabod taid y bardd, y diweddar
John Henry Jones, Ty'n Llan, roedd yntau hefyd yn wythien aur.
Pleser ydyw cael Ilwyr gytuno 芒'r hyn a ddywed y broliant:
"Yn wahanol i gyfresi o gerddi bro y gorffennol, nid ar y beirdd ond
ar eu testun y mae'r pwyslais yn y gyfres hon, mae pob cerdd yn s么n
am yr ardal, ei hanes neu ei phobol."
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|