|
|
Geiriau
buddiol
Geiriadur newydd ar gyfer dysgwyr
Dydd Iau, Hydref 31, 2002
|
What's the Word for . . . Beth yw'r Gair am . . . gan Carol Williams.
Gwasg Prifysgol Cymru. £4.99.
Mae geiriadur cynhwysfawr yn rhywbeth y mae pob dysgwr yn ysu amdano
- a waeth pa iaith ydych chi'n ei dysgu fe ddywed dysgwyr wrthych
nad oes yna byth un sy'n ateb pob gofyn.
Gwir
hynny yn y Gymraeg hefyd er bod yna gryn gnwd ohonyn nhw erbyn hyn
ac wele un newydd arall gan Wasg Prifysgol Cymru.
Os geiriadur hefyd gan mai geirfa yn hytrach na geiriadur
ydi What's the word for . . . - Beth yw'r gair am . . . gan
Carol Williams sy'n cyflwyno dros fil a hanner o eiriau-pob-dydd.
Fodd bynnag, nid oes dadlau nad aeth cryn feddwl i'w gynllunio a hynny'n
golygu ei fod yn ddeniadol a hwylus o ran cyflwyniad gyda nifer o
luniau deuliw glas a du deniadol.
Defnyddir yr un lliw i dynnu sylw at ddywediadau sy'n defnyddio'r
gair dan sylw.
Y mae cymorth hefyd i ddod o hyd i ystyr geiriau sydd wedi treiglo
- er enghraifft pe byddai rhywun yn chwilio am y ffurf dreigledig
droed mae dull hwylus o ddarganfod mai troed oedd y
gair yn wreiddiol.
Trosiad uniongyrchol o eiriau sydd yma er y byddai'n siwr o fod yn
ddefnyddiol i ddysgwyr pe byddid wedi cynnwys ail air Cymraeg am yr
un gwrthrych pan yw hynny'n addas - er enghraifft dan bad ceir
eg (badau): boat ond dim sôn mai cwch yw gair rhai ardaloedd.
Ac, wrth gwrs, dydi bad ddim yn cael ei gynnig dan cwch
ychwaith.
Wrth gyflwyno'r geiriadur dywedir y bydd o help i ddysgwyr ddatblygu
sgiliau defnyddio geiriadur a gwir hynny.
Er iddo gael ei seilio ar eirfa a ddefnyddir i ddysgu Cymraeg fel
ail iaith i’r rhai 7–11 oed dywed y cyhoeddwyr y bydd yr amrywiaeth
o eiriau a'r diwyg yn sicrhau y bydd o werth i ystod oedran ehangach
a "rhai sefyllfaoedd iaith-gyntaf."
Bydd y nifer o luniau sy'n cael eu cynnwys yn fuddiol i athrawon gychwyn
trafodaeth efo dysgwyr mewn dosbarth.
Yn ogystal â'r llyfr ei hun y mae
hefyd ond dydi hi ddim yn cynnig yr holl eiriadur ar y we fel y byddai
rhywun yn meddwl ar yr olwg gyntaf.
Ond mae'r cyfan yn ychwanegiad buddiol ddigon.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|