|
|
Ffotos
a phytiau
Cyfrol sy'n eich denu i lannau'r Fenai
Dydd Iau,Hydref 17, 2002
|
Y
Fenai
Gwyn Parri Huws
Gwasg Gomer
Adolygiad gan Dafydd Meirion
Mi rydw i’n sgwennu’r adolygiad yma ar fore braf o Fedi, ac i ddweud
y gwir mi fysai’n llawer gwell gen i fod yn crwydro glannau’r Fenai.
Mae edrych ar y lluniau godidog yn y llyfr yma’n codi’r felan arna
i.
Mae yma luniau o’r Fenai yn yr haf a’r gaeaf, ddydd a nos, ar ddiwrnod
tawel ac yn nannedd y gwynt, ac ar lanw a thrai.
Cyfoeth bywyd
Maen nhw’n lliwgar, ac yn adlewyrchu cyfoeth bywyd bob ochr i’r culfor
- yn ddyn ac fel arall.
A
chulfor nid afon ydy’r Fenai meddai’r awdur. Mi ddylai o wybod gan
mai cyn gapten llong ydy o. Daw hynny’n amlwg wrth iddo egluro beth
mae pob bwi ar y Fenai yn ei olygu.
Mae’n sôn am y teitiau (lluosog llanw, medda fo), mae’n sôn am yr
adeiladau sy’n helpu morwyr wybod ble maen nhw a chadw i’r dwr dwfn
i osgoi’r peryglon, ac mae’n sôn pam fod rhaid ‘newid cyfeiriad’ ar
ganol y Fenai gan ei bod yn wahanol i bob ‘afon’ arall - mae dau ben
iddi!
Mae’n cychwyn ei daith yn y gorllewin ger Caernarfon ac yn ei gorffen
ger Ynys Seiriol yn y dwyrain, ac mae’n gwibio’n gyson o ochr Môn
i’r tir mawr heb amharu dim ar rediad y llyfr.
Gwybodaeth ddifyr
Mae yma bytiau o wybodaeth ddifyr iawn yn cyd-fynd â’r lluniau.
Sut cafodd Pont Britannia ei henw?
Pam fod rhaid gwneud syms cyn dweud faint ydy hi’r gloch ar gloc haul
Caer Belan?
A pham bod cwt powdwr chwareli Arfon ar lannau’r Fenai ger Caernarfon?
Mae yma wybodaeth am adar a physgod, daeareg a hanes, a’r diwydiannau
fu ar un adeg yn cadw pobol glannau’r Fenai’n brysur.
Ceir yma enwau - yn ddieithriad yn Gymraeg - ar y gwahanol greigiau,
ynysoedd a chilfachau ar ei glannau; enwau na cheir ar unrhyw fap
yn aml. Ond daw hwn o fap Lewis Morris, 1748 - Sianel Gwyr Nefyn,
sef y ffordd fyrraf o’r Fenai i Nefyn.
Hiwmor
Ac mae yma hiwmor yn britho’r llyfr.
Ar un tudalen, mae’n cyfeirio at barge ddygwyd o Afon Tafwys
i fod yn gartref ar lannau’r Fenai ond sydd erbyn hyn yn adfail yn
y mwd. Cynllun, yn amlwg, wnaeth ddim gweithio, meddai!
Oes
yna rywbeth allai fod wedi gwella’r llyfr?
Lluniau eithaf confensiynol ydy’r rhain, ar wahân, o bosib, i’r llun
o’r bilidowcars bob yn un ar resiad o bolion yn y dwr. Mae’n amlwg
i’r ffotograffydd Terry Beggs dreulio misoedd os nad blynyddoedd yn
dal y Fenai drwy’i lens.
Mi fyddech chi’n credu, efallai, y byddai wedi gallu dal rhyw ddelwedd
fyddai allan o’r cyffredin. Quirky ydy’r gair Saesneg. Ond
does yna’r un.
A thrueni na fyddai’r cyhoeddwyr wedi rhoi clawr caled ar lyfr mor
fendigedig. Yr unig obaith rwan ydy y bydd Gwyn Pari Huws yn mynd
ati i lunio llyfrau ar weddill arfordir Môn, ac y cawn ni gloriau
caled am y rheiny.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|