|
|
Smot
mewn dwy iaith
Llyfrau dwyieithog ar gyfer teuluoedd dwyieithog
Dydd Iau,Hydref 17, 2002
|
Llyfrau Bach Syrpreis Smot
Dydio ddim yn wir na fedrwch chi ddysgu triciau newydd i hen gi!
Yn enwedig os mai Smot ydi'r ci hwnnw!
Erbyn hyn mae plant ar draws y byd wedi gwirioni ar hanesion Smot
sy'n cael eu hadrodd mewn 25 o wahanol ieithoedd.
Ond gwasg yng Nghymru - gwasg Gomer oedd y gyntaf i ofyn am yr hawl
i greu argraffiadau dwyieithog o'r llyfrau sy'n boblogaidd mewn ieithoedd
mor wahanol 芒鈥檙 Arabeg a'r Swedeg.
Caffaeliad mawr
Ac wedi cyrraedd y siopau mae pedwar llyfr cyntaf cyfres ddwyieithog,
Llyfr Bach Syrpreis Smot - Gartref-At 成人快手, Yn yr Ardd-In the Garden,
Ar y Fferm-At the Farm ac Ar y Traeth-At the Beach.
Meddai Gordon Jones, Golygydd llyfrau Plant y wasg:
"Bydd y llyfrau dwyieithog hyn yn gaffaeliad mawr i rieni di-Gymraeg
sy'n awyddus i'w plant fwynhau llyfrau Cymraeg.
"Mae galw cyson gan rieni am ddeunydd i'w cynorthwyo a'u gwneud
yn fwy hyderus wrth ddarllen gyda'u plant."
Cymerodd Gomer y cam hwn oherwydd eu bod yn ymwybodol mai plant o
deuluoedd di-Gymraeg yw'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n mynychu ysgolion
Cymraeg mewn ardaloedd fel y de-ddwyrain.
"Ddechrau Medi gwelwyd miloedd o blant yn cychwyn mewn cylchoedd meithrin
ac mae gan y Mudiad Ysgolion Meithrin 800 o gylchoedd Ti a Fi yng
Nghymru heddiw," meddai'r wasg mewn datganiad i gydfynd a chyhoeddi
y llyfrau.
Mewn siopau mawrion
Mae'r wasg yn ymfalch茂o hefyd y gellir prynu llyfrau Cymraeg mewn
siopau mawr fel Sainsbury's, Safeway a Tesco y dyddiau hyn a'r gobaith
yw y bydd marchnad barod i'r llyfrau dwyieithog newydd yn y lleoedd
hyn.
""Y gobaith yw y bydd y rhieni sydd wedi gwneud y dewis pwysig o roi
addysg Gymraeg i'w plant yn gweld prynu llyfrau Cymraeg a dwyieithog
yr un mor hanfodol 芒 hwylus a gwneud eu siopa wythnosol," meddai'r
datganiad.
Mae'r llyfrau, sy'n rhyw bedair modfedd sgw芒r, yn 拢4.50 yr un.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|