|
|
Nofel
am yr ifanc -
i'r ifanc
Cariad a'r anesboniadwy . . .
Dydd Iau,Medi 12, 2002
|
Ddoe yn Ôl gan Menna Cravos
Y Lolfa, £4.95
Adolygiad gan Catrin Jones
Nofel i bobol ifanc yn eu harddegau yw Ddoe yn Ôl. Mae’n un
hawdd i’w darllen ac yn adrodd hanes merch ifanc o’r enw Anwen sy’n
dewis treulio gwyliau’r haf gyda’i nain ym Metws Cynog, pentref gwledig
yn Sir Gaerfyrddin, yn hytrach na mynd gyda’i rhieni i’r Eidal.
Mae’r
nofel yn dechrau yn y diwedd fel petai wrth i Anwen ym mis Awst 2001
edrych yn ôl a chofio digwyddiadau haf 1991.
Teithio ar y trên y mae Anwen ar ddechrau’r nofel ac mae’n digwydd
codi papur newydd o’r sedd wrth ei hymyl.
Wrth droi’r tudalennau yn ddidaro mae’n digwydd gweld erthygl am gantores
ifanc. Wrth sylwi ar y llun o dan y pennawd saetha ias o gryndod i
lawr ei chefn wrth iddi sylweddoli mai hen gyfaill iddi yw’r gantores
ifanc. Mae hyn i gyd yn agor llifddorau’r cof ac mae’r hen atgofion
yn llifo’n ôl.
Claddu atgofion
Dyma atgofion yr oedd Anwen yn amlwg am eu claddu a’u hanghofio: "Caeais
fy llygaid, ac unwaith eto roeddwn i’n ferch ifanc ddiofal un ar bymtheg
oed, ar fin mynd i dreulio’r haf oddi cartref am y tro cyntaf erioed…"
A dyma ddechrau’r stori.
Yn y tudalennau cyntaf rydym yn cael ein cyflwyno i gymeriadau eraill
y nofel. Wedi cyrraedd Betws Cynnog a thy ei nain mae Anwen yn penderfynu
chwilio am swydd dros gyfnod y gwyliau. Mae’n cael swydd yn gweini
y nghaffi Rookwood, parc gwyliau ym Mryn Cynnog.
Mae’n dod yn gyfaill agos i Beth sydd hefyd yn gweithio yn y caffi
ac yn ferch i berchennog y parc, a Siôn bachgen ifanc dawnus a ddaw
i’r parc i beintio murlun. Ond yn gysgod dros yr holl hwyl mae Dewi
Price, un o weinyddwyr y parc. Mae Dewi â’i gyllell yn Siôn o’r diwrnod
cyntaf am ei fod wedi bod yng ngharachar yn y gorffennol am weithredu
gyda Chymdeithas yr Iaith.
Ond yn fwy na hynny mae Dewi yn genfigennus o Siôn am ei fod ef a
Beth yn dod yn agos iawn. Mae Dewi â’i lygaid ar Beth ers amser ac
mae hyn yn ei gorddi.
Dechrau'r holl helynt
Dyma ddechrau’r holl helynt felly wrth i gynddaredd a chenfigen Dewi
ei fwyta ac i Anwen wneud ei gorau i warchod ei ffrindiau.
Yn gefndir i hyn i gyd mae’r teimladau a gaiff Anwen drwy gydol y
nofel ei bod yn ail fyw’r gorffennol. Teimla bod yr holl ddigwyddiadau
hyn wedi digwydd mewn rhyw oes arall. Mae nifer o bethau na all Anwen
wneud unrhyw synnwyr ohonynt, ac mae hyn yn cryfhau ei hamheuon.
Mae’r cyfan yn adeiladu i uchafbwynt ar ddiwedd y nofel pan yw Beth
yn trefnu parti penblwydd i Siôn i ddathlu ei benblwydd yn un ar hugain
oed. Yma mae’r cymeriadau yn dod ynghyd ac fel y gallwch chi ddychmygu
mae tipyn o gynnwrf a gwrthdaro.
Diweddglo cyffrous
Dyma ddiweddglo cyffrous i’r nofel felly. Ond erbyn y diwedd roeddwn
i’n teimlo fod popeth yn rhy amlwg a bod modd rhagweld yn union beth
oedd yn mynd i ddigwydd. Efallai mai camgymeriad ar ran yr awdur oedd
rhoi cymaint o gliwiau i ni yn ystod y nofel o’r hyn oedd i ddod.
Byddai’n well pe na baen ni’n dod i wybod am ddim o hyn hyd ddiwedd
y nofel, byddai hynny wedi bod yn llawer mwy o ergyd I ni’r darllenwyr.
Yn ogystal roeddwn i’n teimlo mai araf oedd y nofel ar adegau. Ar
wahân i’r parti dim ond mewn un lle arall yn y nofel y mae rhywbeth
o bwys yn digwydd sef pan yw Annwen, Beth, Siôn a Meic yn mynd i’r
parc yn ystod y nos wedi iddyn nhw dreulio noson yn yfed yn y dafarn
leol. Yn ystod y rhan fwyaf o’r nofel dim ond disgrifio bywyd bob
dydd ym Mryn Cynnog a’r parc Antur a wneir.
Pynciau cyfoes
Er hyn dyma nofel ysgafn sydd yn trafod pynciau cyfoes sy’n addas
ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau fel cyffuriau, alcohol, herio’r
drefn a byd heb rieni. Mae Annwen yn profi rhyddid ac annibyniaeth
am y tro cyntaf yn ystod yr haf arbennig hwn ac yn dysgu o’i chamgymeriadau
hefyd. Dwi’n siwr y bydd y nofel yn apelio at ddarllenwyr yn eu harddegau
o ran testun ac o safbwynt yr arddull hefyd gan fod y nofel yn darllen
yn rhwydd, y penodau’n fyr a’r ddeialog yn naturiol.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|