|
|
Cyffro
a gwers i'r arddegau
Cyfres o lyfrau sy'n plesio
Dydd Iau, Awst 15, 2002
|
Lleidr Cariad:
Awdur: Bernard Ashley
Addasiad: Gruff Roberts
³§²µÃ´°ù:
Bom yn fy Mhen
Awdur: Viv French
Addasiad: Elin Meek
³§²µÃ´°ù:
a hanner
Mega Miliwn
Awdur: Yvonne Coppard
Addasiad: Emily Huws
³§²µÃ´°ù:
Marcio Marc
Awdur: Pete Johnson
Addasiad: Siân Lewis
³§²µÃ´°ù:
Oedran: 11 - 15
Gwasg: Gomer
Pris: £3.99 yr un
Adolygiad gan Meirion Puw Rees:
Mae pob un o’r llyfrau yma yn rhai bywiog a difyr sy’n sicrhau
sgôr uchel i bob un.
Lleidr Cariad: Mae Tomos mewn cariad hefo’r ferch newydd, Miriam,
sy’n dod i’w ysgol o Gaerdydd. Ond mae pethau gwerthfawr yn dechrau
diflannu ar y diwrnod y mae Miriam yn cyrraedd.
A yw Tomos mewn cariad â lleidr?
Stori ddifyr a bywiog sy’n dal eich sylw reit i’r diwedd.
Bom yn fy Mhen: Hanes helynt Aled ar ôl iddo gymryd cyffur trwy
gangymeriad. Stori ddychrynllyd ar adegau sy’n codi cwestiynau pwysig
ynglyn â doethineb cymryd cyffuriau.
Mega Miliwn: Fe wnaiff Jac unrhyw beth i gael Meleri yn
gariad iddo ac i ennill mega miliwn. Antur fywiog, frwdfrydig
sydd yn dilyn ymgais Jac i gyrraedd ei nod.
Marcio Marc: Mae Marc, yr athro Cymraeg newydd, yn wahanol i unrhyw
athro mae Rhys wedi'i gyfarfod o’r blaen. Mewn dim mae’r ddau yn ffrindiau
da, ond pan fo’r rheolau yn cael eu torri, mae’n anodd iawn bod yn
ffrindiau ag athro.
Mae moeswers ymhob un o’r straeon a honno'n addas iawn i blant yn
eu harddegau.
Ffolineb rhedeg ar ôl pres yn Mega Miliwn;
Effaith andwyol cyffuriau yn Bom yn Fy Mehn;
Effeithiau andwyol alchohol yn Marcio Marc;
Peryglon lladrata yn Lleidr Cariad.
Mae ôl ymchwil ar y straeon, neu brofiad personol fel yr awgryma yr
awduron ar ddechrau’r llyfrau.
Yn Bom yn fy Mhen mae Draenog yn sôn am sgil effeithiau cymryd
asprin ac yn egluro ei fod yn gwneud ichi ‘waedu tu mewn’
Mae’r stori yn disgrifio yr hunllefau a’r profiadau od sydd i’w cael
ar ôl cymryd cyffuriau gydag Aled yn dychmygu gweld fwltwr, "Roedd
e’n fawr, Roedd e’n enfawr. Ro’n i’n gallu gweld ei draed melyn crachlyd
e. Roedd ei grafangau mawr fel dur ac roedden nhw’n edrych fel tasen
nhw’n gallu rhwygo unrhyw beth ar agor," ac mae’n meddwl fod plant
yn cerdded trwyddo!
Cowbois sydd wedi cynllunio'r cloriau ac maent i gyd yn gyfoes
ac yn lliwgar ac yn awgrymu cynnwys sy’n apelgar i'r arddegau.
Mae’r teitlau yn fachog ac mae’r defnydd o gyflythrennu yn gweithio’n
dda, Mega Miliwn, Marcio Marc ac ati.
Dwi wedi rhoi sgor o bedair seren i dri o’r llyfrau ond wedi tynnu
hanner marc oddi ar Bom yn fy Mhen oherwydd bod y bennod gyntaf
braidd yn ddryslyd ac fe allai atal rhai rhag darllen ymlaen a cholli
y stori dda sydd i ddod.
Dwi’n teimlo fod y pedwar llyfr yma yn addas iawn ar gyfer yr arddegau.
Mae’r syniadau a’r straeon sydd ynddynt yn rhan o’n byd ni, yn bethau
rydan ni yn gorfod delio â nhw bob dydd.
Fyddwn i ddim yn awgrymu i rywun iau nag 11 eu darllen gan y byddai’r
cynnwys yn ddiarth iddynt.
Mwynheais y pedwar.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|