|
|
Nodau
llesmeiriol
Caneuon Ems a'u hanes
Dydd Mercher, Mai 12, 2002
|
Caneuon Ems gan Emyr Huws Jones.Y Lolfa. £5.95..
ond
o leiaf bedair o ran cynnwys.
Mae seiniau llesmeiriol - ddolefus weithiau - alawon fel Ceidwad
y Goleudy, Ynys Llanddwyn a Cofio Dy Wyneb wedi
cyffwrdd sawl un ohonom, dros y blynyddoedd a dychan crafog caneuon
fel Rebal W卯cend wedi'n gogleisio.
Yr hyn sy'n gyffredin i'r caneuon hyn a sawl un lesmeiriol arall yw
iddynt oll gael eu cyfansoddi gan Emyr Huws Jones - Ems .
Caneuon sy'n cydio
Mae'n siwr o fod yn un o gyfansoddwyr poblogaidd mwyaf blaenllaw Cymru
gyda'i grebwyll di-feth wrth gyfansoddi cerddoriaeth atgofus sy'n
hynod o hymiadwy - a throsi gair o'r Saesneg.
Ac wele'n awr y Lolfa yn cyhoeddi casgliad o 25 o ganeuon Ems yn cynnwys
Ceidwad y Goleudy, Cofio dy Wyneb a Hi yw Fy Ffrind.
Dydi hi ddim yn gyfrol sy'n gwneud llawn chwarae teg a'i thestun.
Wrth gwrs ei bod yn werthfawr cael cerddoriaeth a geiriau'r caneuon
rhwng dau glawr fel hyn ac yn werthfawrocach fyth cael sylwadau Ems
ei hun ar gefndir y caneuon a chynnwys lluniau o Ems a bandiau fel
Y Tebot Piws a Mynediad am Ddim - ond fe allai'r wasg fod wedi sicrhau
dyluniad mwy haeddiannol i'r gyfrol na'r hyn a gawn gyda nodiadau
Ems wedi eu stwffio o'r neilltu braidd mewn print m芒n ar waelod dalen.
Chwater canrif o ganeuon
Mae yma werth chwarter canrif neu ragor o ganeuon gyda phob un ohonyn
nhw nid yn unig wedi eu recordio ond yr artistiaid a'u canodd yn amrywio
o Mynediad am Ddim i Plethyn ac o Linda Healy i John ac Alun, Iona
ac Andy a Bryn Fon.
Nid dyma holl gynnych y chwarter canrif wrth gwrs. Fel yr eglura Ems:
"Wrth baratoi casgliad o ganeuon ar ffurf llyfr un o'r meini prawf
ar gyfer dewis caneuon yw fod y sgwennwr yn eu lecio ac roedd hynny'n
golygu fod sawl un nad oedd yn cael ei hystyried o gwbl.
"Roedd yn bwysig fod y caneuon ar record hefyd gan fod angen cael
rhywun i'w cysodi, felly nid oedd modd cynnwys rhai o'r caneuon mwyaf
newydd."
Dyn ynysoedd
Un o F么n ydi Emyr Huws Jones wedi ei eni ar Ynys Cybi. Er yn awr yn
byw yng Nghaerdydd mae gafael yr ynys yn dal: "Yn wahanol i R. Williams
Parry mae mwy o ddifyrrwch i mi yn y m么r na'r mynydd," cyfeddyf.
Dywed iddo ddechrau sgwennu caneuon yn y chwedegau yn syth ar 么l cael
ei git芒r cyntaf.
Ac yntau wedi bod yn gymaint dylanwad ar y s卯n Gymraeg mae'n ddiddorol
darllen:
"Caneuon Saesneg oedd y rheini, dan ddylanwad Cat Stevens, Neil Sedaka,
Bob Dylan, ac eraill."
Cymysg oedd y canlyniad: "Doedd y caneuon oedd yn efelychu'r ddau
gyntaf ddim yn rhy ofnadwy ond dwi'n falch iawn fod y caneuon oedd
yn dynwared Bob wedi hen ddiflannu!" meddai.
Dywed mai tra'n canu efo'r Tebot Piws ac wedyn, Mynediad am Ddim,
y dechreuodd sgwennu yn y Gymraeg.
Lluniau a straeon
Mae yma gasgliad difyr iawn o luniau yn y gyfrol ac mae nodiadau Ems
yn sicrhau mwynhad ychwanegol inni o rai o'r caneuon poblogaidd.
Dyma a ddywed am Ceidwad y Goleudy::
"Rhywdro yn y saithdegau, roedd Ynys Llanddwyn ar werth. Dwi wrth
fy modd efo ynysoedd, yn enwedig rhai gweddol fychan. Mae'r ffaith
i mi gael fy ngeni a'm magu ar un yn rhannol gyfrifol am hyn mae'n
siwr. Mae 'na rywbeth yn braf iawn am gael gwybod yn union lle mae
ffiniau rhywun, cael gwybod yn iawn i lle mae rhywun yn perthyn.
"Rheswm arall mae'n siwr yw rhyw hen ofn y byd mawr. Ynys Llanddwyn
oedd y 'nefoedd fach' gyntaf i mi ac mae'n dal yn agos at fy nghalon.
"Wedyn daeth Ynys Enlli, Agistri ac ynysoedd hyfryd o anghysbell y
Shetland yn fwy diweddar.
"Roedd teulu fy mam yn dad o Niwbwrch, y pentref agosaf at Llanddwyn,
ac felly roedd cyfle i fynd yno'n weddol aml pan yn blant, ac roedd
rhyw deimlad fy mod yn 'perthyn'. Yng nghyfnod plentyndod fy mam roedd
pobl yn byw yn y bythynnod bach del 'na sydd i'w gweld ar yr ynys
hyd heddiw.
"Mae'n debyg bod 'na flodau prin ar yr ynys heddiw ac mae'n rhaid
i ymwelwyr gadw at y llwybrau a chadw eu cwn ar dennyn. Go brin mai
newydd ddyfodiaid yw'r blodau, ac os felly roedden nhw yno pan oedd
pobl yn byw yno - ac roedd y rheini'n cadw defaid hefyd! Tybed oedden
nhw wedi dysgu'r defaid i adnabod blodau prin! Dwi'n meddwl fod deud
cymaint a hynna'n ddigon i esbonio'r g芒n hon.
"Mae hi'n g芒n serch syml iawn er bod rhai, fel Dewi Pws, yn meddwl
ei bod yn dywyll. Yn wir, mae ef yn credu fy mod dan ddylanwad cyffuriau
cryfion iawn pan sgwennais i hi. Ella mai un rheswm am y dryswch yw
fad y cytgan yn s么n am rywbeth gwahanol sef y broses o sgwennu c芒n,
a'r teimlad uffernol weithiau o sgwennu c芒n gyfan yn y pen a'i hanghofio
cyn cael cyfle i'w rhoi ar bapur neu d芒p. Roedd hon yn wahanol diolch
byth!"
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
|
|