|
|
Cyfrif
pobol sy'n cyfrif
Darlith yn son am gymdeithas sy'n newid
Dydd Mercher, Mai12, 2002
|
Cyfrif Pennau Pen Llyn gan John Gruffydd Jones.
Clwb y Bont, Pwllheli. £3.
Cyfrif Pennau Pen Llyn yw testun deunawfed darlith flynyddol Clwb
y Bont, Pwllheli, eleni.
Fe'i traddodwyd gan y Prif Lenor John Gruffydd Jones, un o hogia Llyn,
a symudodd i fyw yng ngogledd orllewin yr hen Sir Clwyd o wlad Ile'r
arferai ei fam ddweud fod hyd yn oed yr adar yn canu yn y Gymraeg!
Digwyddodd
dau beth eleni a'i hysgogodd i ddewis ei destun - ei fam yn dathlu
ei phen-blwydd yn gant oed a'r llun ohoni yn gwasgu ei gorwyres, Lois
Medi, yn dynn yn ei ch么l.
Yn ei agoriad mae鈥檔 s么n am ddathliadau y flwyddyn hon, 2002, ddeugain
mlynedd er darlith hanesyddol Saunders Lewis, Tynged yr Iaith;
ugain mlynedd o fodolaeth S4C a rhyngddynt hanner canrif o deyrnasiad
y Frenhines Elizabeth yr ail.
Pan yn ei arddegau hwyr gorfu i'r awdur adael Llyn a mentro am Fanceinion
pryd y symudodd ei rieni o'r Bwthyn Gwyn, sef y cartref, i Goed Anna
yn Nanhoron, sydd erbyn hyn gartref yr ymgyrchydd Seimon Glyn.
Cymunedau yn marw ar eu traed
"Mae'n destun syndod i mi fel y mae ef wedi Ilwyddo i gorddi cymaint
ar yr emosiynau trwy wneud datganiad syml iawn sef bod y cymunedau
Cymraeg yn marw ar eu traed," meddai.
Hyn yn ei arwain at y gwahanol gyfrifiadau fel un 1901, oedd yn cwmpasu
holl ardaloedd Prydain.
Dywed fod rhai yn bur gyndyn o ddatgelu manylion personol fel yr hen
gymeriad o Lyn y cofir amdano fel Dic y Fantol - Cymro uniaith a briododd
Wyddeles uniaith Saesneg.
Pan fyddai pethau'n ddrwg rhwng y ddau, "Ireland, Mary" fyddai
anogaeth Dic.
Mae Dic a'i lori yn cael eu cofio yn cario o stesion Pwllheli a'i
gyfarchiad i Mary fyddai, "Mary I'm going to dre - I'll be home
by amser te."
Pobl eu bro
Ond at y ffigurau sy'n dangos fod 48,705 o'r 60,924 o ddynion a gofrestrwyd
yn Sir Gaernarfon yn 1901 yn frodorol.
Aac ar ddechrau'r ganrif yr oedd cynier ag 89.5 y cant o'r boblogaeth
yn medru'r Gymraeg a bron yr hanner yn uniaith Gymraeg a'r rheini,
fel y byddai rhywun yn disgwyl, dros eu 65 oed.
Gellir yn hawdd ddeall hefyd fod yna 3,324 o blant Penrhyn Llyn yn
uniaith Gymraeg yn 1901.
Dod yn ddwyieithog
脗'r
awdur rhagddo i ddadansoddi natur y gymdeithas: y dosbarth canol modern
a'r newid yn y patrymau iaith a hefyd sut y daeth yn norm bod yn ddwyieithog.
Eto'i gyd, rhestra'r awdur nifer o enghreifftiau o'r werin dlawd yn
dal i fod yn uniaith Gymraeg a nifer ohonynt yn destun sbort am nad
oeddent yn ddwyieithog!
Hyn yn arwain at Frad y Llyfrau Gleision gyda'r awdur yn cydnabod
i'r adroddiad hwnnw, "fod yn giaidd o hallt" ond yn ychwanegu
mai "annheg yw gosod y cyfan o'r bai ar ysgwyddau'r Comisiynwyr
o dros Glawdd Offa.
"Bu unigolion lleol yr un mor euog o wawdio eu cyfoedion gyda
chasineb at yr iaith Gymraeg yn asgwrn y gynnen."
Gan fod yr awdur yn un o Lyn mae'n gwbl gartrefol yn s么n am Enlli
Ile'r oedd 77 o drigolion ar dro yr ugeinfed ganrif.
Tueddiadau nawddoglyd
Yna mae'n pwyso a mesur Tynged yr Iaith ar drothwy'r ganrif
hon lle mae'n nodi agweddau fel cadw'r ddysgl yn wastad a thueddiadau
nawddoglyd ac ofn pechu yn amlwg.
Ac
mae yma ddau ddarlun ar bymtheg addas i'r ddarlith yn dangos sut rai
oedd gwerin a bonedd penrhyn Llyn ddyddiau fu.
Down i ben y dalar gyda鈥檙 awdur yn s么n fel y bu'n ailedrych ar y llun
o'i fam a'i wyres gan ofyn a fydd hi yn perthyn i'r genhedlaeth olaf
o bobl ifainc a fydd yn ystyried y Gymraeg yn iaith bob dydd.
"Er bod ystadegau'n dangos bod mwy o bobl yn medru'r iaith erbyn hyn
ymddengys bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y plant sy'n
ei siarad yn y cartref," meddai.
A'r cwestiwn olaf sy'n aros gyda'r awdur yw: Ai pen-blwydd hapus,
ynteu happy birthday fydd etifedd Lois bach yn ganu iddi pan
fydd hithau yn dathlu ei phen blwydd yn gant oed?
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
|
|