成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Casglwr a Cofiant Bob Owen
Cofio pendefig y casglwyr

Dathlu chwarter canrif Cymdeithas Bob Owen

Dydd Iau, Mai 30, 2002

Bu cyafrfod, ddydd Sadwrn, Mai 25, i ddathlu chwarter canrif sefydlu Cymdeithas Bob Owen - cymdeithas a ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau ac wedi ei henwi ar 么l un o gasglwyr llyfrau ac ymchwilwyr dycnaf Cymru erioed, Bob Owen Croesor, a fu farw yn 1962.

John Roberts WilliamsPrif waith y gymdeithas yw cyhoeddi Y Casglwr a sefydlwyd gan John Roberts Williams a鈥檌 olygu ganddo tan 1995 ac wedyn gan Richard H. Lewis ac yn awr gan Mel Williams o Lanuwchllyn.

Daeth dros gant i鈥檙 cyfarfod ym Mhortmeirion i ddathlu鈥檙 achlysur ac i wrando ar ddarlith ar Bob Owen gan ei gofiannydd, Dyfed Evans, a darlith arall gan yr Athro Hywel Teifi Edwards.


Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yr oedd Ioan Mai Evans. Dyma ei argraffiadau:


Mawrth 1977 o鈥檙 ganrif ddiwethaf - blwyddyn y ddwy gaib - y ganwyd Y Casglwr ac y ffurfiwyd Cymdeithas Bob Owen, Croesor.

Dydd Sadwrn, yn ysblander Portmeirion dathlwyd chwarter canrif sefydlu鈥檙 gymdeithas ac o son am ddwy gaib mae olion dwy ohonynt yn amlwg ar y braenaru a fu ar y tir gan John Roberts Williams, a fu鈥檔 olygydd Y Cymro, a Dyfed Evans a fu鈥檔 ohebydd iddo ar y papur hwnnw cyn troi i fyd addysg.

Llwyddodd y naill i berswadio'r parablus a'r prysur Bob Owen Croesor i gychwyn cyfres o erthyglau ar hanes ei fywyd yn Y Cymro.

Ysbeidiol fu鈥檙 ymateb a gorfu i鈥檙 gohebydd amyneddgar, Dyfed Evans, fwrw iddi gan i fynych alwadau eraill gael y gorau ar y gwibiwr o Groesor.

Fodd bynnag, nid ildiodd Dyfed Evans, nes casglu digon o ddeunydd a鈥檌 galluogodd i gywain maes o law gyfrol werthfawr o bron i ddeugain pennod - cyfrol sydd wedi gweld ei hail argraffu.

Rhifyn cyntaf Y Casglwr

Ac i droi at yr ysgogydd, John Roberts Williams, sylwer mai pennawd cyntaf y rhifyn cyntaf o鈥檙 Casglwr a sefydlodd ac a olygygodd yn ei flynyddoedd cyntaf oedd, "Wele Gychwyn" gydag atgynhyrchiad o ysgythriad Samuel a Nathaniel Buck o dref Caerfyrddn yn rhodd gan Olwen Caradog Evans i鈥檙 gymdeithas i鈥檞 rafflo.

Yr oedd yn rhifyn cyntaf a oedd yn drysorfa o erthyglau amrywiol yn ymwneud a phob peth printiedig:

Guto Roberts yn cychwyn Hanes y Bodau Duon, yn trafod canmlwyddiant Ieuan Gwyllt, un o genhadon amlycaf y Tonic Sol-ffa; Hebraeg o Gaer, Beibl o鈥檙 Bala gan Gwilym H. Jones a st芒d llyfrau y saer maen, Twm o鈥檙 Nant.

Bri Papurau Bro - maes a phorfa newydd yn dod i鈥檙 golwg gan Norman Williams - ac wrth ei gwtyn, Dyma fy Llyfrau Hanes LLeol, pwnc arall oedd yn araf adfywio ac yn haeddu tair colofn gan neb Ilai na Gomer M Roberts.

Dyfed EvansA dyma godi'r sgwarnog fwya mi gredaf, Sgwennu Hanes Bob Owen gan Dyfed Evans ac yna wrth ei ochr ar yr un ddalen John Eilian yn meddwl mai o waed Cymreig yr hanai argraffydd cyntaf Gwasg Prifysgol Caergrawnt .

Troi dalen cyn dod at lyfrgell Bob Owen yn cael ei disgrifio fel "dihareb Genedlaethol hyd yn oed cyn yr Ail Ryfel Byd" gan neb Ilai na David Jenkins.

Newid cywair ar yr un ddalen lle mae'r Athro Tom Parry yn ychwanegu at ein gwybodaeth am Eiriadur y Dr.John Davies, Mallwyd.

Ac os nad yn teimlo yn rhy dda eich iechyd, mae Glyn Evans yn son am ffisig Davies Machynlleth at leisiau pregethwyr,areithwyr cyhoeddus a chantorion heb son am agoriad Ilygad o wybod sut Ie oedd yng Nghaernarfon gan mlynedd mlynedd ynghynt gan Maldwyn Thomas.

Y mae dalen o gan mlynedd o recordio a chasglu hen luniau gan Ifor Jones ac Elwyn Hughes.

Gan imi gyfeirio at y ddwy gaib, holwch chwithau beth ar y ddaear sydd a wnelo hyn a chopi cyntaf Y Casglwr?
Amser i balu ac i arddio yn Gymraeg,yw y pennawd olaf and un yn y copi cyntaf hwnnw fis Mawrth 77( y ddwy gaib).

Ystyriwch eto sylwadau E.D,Jones yn yr erthygl olaf un ar Gyfres y Fil - dyddiau'r tudalennau aur.

Atgofion am Bob Owen

Oedd, yr oedd gan bawb ei atgof parod yn y dathlu. Cofio roeddwn i pan ddaeth Bob Owen a'r Doctor Tom Richards - Doc Tom - ar y bws ysgol i'r ty acw i aros tan gyda'r nos i fod yn barad i ddarlithio dan nawdd y W.E.A.

Roedd yn amlwg ddigon nad oedd pethau'n rhy dda rhwng y ddau a chefais wybod yn bur sydyn pan gododd Bob Owen o'i gadair a slgaret rhwng ei fysedd gan fytheirio fod cymaint o enwau Cymry amlwg America wedi eu gadael allan o'r Bywgraffiadur oedd newydd ei gyhoeddi.

Llosgwyd blotyn neu ddau ar fraich y gadair tra鈥檙 oedd Bob yn rhestru degau o'r cymwynaswyr hyn and ni chynhyrfodd Doc Tom o gwbl na dweud gair o'i ben.

Deuthum i deimlo mewn amser y dylid fod wedi anfon Bob i'r America ar daith addysgol ar sail ei draethawd enfawr ar yr ymfudo yno a gwn y byddai wedi hoffi hynny.

Yn anffodus - i waith ymchwil a fyddai wedi bod gyda'r pwys mwyaf - ni fu鈥檙 fath daith.

O adnabod dau oedd yn eitha gwahanol i'w gilydd byddwn yn meddwl yn aml ble roedd Bob yn Ilyfrau'r Doctor Thomas Richards.
Do fe鈥檌 clywais yntau yn cyhoeddi a Ilais uchel "am i bawb yn ysgolhaig ac fel arall ddeall fod ffeithiau Bob Owen dros naw deg y cant yn gywir."
Digon gan feistr fel y doctor.

Deigryn yn ei lygaid

Ond trist fu gennyf weld Bob Owen ar noson o aeaf mewn noson WEA, a'r crydcymalau wedi dechrau ysigo ei ddwylo, yn trin John Elias o F么n, un a'r delwau drylliedig .

Torrodd un o'r aelodau gor-grefyddol ar ei draws yn anghwrtais.

Closiodd Bob Owen, at y tanllwyth t芒n a gwelwn ddeigryn yn disgyn! Yr oedd y rhan fwyaf ohonom yn deall y gwewyr.

Y darluniau hyn oedd yn ffurfio yn y meddwl yn ystod y dathliad ddydd Sadwrn wrth wrando darlith ar ragoriaethau鈥檙 casglwr llyfrau unigryw o Groesor ac yr oedd yn addas i aelodau Cymdeithas Bob Owen dalu ymweliad 芒 Chroesor ei hun a gosod blodau ar fedd Bob Owen.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 成人快手 Cymru'r Byd






About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy