|
|
Blas
ar Gymru yng Ngwlad Pwyl
Croeso - ac awen - i'n beirdd
Dydd Iau, Mai 9, 2002
|
Yr
hwyl ym Mhwyl yn Para
Daeth blas arbennig iawn ar Gymru i dde-ddwyrain Gwlad Pwyl pan gynhaliwyd
Dni Celtyckie (Diwrnodau Celtaidd) gan Brifysgol Gatholig Lublin.
Gwahoddodd feirdd, cantorion ac academyddion i hybu diwylliant Cymraeg
yno rhwng Ebrill 22 a 26.
Mae Adran Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol Gatholig yn cynnig cyrsiau
yn Iaith, Llên, Ieithyddiaeth a Diwylliant Cymru ers cyn cwymp Comiwnyddiaeth,
yn ogystal â chyrsiau Gwyddelig tebyg.
Ar hyn o bryd mae dros 200 o fyfyrwyr yn manteisio ar y cyrsiau.
Gwahoddwyd ysgolheigion o Iwerddon, Cymru, Gwlad Pwyl, Nice, Berlin
a Fiena i ddarlithio ar bynciau o Archeoleg y Celtiaid Cynnar i Lenyddiaeth
Gyfoes y gwledydd Celtaidd.
Roedd dau o brifeirdd amlycaf Cymru, Iwan Llwyd a Mei Mac, yno hefyd,
i gyflwyno llên Cymru ac i ddarllen eu gwaith eu hunain.
Ar ben hyn oll cafwyd gweithgareddau hwyrol o naws Geltaidd iawn.
Beirdd y Byd
Ar noson Beirdd i Bardowie (Beirdd a Beirdd) yn y Teatr
Stary
(Yr Hen Theatr, sef yr ail hynaf yng Ngwlad Pwyl) bu Iwan Llwyd a
Mei Mac yn rhannu llwyfan gyda rhai o feirdd a chantorion amlycaf
Gwlad Pwyl, y Lubelska Federacja Bardów, yn ogystal ag Ewa
HEBE Lembryk a’i band.
Cyfieithwyd barddoniaeth y ddau Gymro i’r Bwyleg gan fyfyrwyr yr Adran
Geltaidd ac meddai Aled Llion, Uwch-Ddarlithydd y Gymraeg yn y Brifysgol
Gatholig a threfnydd yr achlysur:
"Sylwodd nifer ar y wefr o fedru cynnal noson gyfan heb orfod dibynnu
ar y Saesneg fel cyfrwng.
"Dangoswyd yn glir iawn fel y gall diwylliannau o wledydd sydd mor
ymddangosol wahanol gyfathrebu’n uniongyrchol, a rhannu llawer iawn
o brofiadau a dyheadau.
"Cafodd y beirdd o’r ddwy wlad eu synnu gan faint a brwdfrydedd y
gynulleidfa, ar noson a gynhaliwyd er mwyn codi arian i adfer y theatr
hanesyddol hon."
Dawnsio Cymreig
I gloi’r wythnos bu Noson Geltaidd a lenwodd glwb nos mwyaf y ddinas
gyda thyrfa a ddawnsiodd drwy’r nos i gerddoriaeth fyw Wyddelig a
Chymreig.
"Roedd
yr wythnos gyfan yn llwyddiant ysgubol," meddai Aled Llion, "a does
dim dwywaith fod cannoedd o bobl Lublin yn edrych ymlaen yn fawr iawn
at y digwyddiadau nesaf.
"Er bod dyfodol y Gymraeg yn y Brifysgol yn Lublin wedi bod yn eithaf
ansicr yn ddiweddar, oherwydd diffyg arian ac adnoddau, rwy’n siwr
ei fod ganwaith yn gryfach yn dilyn gwaith ardderchog Iwan a Mei,
a’r bobl eraill gymerodd ran.
"Dylid rhoi diolch arbennig i’r Dr Sabine Heinz, sy’n dysgu’r Gymraeg
yn Fiena a Berlin, am drosglwyddo i bobl Lublin ychydig o’i brwdfrydedd
anhygoel dros Gymru a’i hiaith.
"Grant a dderbyniwyd gan y Cyngor Prydeinig oedd yn gyfrifol am inni
fedru gwneud yr hyn a wnaethom," meddai.
Y Cymry’n cefnogi
Ychwanegodd ei bod amlwg iawn fod nifer fawr o Cymry yn awyddus i
gynorthwyo’r gwaith yn Lublin achos yn dilyn apêl yn y wasg, derbyniwyd
gan yr Adran Geltaidd lyfrau o hen stoc Llyfrgell Brycheiniog yn ogystal
â rhoddion gan unigolion.
"Y cam nesaf ," meddai Aled, "yw ceisio sicrhau fod artistiaid Cymru
yn deall fod yma yng nghornel bellaf ‘gorllewin’ Ewrop, dderbyniad
anhygoel i’w gael i’w gwaith."
Ac
meddai Iwan Llwyd: "Fe gawsom ni fudd mawr o'r profiad - a cherddi
hefyd!"
Roedd Mei Mac hefyd wrth ei fodd:
"Roedd y cyfan yn wych a’r myfyrwyr mor frwd roedd yn gwneud y gwaith
darlithio mor hawdd. Yn bendant os daw gwahoddiad i ni eto mi ddown
ar ddim."
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
|
|