|
|
Brwydr
y ddiod
Nofel gyntaf actores a sgriptwraig
Dydd Iau, Ebrill 25, 2002
|
Cam wrth Gam gan Mari Emlyn. Gomer.
Adolygiad gan Catrin Jones
Nofel yn ymdrin ag alcoholiaeth yw Cam wrth Gam, nofel y mis
ar gyfer Ebrill.
Mari Emlyn yw’r awdur a dyma ei nofel gyntaf.
Mae Mari Emlyn yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau teledu Cymru
- yn adnabyddus fel actores a sgriptwraig.
Y profiad dirdydnnol o golli ei mam a’i hysgogodd i fynd ati i ysgrifennu’r
nofel hon.
Derbyniodd
y nofel ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn
Eisteddfod Genedlaethol Dinbych y llynedd gyda Manon Rhys, un o’r
beirinaid, yn ei disgrifio fel ‘nofel rymus’.
Ac meddai Gwerfyl Pierce Jones, beirniad arall, "Dyma fath ar nofel
sy’n brin yn y Gymraeg ...camp nid bychan yw llunio nofel boblogaidd
ddarllenadwy o’r safon hon".
Disgwyliadau uchel
Dyma dipyn o ganmoliaeth felly ac roedd fy nisgwyliadau’n uchel wrth
imi fynd ati i ddarllen. A dwi’n falch o ddweud na chefais fy siomi.
Mae Mari Emlyn wedi dewis pwnc dyrys ac anodd ar gyfer ei nofel cyntaf.
Dyma bwnc sydd yn gofyn am dipyn o ddealltwriaeth seicolegol.
Roedd gofyn bod yr awdures yn deall yr hyn sy’n mynd trwy feddwl y
dioddefwyr ac yn cymell alcoholiaeth a hefyd seicoleg perthnasau’r
dioddefwyr sydd hefyd yn cael eu heffeithio gan y clefyd.
Nid yw hyn yn beth hawdd i’w bortreadu ac roedd yn bwnc uchelgeisiol
iawn ar gyfer nofel gyntaf. Roedd gofyn i’r awdur fynd o dan groen
y cymeriadau a threiddio i’w meddyliau. Rhaid ein argyhoeddi ni’r
darllenwyr fod y cymeriadau’n rhai credadwy.
Llwyddodd Mari Emlyn i wneud hyn mewn dull canmoladwy iawn.
Popeth yn braf ar yr wyneb
Mae’r stori yn cael ei hadrodd gan Leusa, gwriag a mam yn ei thridegau
cynnar. Ar yr wyneb ymddengys fod bywyd Leusa’n berffaith. Mae’n byw
mewn ty moethus yng Ngwynedd gyda’i gwr Paul sy’n gyfreithiwr a Iolo
ei phlentyn pump oed.
Mae ganddi yrfa lwyddiannus fel therapydd lleferydd ac i bawb o’i
chwmpas ymddengys fod ganddi’r bywyd delfrydol. Ond y tu ôl i hyn
i gyd mae rhywbeth mawr yn ei phoeni ac yn gysgod du dros ei bywyd
- alcoholiaeth ei mam.
Cadw dyddiadur
Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu ar ffurf dyddiadur yn olrhain hanes
Leusa o fis Rhagfyr 1995 i fis Ionawr 1998. Ond nid dyddiadur confensiynol
sydd yma gan mai edrych yn ôl y mae Leusa ar ddigwyddiadau cythryblus
y blynyddoedd a arweiniodd at farwolaeth ei mam.
Atgofion sydd yma felly a Leusa’n eu dadnsoddi gyda golwg wahanol
wedi iddi ddygymod â’i phrofedigaeth. Drwy edrych yn ôl mae’n deall
sut y bu i gyflwr ei mam effeithio arni hithau hefyd.
"Dwi’n gwybod rwan fod salwch Mam yn ymdreiddio’n ddwfn i mi ar y
pryd, yn newid fy nghymeriad, fy nhymer, fy agwedd at eraill – at
y rhai agosaf ataf".
A dyma sy’n digwydd yn ystod y nofel. Mae’r straen o orfod cuddio
cyflwr ei mam rhag ei ffrindiau, ei chymdogion a’i phlentyn ei hun,
yn creu tensiynau ym mherthynas Leusa ag eraill.
Tensiwn fel feis
Mae’r tensiwn i’w deimlo fwyaf yn y berthynas rhyngddi hi a’i gwr,
Paul. Yn nhudalennau cyntaf y nofel mae’n disgrifio’r awyrgylch yn
ei chartref: "gellid teimlo’r tensiwn fel feis o gwmpas y ty....Chwydais
fy rhwystredigaeth ar y rhai diniwed". Mae hyn i gyd yn deillio o’i
gofid am ei mam.
Mae Mari Emlyn yn ein taflu ar ein pennau i fywyd tymhestlog Leusa
o dudalen gyntaf y nofel. Does yma ddim gwastraffu geiriau wrth i’r
nofel agor â’r geiriau "Anghofia i fyth, fyth y noson honno."
Dyma ddechrau egluro’r stori gymhleth i ni am ofid Leusa. Mae’r nofel
yn dechrau ym mis Rhagfyr 1995, ychydig ddyddiau cyn y Nadolig. Cawn
wybod bod mam Leusa wedi bod yn aros gyda’r teulu ers deuddydd ac
mae Leusa’n teimlo’r straen yn barod.
Nadolig trychinebus
Cawn hanes digwyddiadau trychinebus y Nadolig cynt ac wedi hynny rydym
yn deall yn iawn pam fod Leusa’n poeni’r tro hwn.
Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu mewn tair rhan. Dim ond pennod yr
un yw’r rhan gyntaf a’r olaf. Yr ail ran felly yw corff y nofel. Mae
hyn yn gweithio’n dda gan mai yn y rhan honno yr ydym yn gweld y dirywiad
yn iechyd mam Leusa ac effaith hynny ar fywyd personnol ei merch.
Mae yma bortread grymus o’r fam ac mae’r disgrifiadau o’i chyflwr
corfforol wrth i’r gwenwyn feddiannu ei chorff a’i meddwl yn ddirdynnol.
Mae’r disgrifiadau hyn yn ein hysgwyd ni’r darllenwyr ac rydym yn
cydymdeimlo’n llwyr â’r fam ac yn tosturo wrthi yn ei chyflwr truenus:
"Cydiai ei llaw fach yn dynn yng nghanllaw’r wal, a brigyn bregus
ei braich yn crynu dan yr ymdrech. Gwegiai ei choesau dryw bach wrth
gario’i bol chwyddedig. Roedd ei chorff y peth tebycaf a welais erioed
i’r lluniau o blant newynog Ethiopia ar y teledu."
Cuddio rhag y byd
Wrth gwrs rydym yn cydymdeimlo â Leusa hefyd. Gallwn ddeall sut y
bu i’r straen o orfod ymdopi â salwch ei mam a’r boen ychwanegol wedyn
o orfod cuddio hynny rhag y byd, ei harwain i wneud llanast o’i bywyd
ei hun.
Mae pob diwrnod yn ofid iddi gan nad oes modd rhagweld beth fydd ei
mam yn ei wneud nesaf: "Chysgais i fawr neithiwr. Roedd fy meddwl
yn troi fel chwrligwgan, ac eto teimlwn elfen o ryddhad. Roedd hi’n
dal yn fyw! Diolch byth!"
Roedd fy nghalon yn gwaedu drosti wrth iddi orfod ymdopi ar ben popeth
ag ymadawiad ei gwr. Y prif reswm dros y dirywiad yn eu perthynas
yw methiant Leusa i rannu ei theimladau ag ef.
Yn ddiarwybod iddi wrth guddio cyflwr ei mam dros y blynyddoedd mae
hefyd wedi bod yn cuddio ei theimladau ei hun. Dydi hi ddim am rannu
eu hofnau na’u hemosiynau â neb.
Euogrwydd
Un o’r emosiynau hynny yw euogrwydd. Mae’r euogrwydd wrth iddi ddyheu
am ddiwedd i’r hullef a dymuno marwolaeth ei mam yn ei mygu. Mae’n
siglo’i hunanhyder ac yn gwneud iddi dimlo’n fethiant fel merch, mam
a gwraig.
"Teimlwn yn fethiant llwyr. Yr unig beth y gwyddwn i yr adeg honno
oedd fy mod yn casà u fy mam, yn fy nghasà u fy hun a phawb arall o’m
cwmpas. Bum ar hyd y blynyddoedd yn gweddïo y byddai hi’n rhoi’r gorau
i yfed, ond yno ynghanol drewdod yr alcohol o’m cwmpas gweddïais ar
y Duw na chredwn ynddo y byddai hi’n ei hyfed ei hun i farwolaeth."
Cymeriadau credadwy
Rhaid canmol Mari Emlyn am greu cymeriadau cwbwl gredadwy. Yn ddiamheuaeth
mae wedi llwyddo i fynd o dan groen y cymeriadau a chamu i’w meddyliau
cymleth a dyrys.
Erbyn diwedd y nofel roeddwn yn teimlo fy mod wedi dod i adnabod pob
un ohonynt fel pe baen nhw’n bobol o gig a gwaed. A gan fod y cymeriadau’n
troi o gwmpas effeithiau dyrys alcoholiaeth roedd hyn yn dipyn o gamp.
Er mai’r berthynas rhwng Leusa a’i mam a’r dirywiad yng nghyflwr y
fam yw prif stori’r nofel mae yma elfen arall. Mae’r holl ddigwyddiadau
yn cymell Leusa i gloddio’n ddwfn yn ei gorffennol ac at y ffactorau
hynny a allai fod wedi cymell ei mam i ddechrau yfed yn drwm a chymell
Leusa hithau i guddio ei theimladau.
Dyma helyntion a chwalodd fywyd y fam ac sy’n parhau’n gysgod dros
fywydau’r teulu. Mae hyn yn creu tipyn o ddirgelwch ac yn sicrhau
bod ein diddordeb ni’r darllenwyr yn cael ei gynnal drwy’r nofel.
Mae strwythyr y nofel a’r plot yn gweithio’n berffaith ac yn sicr
roeddwn i’n un darllenydd na allodd roi’r nofel i lawr wedi i mi ei
dechrau.
Nofel lwyddiannus
Dyma nofel lwyddiannus iawn felly. Mae’n llwyddo ar sawl lefel. Yn
gyntaf mae’n nofel boblogaidd a fydd yn apelio at bobol o bob oed.
Mae’r iaith yn rhwydd a darllenadwy a’r ddeialog yn naturiol a chredadwy.
Mae Mari Emlyn yn feistres ar ysgrifennu deialog ac nid yw’n syndod
o ystyried ei phrofiad fel sgriptwraig.
Yn olaf mae’r nofel yn llwyddo am ei bod yn ymdrin â’i phwnc, alcoholiaeth,
mewn dull mor onest.
Llwyddodd i gyfleu’r hunllef dawel y mae perthnasau’r dioddefwyr yn
ei fyw o dydd i ddydd yn ogystal âg effeithiau creulon y clefyd ei
hun.
Yn sicr rydwi’n teimlo fy mod i’n gwybod llawer mwy am y cyflwr a’i
effeithiau wedi i mi ddarllen y nofel.
Dyma nofel emosiynol ac ysgytwol sy’n wir yn werth ei darllen.
Ebostiwch eich
sylwadau chi am lyfrau
|
|
|