成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Cymru yn ei llên,
ei hanes
a'i gwleidyddiaeth

Llyfr a fyddai wedi elwa ar ei ddiweddaru

Dydd Iau, Ebrill 25, 2002

Agoriad yr Oes. Erthyglau ar l锚n, hanes a gwleidyddiaeth Cymru gan Dafydd Glyn Jones. Y Lolfa. 拢14.95.
Tair seren

Y mae鈥檙 plethiad o hanes, ll锚n a gwleidyddiaeth yn un tyn yn y gyfrol hon sy鈥檔 cadarnhau Dafydd Glyn Jones fel beirniad llenyddol sy'n sylwebydd a meddyliwr gwleidyddol diddorol hefyd.Dafydd Glyn Jones - gwneud inni feddwl

Yr ydym yn gyfarwydd a Dafydd Glyn fel dipyn o jociwr a thynnwr coes - cofiwn Miriman a'i gwsberins yn gaeaf er enghraifft - fel beirniad llenyddol ac yn fwy diweddar fel prociwr a chorddwr a wthiodd y Brifysgol yr oedd yn gweithio iddi i o leiaf ystyried sut mae symud ymlaen i ddarparu addysg brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwaith darllen

Er cymaint ei gyfraniad yn nhwr eifori Bangor ac fel traddodwr darlithoedd i wahanol gymdeithasau ac awdur traethodau i wahanol gylchgronau does ganddo ddim rhestr hir o lyfrau y tu 么l i鈥檞 enw.

Ar sail y gyfrol hon gallwn ddweud, trueni am hynny a gallwn dybio y bydd cryn ddiddordeb yn y casgliad hwn o ysgrifau, darlithoedd a thraethodau.

Y mae鈥檔 gyfrol a gwaith darllen arni. Yn gyfrol sydd i fod i wneud inni feddwl. Yn gyfrol sy鈥檔 berthnasol i鈥檔 cyflwr cenedlaethol y dydd heddiw.

Ond dydi hwn ddim yn llyfr sydd wedi ei sgrifennu i bwrpas. Yn hytrach yr hyn a gawn yw casgliad o bethau a ysgrifennwyd dros gyfnod yn ymestyn yn 么l i ddarlith lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog, 1987.

Y cyfraniad diweddaraf yw darlith a draddodwyd fis Ebrill y flwyddyn 2000.

Dyfalu lle nad oes angen

Weithiau dydi oed cyfraniad ddim o bwys; dro arall y mae - yn enwedig ar yr achlysuron hynny pan yw canlyniad digwyddiadau - oedd yn destun dyfalu adeg y sgrifennu - yn wybyddus erbyn heddiw.

Mae hynny鈥檔 peri inni ofyn, oni ddylai鈥檙 awdur fod wedi golygu鈥檙 cyfraniadau er mwyn cael gwared 芒鈥檙 gwendid hwn?

Gwell fyth, pe byddai wedi defnyddio鈥檙 deunydd sydd yn y llyfr yn sail i gyfrol newydd sbon wedi ei sgrifennu y dydd heddiw gan gymryd i gownt ddigwyddiadau diweddar.

Byddai hynny鈥檔 ei wneud yn amgenach ac yn werthfawrocach llyfr na鈥檙 un sydd yr atgynhyrchiad slafaidd ag yw.

Er enghraifft, pa werth sydd mewn darllen heddiw sylw a wnaed yn 1997, "Os 芒 Mesur Cymru yn weddol ddianaf drwy ddau dy鈥檙 Senedd, fe ddylem weld cynnal ym Mai 1999, yr etholiad Cynulliadol cyntaf " a ninnau'n gwybod yn iawn beth a ddigwyddodd.

Aiff ymlaen wedyn i ragdybio'n ddychannol beth fydd natur aelodaeth y corff etholedig hwnnw.

A'r awgrym pryfoclyd yw, tair plaid - Plaid Chwalu a Dinistrio; Plaid Edrych yn Bwysig a Pheidio 芒 Gwneud Dim Byd Neilltuol a Phlaid Symud Ymlaen at Bethau Gwell.

Gwell, a buddiolach, fyddai dadansoddiad yr un mor graff a meddylgar gan Dafydd Glyn Jones o鈥檙 hyn ddigwyddodd ac sydd yn digwydd na鈥檙 rhagdybio hwn.

Erbyn heddiw gallai hyd yn oed enwi aelodau ei dair plaid!

Yr un modd y drafodaeth o鈥檙 priodoldeb i Blaid Cymru ymgyrchu tuag at annibyniaeth neu beidio yn dyddio o adeg cyn i鈥檙 Blaid ddod i benderfyniad ar y mater. Felly hefyd y trafod a fu o鈥檌 mewn ynglyn 芒 mabwysiadu enw Saesneg.

Yn hytrach na dweud "Mae rhai, yr un modd, am newid enw Plaid Cymru, ac am gael enw Saesneg arn茂" gwell gennyf i fyddai darllen ei ymateb i鈥檙 hyn a ddigwyddodd sef mabwysiadu鈥檙 enw swyddogol The Party of Wales.

Byddai Agoriad yr Oes wedi manteisio yn rhyfeddol ar fod yn ail-bobiad llwyr a meddu ei rediad naturiol ei hun wrth i Dafydd Glyn Jones fynd i'r afael a鈥檙 "syniad o ynys Brydain yn llenyddiaeth a meddwl y Cymry" yn ddadansoddiadol resymegol yn hytrach nag ar chwal fel sy'n digwydd wrth ddod a deunydd a sgrifennwyd ar gymaint o wahanol adegau at ei gilydd.

Meddylgar a phryfoclyd

A rhoi'r anhawster yna i'r naill ochr yr hyn sydd gennym, fodd bynnag, yw cyfrol feddylgar, bryfoclyd a gwreiddiol - a diolchwn amdani a'i harddull hwyliog.

Ar ddiwedd un cyfraniad dywed: "Hen achau a hen wreiddiau a hen goelion amdanom ein hunain fu鈥檔 testun heno. Ond rwy鈥檔 gobeithio y cytunwch 芒 mi nad yw鈥檙 pethau hynny yn gwbl amherthnasol i鈥檔 rhagolygon fel gwlad a phobl ar drothwy canrif a milrif newydd."

'Dim rhyddid heb senedd'

Dadl ganolog sy鈥檔 codi ei phen dro ar 么l tro yn y trafodaethau yw "na ddaw gwir ryddid i鈥檙 Cymry ond drwy senedd o鈥檜 dyfais ac o鈥檜 creadigaeth eu hunain" gan bwysleisio nad yw llywodraeth (sef yr hyn yw鈥檙 Cynulliad a roddwyd inni trwy ewyllys da Lloegr) yr un peth o gwbl a senedd a grewn o'n pen a'n pastwn ein hunain fel pobl.

Gyda鈥檙 diben hwnnw mewn golwg bu ef, ers y nawdegau, yn tynnu sylw at y cyfle arbennig y mae y flwyddyn 2004 yn ei gynnig fel chwe chanmlwyddiant galw ei senedd ef gan Owain Glyndwr:

"Bydd y flwyddyn 2004 . . . yn gyfle i rai o aelodau鈥檙 Cynulliad - sef y rhai a ddaw - ymuno gydag eraill, wedi eu hethol yr un mor ddemocrataidd, i ailagor y Senedd" honno, meddai.

Ac yn Nhaliesin, 1994, dywedodd:

"Dylem ailalw ein senedd nas dilewyd erioed. Dylai鈥檙 senedd honno ddatgan y nod o fod yn gydradd o dan y Goron 芒 senedd yr Alban a Thy Cyffredin Lloegr."

Hynny, oherwydd yn ei farn ef ym Medi 1995: "Ni ellir torri gafael Prydeindod yng Nghymru ond gan a thrwy senedd wedi ei sefydlu鈥檔 annibynnol. Y mae rhagor rhwng senedd a llywodraeth . . . Nid am lywodraeth annibynnol yr ydym yn s么n ar hyn o bryd, ond am senedd . . . wedi ei chreu, ei sefydlu a鈥檌 hagor drwy ddyfeisgarwch y Cymry, nid drwy ordinhad senedd a llywodraeth San Steffan."

Mae Agoriad yr Oes yn glamp o lyfr sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael nid yn unig a chyflwr Cymru heddiw ond hefyd ei pherthynas a gweddill Prydain ers dyddiau ein hen, hen, hanes a sut y mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ei llenyddiaeth a'n chwedlau.

A chyfraniad gwerthfawr Dafydd Glyn Jones i'r pwnc difyr, diddorol a phwysig hwn yw y modd y mae鈥檔 darllen yr arwyddion a dehongli ein chwedlau a鈥檔 traddodiadau cynharaf yn y cyd-destun hwnnw.

A ddalleno . . .
Glyn Evans

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 成人快手 Cymru'r Byd






About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy