|
|
Cam
â Chernyw
Trafod Cernyw mewn cyfraith
Dydd Iau, Ebrill 11, 2002
|
The Reason Why - Cornwall鈥檚 Status in Constitutional and International
Law gan Bro Kernow 2001, pris 拢2.00.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths.
Yn 么l llyfryn difyr am statws Cernyw mewn Cyfraith Gyfansoddiadol
a Rhyngwladol - The Reason Why - cyhuddir Dug Cernyw o esgeuluso鈥檙
wlad sydd dan ei warchodaeth tra鈥檔 manteisio鈥檔 ariannol o鈥檌 safle.
Mae Dug Cernyw - rhag ofn nad ydych yn cofio - hefyd yn Dywysog Cymru.
Charles o Windsor.
Ymddengys fod ganddo gyfrifoldebau arbennig dros Gernyw - llawer mwy
pell gyrhaeddol, hyd y medra i weld, na thros Gymru.
Cyllid y Dug
Fe鈥檌 cyhuddir o fethu yn ei ddyletswyddau fel Gwarchodwr Cernyw.
Mae - neu yr oedd - yn amlwg fod Charles o Windsor yn cymryd ei gyfrifoldeb
o ddifrif. Pan oedd ef a Diana yn ysgaru llwyddodd ef i鈥檞 rhwystro
hi rhag cymryd cyfran o鈥檌 eiddo yng Nghernyw.
Dadleuodd - yn llwyddiannus - fod cyllid a gaiff o鈥檙 Ddugaeth (Ducheth
mewn Cernyweg) yn bodoli i gynnal ac ariannu ei swyddogaethau cyfansoddiadol
yno. "(It) is most emphatically not a mere private estate office"
oedd ei ddadl dros beidio a rhoi cyfran o鈥檙 eiddo hwnnw i gyfoethogi
Diana.
Diogelu adnoddau
Ymysg ei ddyletswyddau y mae defnyddio鈥檌 adnoddau i ddiogelu adnoddau
mwyn Cernyw. Ond yn lle hynny dywedir na fu ond yn dyst diymadferth
i ddifodiant mwyngloddio yng Nghernyw tra bo gormeswyr trahaus yn
halogi hawliau鈥檙 Cernywiaid.
Er ei bod yn rheidrwydd arno i hyrwyddo cyfarfodydd Senedd Cernyw
ac i sicrhau ufudd-dod i Ddeddfau Cernyw nid yw gwneud hynny. "The
present Duke鈥檚 neglect of his duties rivals the dereliction of any
half-dozen of his predecessors combined," meddir.
Yn sicr, mae鈥檔 ymddangos fod gan yr awduron - y diweddar Paul Leity,
Tim Saunders o Gaerdydd ynglyd ag Alan M. Kent - ddadl gref.
Sofraniaeth
Ni chafodd sofraniaeth Cernyw ei huno (fel yn achos Yr Alban) na鈥檌
dileu (fel yn achos Cymru). Ac er gwaethaf anrhaith y Sacsoniaid Gorllewinol
ni chafodd Cernyw erioed mo鈥檌 choncro.
Cyfeirir at Frenin Wessex, Athelstan, (Slobodan Milosovic yr oesoedd
canol), a鈥檌 lanhau ethnig "o鈥檙 hil ffiaidd" o dref Exeter yn 927.
Gwnaeth yr un peth yn nhrefi eraill gorllewin Dyfnaint dros y deng
mlynedd wedi hynny.
Cytunwyd yn 936 mai afon Tamar, sy鈥檔 afon hir ac yn ymestyn bron o
un arfordir i鈥檙 llall, fyddai鈥檙 ffin rhwng Wessex a Chernyw. Parhaodd
y ffin fwy neu lai鈥檔 ddigyfnewid byth oddi ar hynny.
Ond ni atodwyd (annex) Cernyw at Wessex - yn wir, meddir, ni atodwyd
Cernyw at unrhyw wlad ond, yn hytrach, cytunodd Cernyw i ddod yn warchodaeth
dan Wessex.
Amddiffyn hawliau
Golygai hynny ar y naill law na fyddai Cernyw yn gweithredu mewn ffordd
na fyddai鈥檔 llesol i Wessex ac, ar y llaw arall, y byddai Wessex yn
amddiffyn hawliau Cernyw, ei chyfreithiau a鈥檌 sefydliadau a chywirdeb
ei thiroedd.
Nodir nad yw hyn yn gyfystyr 芒鈥檙 hyn a olygir yn gyffredin gan y gair
protectorate yn y Saesneg. Nodir y gwahaniaeth ystyr rhwng
Gwovro a Gworwlazaeth yn y Gernyweg gyda鈥檙 cyntaf yn
disgrifio鈥檙 berthynas rhwng Cernyw a Wessex ond yr ail yn cyfateb
i鈥檙 ystyr Saesneg cyfoes - sef perthynas rhwng yr amddiffynnwr a鈥檙
diriogaeth y mae鈥檔 tra-arglwyddiaethu drosti..
Er i Wessex a theyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd eraill uno i greu Lloegr
parhaodd y berthynas rhwng Cernyw 芒鈥檙 grym newydd.
Pan ddaeth Gwilym Goncwerwr
Yn ddifyr iawn, pan ddaeth Gwilym Goncwerwr, Dug Normandi, i Brydain
yn 1066 roedd un rhan o dair o鈥檌 fyddin o Lydaw.
Roedd yr Armoriciaid wedi dechwelyd gyda llawer yn ymsefydlu yng Nghernyw
ac ar ffiniau Cymru lle鈥檙 oedd pobl yn siarad iaith debyg iddyn nhw.
Penodwyd Robert Mortain yn Iarll Cernyw gan y Concwerwr gyda chyfrifoldeb
dros weithredu dyletswyddau鈥檙 "amddiffynnwr".
Roedd Cernyw mor gyfoethog mewn mwynau a physgodfeydd nes sicrhau
i Iarll Richard gael ei ethol yn Frenin yr Almaen. Proses nid annhebyg,
meddir, i ethol Arlywydd America heddiw.
Cymaint cyfoeth Cernyw, bu i Frenin Lloegr lacio pob hawliau a fynnodd
cynt er mwyn parhau - hyd byth - y berthynas arbennig rhwng y ddwy
wlad.
Brenin o dras Gymreig
Digwyddiad diddorol oedd dyrchafu Harri鈥檙 VII yn Frenin Lloegr. O
dras Gymreig ac wedi bod yn alltud am bymtheng mlynedd yn Llydaw,
godrodd ei gysylltiadau Brythonaidd am ei fywyd i sicrhau cefnogaeth
o Gymru a Chernyw.
Ceisiodd Harri ddileu sefydliadau Cernyw nes tynnu gwrthryfel am ei
ben. Yn y diwedd penderfynodd mai callach peidio.
Erbyn 1750 roedd Cernyw yn un o鈥檙 gwledydd mwyaf diwydiannol ond bod
y cyfoeth - o鈥檙 mwynau - yn llifo i鈥檙 "amddiffynnwr" ac, fel, gyda
glo yng Nghymru, roedd y deunyddiau crai yn cael eu hysbeilio heb
gael eu defnyddio i greu nwyddau eraill a thrwy hynny greu gwaith
a sefydlogrwydd i鈥檙 economi.
Heb ddileu deddfau
Ni ddilewyd yn ffurfiol ddeddfau Cernyw yn 么l yr awduron. Yn hytrach
defnyddiwyd cynseiliau o Gyfraith Lloegr i鈥檞 herydu鈥檔 araf.
Lluniwyd y llyfryn fel rhan o ymgyrch i geisio sicrhau i Gernyw yr
un statws lywodraethol ag sydd gan Gymry - Cynulliad. Gwaith annibynnol
yw serch hynny.
Heblaw bod yn rhyfeddol o ddifyr, mae鈥檔 gyfrol gwerth ei darllen pe
bai ond i ni ddysgu rhywfaint am hanes ein cyd-Frythoniaid.
Gellir cael copi drwy鈥檙 post oddi wrth Gwynn ha Du, 4 The Arcade,
Fore Street, Liskeard, Kernow.
Ebostiwch
|
|
|