|
|
Hanes
Dewi
Cyfuniad o ffeithiau, dychymyg - a chwaeth
Dydd Iau, Chwefror 28, 2002
|
Dewi Sant gan Rhiannon Ifans. Lluniau gan Margaret
Jones, 96 tt, Y Lolfa 拢5.95.
Adolygiad gan Grahame Davies
Fe glywsoch yr hanes, nawr prynwch y llyfr.
Mae'n
rhyfedd bod Cymru yn dathlu gwyl ei nawddsant gyda chymaint o frwdfrydedd,
ac eto bod prinder llyfrau modern atyniadol i bobl ifanc am fywyd
Dewi Sant ei hun.
Wel, ni ellir cwyno am hynny bellach, gyda chyhoeddi Dewi Sant
gan Rhiannon Ifans (Y Lolfa, 拢5.95).
Testun bywiog
Dyma gyfrol glawr-caled deniadol a lliwgar sydd yn cyfuno dylunio
trawiadol a safonol gyda thestun bywiog ac awdurdodol.
Mae'r llyfr ar ei ennill yn fawr drwy awduraeth Rhiannon Ifans ei
hun, a hithau, wrth gwrs, yn arbenigwraig ym maes llenyddiaeth y cyfnod.
Peth braf oedd y rhagymadrodd a esboniodd yn onest ac yn syml sut
y tyfodd y chwedlau am Dewi, ac mai chwedlau ydynt ac nid hanes gwrthrychol.
"Oherwydd ei fod yn ddyn mor wych fe dyfodd llawer o draddodiadau
amdano ar 么l iddo farw. Straeon o glod yw'r rhain i gyd. Nid oedd
pobl ers talwm yn hidio dim a oedd y straeon yn llythrennol wir ai
peidio.
"Ond roedd yn bwysig iawn iddynt fod yr hyn a oedd yn cael ei ddweud
am Dewi yn ardderchog, yn arwrol, ac yn gyson 芒'r cof melys amdano."
Dyna ddiffinio mewn modd clodwiw iawn berthynas yr hanesion gyda'r
digwyddiadau hanesyddol a chyda dyheadau ac amcanion edmygwyr Dewi.
Ffrwyth dychymyg
Wedi esbonio, felly, mai ffrwyth dychymyg yw'r rhan fwyaf o'r stor茂au
am Dewi, dyna fynd ati wedyn i'w hail-greu mewn modd gafaelgar a naturiol,
gan roi cefndir, cymhellion a bywyd i'r cymeriadau a chan lenwi'r
darlun gydag ambell fanylyn naturiol:
"Roedd yr eglwys yn dywyll wrth iddi fynd i mewn o'r haul llachar."
Soniais am onestrwydd Rhiannon Ifans yn trin y dystiolaeth hanesyddol,
ac fe geir yr un onestrwydd ganddi pan eir i'r afael ag agweddau llai
derbyniol y cyfnod hefyd, megis pan sonnir am sut y mae'r pennaeth,
Sant, sef tad Dewi, yn ei dadogi ar Non drwy drais.
"Aeth Sant am dro drwy wlad Dyfed un diwrnod. Yno fe welodd forwyn
hardd iawn o'r enw Non. Roedd Sant wedi dotio arni. Disgynnodd oddi
ar ei geffyl a chodi sgwrs 芒 hi. Dechreuodd garu 芒 hi ar y gwair cynnes.
Doedd Non ddim yn fodlon. Ond roedd Sant yn ddyn cryf a digywilydd.
Yn erbyn ei hewyllys, daeth Sant yn dad i blentyn Non."
Nid sant yw pob Sant, mae'n amlwg. Ond, i mi, dyna drin pwnc anodd
mewn modd gonest a heb fod yn ddi-chwaeth, er i ryw ias o bryder fynd
drwof wrth ei ddarllen gyda fy merch saith oed!
Lluniau pert
Diolch byth yr oedd mwy o ddiddordeb ganddi yn y lluniau pert o anifeiliaid
sy'n britho'r gyfrol nag yn nulliau amrwd penaethiaid Dyfed o fynegi
eu gwerthfawrogiad o brydferthwch benywaidd.
Yn ei barn hithau dyma'r llyfr gorau am Dewi Sant iddi ddarllen erioed
- ac mae'r llyfrau diweddar eraill ar y pwnc yn ei meddiant hefyd,
felly gellir coelio hi.
Cymorth mawr at atyniad y llyfr yn sicr yw lluniau gwych Margaret
Jones, bob un ohonynt, bron, mewn lliw llawn. Gyda'r manylion bach
darluniadol a geir hefyd rhwng y penodau, ac ar frig a gwaelod pob
tudalen, mae ansawdd cynhyrchu'r gyfrol yn rhagorol, ac mae 拢5.95
yn bris rhesymol iawn o ystyried hynny.
Rhwng popeth, felly, dyma enghraifft wych o gyfuno ysgolheictod, chwedleua,
dychymyg a dylunio. Mae'n deilwng bob tudalen o'i wrthrych hybarch.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
|
|