|
|
Trwy
lygaid Ron
Lluniau o Gymru yn ei holl agweddau
Dydd Iau, Chwefror 21, 2002
|
Byd
Ron - Ron's World gan Ron Davies. Llyfrgell Genedlaethol
Cymru. £17.
Y mae yna rywbeth yn gwbl arbennig ynglyn â lluniau Ron Davies ac
nid afradloni gyda geiriau y mae rhywun wrth ddefnyddio’r gair unigryw
i ddisgrifio ei gyfraniad.
Nid
yn unig y mae lluniau Ron yn arbennig ac yn hynod ond y mae’r
tynnwr lluniau ei hun hefyd yn berson sy’n destun edmygedd.
Ar y ddau gyfrif yna, dydio’n rhyfedd yn y byd i Lyfrgell Genedlaethol
Cymru benderfynu dathlu pen-blwydd Ron yn 80 gydag arddangosfa arbennig
a llond llyfr arall o’i luniau, Byd Ron - Ron’s World.
Mewn rhagymadrodd i’r llyfr y mae Alistair Crawford yn sôn sut y cyneuwyd
diddordeb y crwt wyth oed o Aberaeron mewn tynnu lluniau.
Yr oed hwnnw, ac yntau’n rhedeg negeseuon i Evan John Thomas, y Fferyllydd
yn Aberaeron, swynwyd Ron Davies gan wyrth yr ystafell dywyll.
Dros y blynyddoedd daeth tynnu lluniau nid yn unig yn bleser iddo
ond yn gynhaliaeth hefyd - ac y mae hynny ynddo’i hun yn destun rhywfaint
o ryfeddod - ac edmygedd.
Dechreuodd Ron Davies ei yrfa yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan ddatblygodd
o fod yn ffotograffydd rhyfel answyddogol i fod yn gofnodwr ffotograffig
swyddogol i’r fyddin yn y Dwyrain Pell.
Er iddo fynd drwy’r fyddin heb anaf o gwbl wedi iddo ddychwelyd adref
i Gymru fe’i parlyswyd o’i ganol i lawr yn dilyn damwain beic modur
yn 1950.
Ers hynny, bu’n gaeth i gadair olwyn - er dydi’r gair caeth ddim yn
gweddu o gwbl i rywun fel Ron achos yr un peth na wnaeth y ddamwain
i Ron oedd ei gaethiwo.
Y mae ei ddycnwch a’i ymroddiad personol yn destun edmygedd inni i
gyd.
Cafodd
ei dynnu i faes tynnu lluniau ar gyfer papurau newydd pan ddigwyddodd
tri o staff Y Cymro - Geoff Mathews, Dyfed Evans a Robin Griffith
- ddigwydd galw yng nghartref Ron ar eu ffordd o’r gogledd i’r de.
"Yr oedd hyn yn fuan wedi’r ddamwain a Ron braidd yn isel ei ysbryd
- ond allem ni ddim peidio a sylwi ar ansawdd ac arbenigedd y lluniau
oedd ar wal ei ystafell dywyll," meddai Geoff felly dyma ni’n cynnig
gwaith iddo fo efo’r Cymro."
Dros y blynyddoedd tynnodd Ron gannoedd o luniau nid yn unig i’r papur
hwnnw ond i bapurau eraill fel y Western Mail gan gofnodi a dehongli
Cymru yn ei holl agweddau.
Adlewyrchir eangder ac amrywiaeth ei ganfas yn Byd Ron - y llyfr a’r
arddangosfa - sy’n cynnwys nifer o’r lluniau mwyaf cofiadwy , i gyd
wedi eu tynnu unai o sedd gyrrwr car neu o gadair olwyn gan roi iddyn
nhw eu persbectif arbennig eu luniau.
O’i gyfnod cynnar pan ddatblygodd ei gariad at a’i ddiddordeb ym mywyd
gwyllt Cymru a’i gwerin bobl mae enw Ron Davies wedi bod yn gysylltiedig
â darluniau trawiadol o fywyd y wlad, yn enwedig cymdeithasau cymoedd
glo y De a bywyd cefn gwlad Ceredigion.
Perthyn bob amser rhyw rin arbennig i’w luniau agos o wynebau pobl
- weithiau’n rhychog ac yn llawn cymeriad ac olion bywyd.
"Mae
Byd Ron yn dathlu gyrfa sy’n cwmpasu 55 mlynedd o waith. Mae’n cynnwys
lluniau prydferth o fywyd pobl yr India a Kashmir, a hefyd cymdeithasau
Cymreig sydd bellach bron wedi diflannu, fel byd y colier, ac amaethwyr
a chwryglwyr Ceredigion.
"Mae cynnal arddangosfa Byd Ron yn ddigwyddiad pwysig i’r Llyfrgell
Genedlaethol a hefyd i bobl Ceredigion yn arbennig," meddai Michael
Francis, Pennaeth Rhaglenni Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Wrth iddo sôn am ei waith ac am yr arddangosfa, daw’n amlwg fod gan
Ron ei hoff luniau.
"Mae’r llun o’r ceffyl yn chwerthin yn dod i’r meddwl," meddai.
"Roeddwn i newydd ddod nôl o’r ysbyty yn Southport lle bues i am dair
blynedd wedi’r ddamwain, a dyma bois Y Cymro yn gofyn i mi
dynnu lluniau o Hufenfa Felinfach.
"Dyna pryd y gwelais i’r ceffyl. Cefais fy ngorfodi ganddyn nhw i
fynd nôl i weithio, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am hynny. Mae ’na
luniau hefyd o frawd a chwaer yn Kashmir ac wrth weld y lluniau ar
y teledu am y rhyfel sydd yno, mae’r lluniau yna’n atgoffa fi o’r
cyfnod hynny yn y 40au," meddai Ron.
Byd Ron - Ron’s World gan Lyfrgell Genedlaethol
Cymru, pris £17.50.
Byd Ron – Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth. Tan Mai 4. Mynediad am ddim.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
|
|