|
|
Oriau
o hwyl gyda phowdr arbennig
Cyfle i ail-ymuno â chymeriadau United! mewn llyfr
newydd i blant.
Dydd Iau, Tachwedd 29, 2001
|
Powdr rhech gan Eurig Wyn.
Gwasg y Lolfa. Pris: 拢3.95
Adolygiad gan Llion Iwan
Llyfr gwerth chweil i blant ydi Powdr Rhech, lle 'da ni yn
ail-ymuno 芒'r ddau arwr, Wayne a Dafydd Bee neu Dingo i'w ffrindiau.
Yma mae'r hogia yn dioddef ar 么l mynd i drwbl yn yr Eidal yn y gyfrol
flaenorol, United! Mae nhw wedi eu gwahardd rhag gwylio eu
hoff dîm, Man United ac mae eu rhieni'n gorfod eu hebrwng
i bob man. Tydi petha ddim yn dechra yn addawol iawn iddyn nhw felly.
Ond yn fuan maen nhw'n chwarae p锚l-droed dros dîm yr ysgol,
yn disgyn mewn cariad ac yn dod yn gyfarwydd 芒 phowdr rhech, sy'n
rhoi oriau o hwyl iddyn nhw (ac i'r darllenydd hefyd)! A thrwy hyn
mae'r ddau arwr wedi neidio o'r badell ffrio i'r t芒n. Ond fe ddaw
achubiaeth o gyfeiriad hollol annisgwyl.
Mae'r awdur yn trin y berthynas rhwng y ddau gariad yn gredadwy ac
mae yma wers hefyd. Peidio byth 芒 thynnu yn groes i dad cariad!
Y cymeriadau wedi aeddfedu
Gwelwn y cymeriadau yn tyfu i fyny, ac yn aeddfedu hefyd yn raddol.
Yn bendant mae nhw wedi datblygu ers i ni eu cyfarfod gyntaf yn United!.
Ond does dim angen bod wedi darllen y gyfrol gyntaf i fwynhau na deall
y llyfr hwn.
Gan ei fod yn torri ei fol eisiau prynu crys diweddara United,
mae Dingo yn meddwl am gynllun i godi arian sef helpu henoed yr ardal
a gwneud digon o arian iddo fo a'i ffrind (rhywbeth mae rhieni yn
siwr o fod yn annog eu plant eu hunain i wneud wrth i'r crysau gael
eu newid bob yn ail flwyddyn).
Trwy iaith lafar gref, gredadwy a syml deuwn i adnabod y cymeriadau
a'u dilyn drwy hynt a helynt bywyd ysgol, ac mae rhai o ffugenwau'r
athrawon yn taro deuddeg.
Digon yn digwydd
Tasg anodd ydi ysgrifennu ar gyfer plant a chithau yn oedolyn, ond
credaf fod Eirug Wyn wedi llwyddo gyda'r gyfrol yma eto. Mae'n stori
芒 digon yn digwydd ynddi drwyddi draw, mae'r disgrifiadau o sefyllfaoedd
yn gredadwy ac mae tro annisgwyl iawn yn y gynffon ar y diwedd. Wna
i ddim dweud mwy, ond fe wnaeth i mi wibio drwy'r tudalennau olaf.
Cyfrol gwerth chweil, ac er bod perfformiadau United ar y cae
y dyddiau yma ddim yn debyg o godi calon yr awdur na'i brif gymeriadau,
dyma lyfr y mae plant yn siwr o'i fwynhau. Cefnogwyr United
neu beidio!
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn? Ebostiwch
ni.
|
|
|