³ÉÈË¿ìÊÖ


Explore the ³ÉÈË¿ìÊÖ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



³ÉÈË¿ìÊÖ ³ÉÈË¿ìÊÖpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Elizabeth Watkin Jones
Ei thaflu o'r capel efo'i bwgan brain!

Cofio awdures o Ben Llyn oedd yn enwog am ei nofelau hanes i blant


Dydd Iau, Mehefin 21, 2001

Gosod carreg goffa i Elizabeth Watkin Jones, awdur nofelau hanes, yn Nefyn.


Carreg Elizabeth Watkin Jones Mae mudiad ‘Cyfeillion Llyn’ ar y cyd â Chyngor Cymdeithas Nefyn wedi gosod carreg i goffàu’r awdures boblogaidd Elizabeth Watkin Jones, yn ei hen gartref, Y Garth, yn Nefyn ym Mhen Llyn.

Merch i gapten llong oedd Elizabeth ac mae’n disgrifio yn ei gwaith sut y boddodd ei thad, y Capten Henry Parry, pan olchodd ton dros y cwch wrth iddo ddod tua’r lan yn harbwr Iquique yn Ne America.

Ar ôl colli ei thad yn ifanc magwyd Elizabeth yn Nhy’n Llan, Nefyn, sydd gyferbyn ag eglwys y plwyf ac yno y bu heb frawd na chwaer a rhannai ei hamser rhwng ty ei mam a thy ei nain a’i thaid.

Cyfaddefodd ei hun ei bod yn ferch wedi ei difetha.

Merch ddrygionus
Ond gallai fod yn ferch ddrygionus hefyd fel y dengys hanesyn amdani yn y capel; lle rowliodd gêp ei nain am ambarél ei thaid tra roedd y pregethwr yn gweddïo er mawr syndod i’r rhai nad oedden nhw wedi plygu eu pen yn lllwyr.

Am ei rhyfyg cafodd y berfformwriag ei hyrddio o’r capel allan i’r ffordd fawr gan ei thaid a’i nain oedd yn flin iawn!

Cafwyd llawer o’i hanes yn yr ysgol gan ei ffrind, Sera Trenholme a ddywedodd i’r ddwy fod yn ddigon drwg i gael eu dal yn ôl yn nosbarth tri a cholli’r arholiad.

Roedd Elizabeth wedi cael gafael ar lyfrau Saesneg - dyna oedd iaith yr ysgol gyda fawr didm ar gael yn y Gymraeg i fodloni ei hawydd am stori gyffrous.

Ond roedd yna ddigon o straeon tylwyth teg a straeon môr ar lafar gan hen drigolion y dreflan yn Nefyn ac nid oes amheuaeth na ddylanwadodd y rheini arni.

Roedd llongwyr Nefyn yn hwylio’r byd, a Begw Ifan , "yn i chap o lês du am ei phen, a broits fawr yn cau’r siol wlanen fach dros ei hysgwydd", wrth ei bodd yn sôn am Jac Lantarn, y fôr forwyn, a’r tylwyth teg wrth y plant. (Lois).

Bodloni ysfa
Ar y llaw arall, bodlonai ysfa i fod yn athrawes trwy adrodd straeon wrth ddelw, a fu ar flaen un o longau hwyliau ei thaid, yn ngardd ei nain.

Yr un mor ddiddorol, efallai, oedd y gansen oedd ganddi’n barod i wneud yn siwr fod y ddelw’n gwrando.

Trodd y ddelw i fod yn blant go iawn pan aeth Elizabeth i Ysgol y Foelgron, ym Mynytho, yn 14 oed i baratoi i fynd yn athrawes.

Yn 25 oed roedd y ferch fu’n perfformio gyda’r bwgan brain yn y capel yn Nefyn yn llywydd Cymdeithas Ddrama Coleg Y Coleg Normal, Bangor.

Ei chryfderau addysgol yn y coleg oedd Cymraeg a Hanes ac wedi rhai blynyddoedd yn dysgu yn y de, fe briododd brifathro ysgol Nefyn a dychwelyd i’w chynefin.

Nofelau i blant
Yno y cafodd yr ysbrydoliaeth a’r amser i ysgrifennu saith o nofelau hanesyddol i blant, pump ohonynt yn ymwneud naill ai â’r werin wladwriaeth neu’r Rhyfel Cartref.

Mae ei nofel fwyaf poblogaidd, Luned Bengoch, wedi ei hargraffu bedair gwaith.

Wedi bron i 40 mlynedd cafodd y nofel ei diweddaru gan Hugh D. Jones, nai’r awdur, ac fe gafodd y diweddariad hwnnw ei ail argraffu o fewn dwy flynedd.

Diweddarwyd tair nofel arall hefyd, Lois, Y Dryslwyn ac Y Cwlwm Cêl.

Bu ei nofelau hefyd yn gyfresi radio i blant bar adeg pan oedd Awr y Plant yn ei hanterth.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Plant y Mynachdy, ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, ac yna ar ddiwedd y rhyfel cyhoeddwyd ei hail nofel, Luned Bengoch.

Yna cyhoeddwyd Lowri yn y casgliad o Storiau Ias a Chyffro, a’r un flwyddyn cyhoeddwyd Esyllt, nofel wedi ei gosod yn hen faenor Nefyn.

Tymor pwysig
Gallwn weld yn ei gwaith fod tymor y flwyddyn rhwng calan gaeaf a’r Nadolig yn golygu llawer iddi - daw hyn yn amlwg iawn yn ei nofel olaf sef Lois.

Enillodd Lois y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn.

Ym Mae Colwyn hefyd ar fur yr Amlosgfa nodir y gaeaf ar garreg coffa i ‘r ddau, Elizabeth Watkin Jones, a fu fel mam i Lenyddiaeth plant Cymru am dros chwarter canrif, ac i’w gwr John Watkin Jones, a fu fel tad i blant Nefyn.

Cartref Elizabeth Watkin JonesTrefnodd John Watkin Jones fod model o goron aur yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i’r Prif Lenor yn Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru, er cof am ei briod.

Ac yn awr y mae carreg goffa, diolch i Gyfeillion Llyn, ar fur hen gartref awdur a daniodd dychymyg miloedd o ddarllenwyr ifanc Cymraeg a a ddaeth a bri a safon i’r nofel hanes yn y Gymraeg.







Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru'r Byd






About the ³ÉÈË¿ìÊÖ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy