|
|
Ennill
llyfrau
Pecyn o lyfrau i'r teulu yn dilyn cystadleuaeth Cymru'r Byd
Dydd Iau, Ebrill 5, 2001
|
Y buddugol yn ein cystadleuaeth arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr
yw Linda Davage, Brook Cottage, Little Mill, Pont-y-Pwl.
Dywedodd Linda mai ei hoff awdur yw Cynan - "yr wyf yn dwli ar ei
farddoniaeth - a Geraint V. Jones am Semtecs, Asasin
ac Omega. Ac unrhyw beth gan Mihangel Morgan."
Bydd hi yn derbyn pecyn o lyfrau gan Gyngor Llyfrau Cymru a
³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru’r Byd yn cynnwys
• Llyfr y Ganrif • Dilyn 'Sgwarnog
gan Annes Glynn - Nofel y Mis, mis Mawrth • Dwy gyfrol
yng Nghyfres Dal y Gannwyll: Mewn Carchar Tywyll
Du gan Lewis Morris a Gwenwyn yn y Gwaed gan Roy Davies
• Hoff Gerddi Cymru • Geiriadur Gomer i'r Ifanc
Yr ail yn y gystadleuaeth yw Y Parchedig Hywel M. Davies,
4 Ponc y Fron, Llangefni, Sir Fôn, sy’n derbyn copi o Lyfr y Ganrif.
Enwodd ef Emrys Roberts yn hoff awdur Cymraeg a Dyddiau Gras
yn hoff lyfr.
Mae gwobr hefyd o Hoff Gerddi Cymru a mat llygoden ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru’r
Byd yn mynd i David Wood sydd yn byw yn Seland Newydd.
Yr atebion cywir i’r gystadleuaeth oedd:
Annes Glynn - awdur Nofel y Mis ym Mawrth
Meirion Macintyre Huws - Bardd Plant Cymru
Brechdanau Banana a Gwynt ar ôl Ffa gan Myrddin ap Dafydd.
Afallon y teithiodd Llion Iwan I Shangri La
Yr oedd tri ateb derbyniol i gwestiwn 5 : Y bardd, Gwyndaf, gyfansoddodd
y geiriau yr ias yng Ngruddiau’r Rhosyn yn wreiddiol, mabwysiadwyd
y geiriau yn deitl i’w nofel gan Gwyn Llywelyn a’r cymeriad yn y nofel
a deimlodd yr ias oedd Alun Edward Lloyd.
Yn ein cystadleuaeth i ysgolion yr enillydd Cymraeg yw
Tomos Hywel, Maes yr Onnen, Capel Dewi, Aberystwyth
Dyma farn Tomos am ei hoff lyfr:
" 'Gem o ddau hanner' yw fy hoff lyfr. Roedd merch o'r enw Tracy
wedi dod o Fanceinion i ysgol yng Nghymru. Roedd y merched yn ei dosbarth
yn dipyn o hen swigws !!!(fel ma merched yn gallu bod!!!) Llwyddodd
i wneud ffrindiau a bachgen gan ei bod yn gwybod gymaint am bel-droed.
Roedd y llyfr yn ddoniol mewn mannau e.e. sôn am stumog Tracy 'fel
petai eliffantod yn gwneud earobics yno' Rwy'n ffan o lyfrau Elgan
Philip Davies."
|
|
|