|
|
Parti
cydadrodd mwyaf Cymru
A
darlith i'r Cynulliad a phob math o weithgareddau ar gyfer Diwrnod
y Llyfr ar Fawrth 1
Dydd Iau, Chwefror 22, 2001
|
Dydd Iau Mawrth 1 yw Diwrnod y Llyfr
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd
Parti cydadrodd mwyaf Cymru
Ddydd Gwyl Dewi - sydd hefyd yn Ddiwrnod y Llyfr mewn dros 30 o wledydd
- bydd y parti cydadrodd mwyaf a welodd Cymru erioed yn codi ei lais.
Mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru bydd miloedd o blant yn adrodd gyda鈥檌
gilydd gerdd sydd wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan Fardd Plant
Swyddogol Cymru, Meirion Macintyre Hughes.
"Yr ydym wedi anfon y gerdd i bob ysgol yng Nghymru ac yn barod yr
ydym yn gwybod y bydd yna o leiaf ddwy fil a hanner o blant yn adrodd
y gerdd am unarddeg y bore," meddai llefarydd o Gyngor Llyfrau Cymru
sydd yn cydgordio gweithgareddau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru.
Ar daith i Iwerddon
Ac fe fydd yna bob math o ddigwyddiadau nid yn unig ar hyd a lled
Cymru ond y tu draw gyda phlant ac awduron o Gymru yn hwylio gyda鈥檌
gilydd yn ystod yr wythnos o Abergwaun ac o Gaergybi i Iwerddon.
Ar ddydd Llun, Chwefror 26, bydd o 80 o blant ac athrawon o 10 o ysgolion
M么n yn teithio gyda naw awdur, darlunwyr a beirdd i Iwerddon.
Yn ystod y daith, bydd y plant yn cymryd rhan mewn gweithdai barddoniaeth
a gweithgareddau eraill.
Wedi glanio yn Nulyn, ymunir a 100 o blant o ysgolion Iwerddon mewn
canolfan gelfyddyd ganoloesol ar gyfer dathliad Celtaidd o lyfrau.
Disgwylir tua 300 o westeion gan gynnwys awduron adnabyddus o Iwerddon.
Ar ddiwedd y dydd, cyfnewidir anrhegion o lyfrau a fydd yn dangos
cyfoeth llenyddiaeth plant o Gymru ac Iwerddon.
Yr awduron a鈥檙 arlunwyr fydd yn cymryd rhan yw: Myrddin ap Dafydd;
Meirion MacIntyre Huws; Helen Emanuel Davies; Jac Jones; Tegwyn Jones;
Rhiannon Ifans; Margaret Jones; Si芒n Lewis a Graham Howells. Awduron
yn Iwerddon: Gerard Whelan; Soinbhe Lally; Larry O鈥橪oughlin; Mike
Moylan
Parheir y cyswllt ag Iwerddon ar y dydd Mawrth gyda 40 o blant o ddwy
ysgol yn Sir Benfro yn hwylio rhwng Abergwaun a Rosslare gan gyfarfod
芒 phlant o ddwy ysgol yn Wexford.
Yn ystod ail ran y fordaith hon, cyhoeddir Mi welais long yn hwylio,
llyfr plant gan Si芒n Lewis a鈥檙 darluniau gan Graham Howells a gyhoeddir
yn y Gymraeg a鈥檙 Saesneg fel rhan o gynllun ar y cyd rhwng Cyngor
Sir Benfro a Gwasg Gomer.
Yn Rosslare byddant yn diddori cyfeillion o Iwerddon gyda chyflwyniad
o鈥檙 llyfrau.
Darlith yn y Cynulliad
Y diwrnod cyn Diwrnod y Llyfr, o fewn muriau mwy syber y Cynulliad
Cenedlaethol yng Nghaerdydd bydd Aiden Chambers yn traddodi darlith
Diwrnod y Llyfr, The Power of the Written Word.
Y mae ef yn awdur sydd yn canolbwyntio ar sgrifennu ar gyfer rhai
sy鈥檔 cael eu disgrifio fel "darllenwyr anfoddog - reluctant readers"
acyn cael ei ystyried yn awdurdod ar lythrennedd a phwysigrwydd darllen.
Gwnaeth gryn argraff pan fu鈥檔 annerch cynhadledd llyfrau plant a drefnwyd
gan y Cyngor Llyfrau yn Abergele y llynedd gyda鈥檌 bwyslais ar ddyletswydd
y Llywodraeth i gefnogi a hyrwyddo llyfrau.
Gobaith y Cyngor Llyfrau, yn ddiamau, yw y bydd cynrychiolwyr o bob
plaid wleidyddol yn y gynulleidfa am chwech nos Iau nesaf ac y bydd
Haydn Chambers ddigon agos at y gwleidyddion i daro鈥檙 pared ei hun
i鈥檙 pared glywed!
Llyfr i bob ymwelydd
Menter ddiddorol gan Wasg Gomer ar gyfer y diwrnod yw sicrhau y bydd
pawb sy鈥檔 glanio ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd y diwrnod hwnnw
yn derbyn copi o lyfr newydd y wasg am Dewi Sant.
Llyfr Rwdlan newydd
Llyfr arall o ddiddordeb i blant a fydd yn gweld golau dydd ar Ddiwrnod
y Llyfr yw Cosyn, y diweddaraf yng Nghyfres Rwdlan gan
Angharad Tomos a gyhoeddir gan YLolfa .
Bydd dathliadau Cosyn - y trydydd ar ddeg yn y gyfres - yn
cynnwys y cymeriad Strempan "ac elfen gref o syrpreis" meddai'r wasg.
Mae鈥檙 Lolfa hefyd yn ailwampio ei gwefan i gynnwys dalen yn egluro鈥檙
broses o gyhoeddi llyfr mewn iaith ddigon hawdd i blant ei deall.
Ychwanegodd Mared Roberts, golygydd y Lolfa, nad Cosyn yw鈥檙
unig lyfr rwd-llyd y mae鈥檙 wasg yn ei baratoi ar hyn o bryd.
"Mae Angharad yn creu cyfres newydd o lyfrau am gymeriadau Gwlad y
Rwla ar gyfer cynulleidfa iau na鈥檙 gyfres bresennol. Llyfrau dysgu
darllen syml a hyfryd a fydd yn cael ei lefelu鈥檔 addas ar gyfer defnydd
mewn dosbarth," meddai.
Ar yr awyr a chystadlaethau
Bydd y 成人快手 - gan Gynnwys Cymru鈥檙 Byd - yn ymuno a gweithgareddau Diwrnod
y Llyfr hefyd.
Ar wefan Llais Ll锚n yr ydym yn cyhoeddi heddiw wybodaeth am gystadleuaeth
arbennig ar gyfer plant dan 12 oed gyda chwaraeydd CD a Radio ar y
cyd yn brif wobr.
Yr wythnos nesaf bydd manylion am gystadleuaeth arall ar gyfer y teulu
i gyd.
Ar Radio Cymru bydd rhaglen Dei a Hywel yn dod yn syth o Lyfrgell
Dinbych ac y mae Adran Addysg 成人快手 Cymru wedi trefnu i chwech o wahanol
ddarlledwyr ddarllen pytiau o lyfrau rhwng rhaglenni ar Radio Cymru
ac ar S4C yn ystod yr wythnos.
Mwy o fanylion ar Wefan
|
|
|