³ÉÈË¿ìÊÖ


Explore the ³ÉÈË¿ìÊÖ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



³ÉÈË¿ìÊÖ ³ÉÈË¿ìÊÖpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mari Emlyn Holi awdur:

Mari Emlyn

Awdur Nofel y Mis, Cam Wrth Gam - stori am fam sy'n alcoholig

Dydd Iau, Mai 2, 2002
Enw:
Mari Emlyn

• Beth yw eich gwaith?
Actores, sgriptwraig, awdur.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dysgu drama yn Ysgol Glanaethwy

• 0 ble’r ydych chi’n dod?
O Gaerdydd

• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr? Yn Y Felineli
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ar y cyfan, do.

• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Marwolaeth rhiant

• Dwedwch ychydig amdano.
Nofel gyfoes yn canolbwyntio ar berthynas pobol a’i gilydd, perthynas gwraig a’i gwr ac yn bennaf perthynas merch a’i Mam sydd yn alcoholig. Drwy gydol y nofel fe welir mai lled adnabod pobol mae’r cymeriadau. Mae ‘r cywilydd a’r twyll sy’n deillio o salwch fel alcoholiaeth yn bwrw cysgod dros bawb a phopeth


• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

Hon yw fy nofel gyntaf


• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
"Un Noson Dywyll" gan T.Llew Jones

• A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Dwi newydd ei darllen gydag un o’r meibion.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg D.J.Williams ac yn Saesneg Julian Barnes

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Amryw, ond yn ddiweddar "Birdsong" gan Sebastian Faulks.

• Pwy yw eich hoff fardd?
T.H.Parry-Williams

• Pa un yw eich hoff gerdd?
"Dychwelyd"

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"
’Rwy’n wych,’rwy’n wael, ‘rwy’n gymysg oll i gyd" R.Williams Parry

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm – Cinema Paradisio
Hoff raglen deledu – Tipyn o Stad!

• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad Lady Macbeth.
Does gen i ddim cas gyemriadau, dwi’n tueddu i fod yn hoff o gymeriadau cas!

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
.
Mewn undeb mae nerth

• Pa un yw eich hoff air?
Migmas

• Pa ddawn hoffech chi ei chael? Ysgrifennu

• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Hapus,
Dwys
Cymysg

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gormod o lawer i’w rhestru

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Nelson Mandela am ei ddewrder a’i urddas.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Glanio ar y lleuad

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Nelson Mandela.
Mi fyddwn i’n rhy swil i yngan gair.

• Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith ar draws y paith o’r Gaiman i Esquel ohewrydd ehangedr y paith a’r holl hanes a berthyn i’r lle.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bwyd Indiaidd gyda ffrinidau

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Sgwrsio yn y dafarn leol a phan gaf lonydd – darllen.

• Pa liw yw eich byd?
Amryliw

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i ddiddymu holiaduron anodd

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Yn fy mhen – oes

• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Pe bawn i’n gwybod byddwn i wedi dechrau ar nofel arall!!


o Cam Wrth Gam
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru'r Byd






About the ³ÉÈË¿ìÊÖ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy