成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Grahame Davies

Adnabod Awdur:
Grahame Davies



Bardd sydd newydd gyhoeddi cyfrol o gerddi, Cadwyni Rhyddid



Dydd Iau, Rhagfyr 20, 2001

Enw:
Grahame Davies

• Beth yw eich gwaith?
Rhedeg gwasanaeth rhyngrwyd Cymru'r Byd

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dechreuais fel gohebydd ar bapur newydd y Merthyr Express ym 1985, wedyn ar y South Wales Echo, wedyn Wales on Sunday, a 'dwi wedi gweithio i 成人快手 Cymru ers deng mlynedd.

• O ble鹿鈥檙 ydych chi鹿n dod?
O bentref Coedpoeth jyst tu allan i Wrecsam.

• Lle鹿r ydych chi鹿n byw yn awr?
Ers 1996 yng Nghaerdydd, mewn ardal "inner city" o'r enw Pontcanna.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Roedd yn brofiad cymysg a dweud y gwir. Ces i fy mwlio yn fy ysgol gynradd gyntaf, gan fy mod yn gwisgo sbectol. Roedd hwnna yn y dyddiau cyn i Harry Potter wneud sbectol yn "cwl". Y Milky Bar Kid oedd fy unig "role model" i.

Ond o newid i Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn Tabor yng Nghoedpoeth yn wyth oed, mi gefais gyfnod dedwydd tu hwnt; roedd yn ysgol fach gartrefol a hapus.

Wnes i ddim mwynhau ysgol uwchradd Morgan Llwyd rhyw lawer. Ond fy mai i oedd hynny, nid bai neb arall.

Roedd Coleg Ial yn Wrecsam yn gymysg hefyd. 'Doedd o ddim yn rhy llwyddiannus o safbwynt academaidd ond yno mi gwrddais 芒 Bryan Martin Davies, a'm dysgodd sut i farddoni. Es i wedyn i'r Coleg Celf yng Nghaergrawnt i wneud gradd Saesneg, ac mi wnes i fwynhau hwnna yn fawr iawn.

• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Y sioc ddiwylliannol o gael fy hun yn byw bywyd dosbarth-canol cyfforddus y cyfryngi yng Nghaerdydd,a hynny ar 么l dod o Ferthyr Tudful lle treuliais i ddeng mlynedd.

Roedd y gwrthgyferbyniad rhwng arddull bywyd y ddwy gymdeithas yn gryf iawn ac fe esgorodd ar lawer o ymholi am hynt y gydwybod Gymreig mewn cyd-destun dinesig ffyniannus.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Fy nghyfrol gyntaf oedd Adennill Tir (Barddas 1997), cyfrol o farddoniaeth yn seiliedig ar fy mhrofiadau yn y Cymoedd. Wedyn daeth Sefyll yn y Bwlch (Gwasg y Brifysgol, 1999), astudiaeth gymharol o bedwar llenor Ewropeaidd a seiliwyd ar fy nhraethawd doethuriaeth. Golygais ochr Gymraeg y gyfrol ddwyieithog o farddoniaeth Oxygen (Seren, 2000). Mae'r flodeugerdd lenyddol Wales and the Jews (Seren) yn dod allan fis Ionawr.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

King Solomon's Mines, gan Rider Haggard. Stori antur wefreiddiol.

• A fyddwch yn edrych arno鈥檔 awr?
Byddaf. 'Dwi'n dal i ddarllen rhai o nofelau Haggard o bryd i'w gilydd, yn arbennig She, a, fy ffefryn ohonyn nhw i gyd, Ayesha.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Simone Weil. Mae hi'n athronydd anghyson ond mae hi'n gallu bod yn anhygoel o dreiddgar.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Les Miserables gan Victor Hugo, a ddarllenais mewn cyfieithiad Saesneg. Mae ganddo ddyfnder doethineb a thosturi sy'n gwbl oruwchnaturiol i 'nhyb i. Ac ar 么l ei darllen mae'r her inni i ystyried anffodusion byd yn gafael byth wedyn.

• Pwy yw eich hoff fardd?
R.S.Thomas

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Mewn Dau Gae, gan Waldo Williams.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ryw uffern lonydd leddf ar ryw bell ros (Gadael Tir, R. Williams Parry).

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
The Searchers, Western gan John Ford gyda John Wayne, Jeffrey Hunter a Natalie Wood. Darllenais y llyfr fel plentyn nes iddo gwympo'n ddarnau.

Roeddwn yn mwynhau Inspector Morse yn arw. Er imi ddarllen y llyfrau gan Colin Dexter i gyd, 'dwi'n cael y gyfres deledu yn llawer gwell ac yn rhydd o'r snobyddiaeth ddeallusol anhyfryd sy'n heintio'r llyfrau drwyddynt.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a鈥檆h cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Larry Darrell o lyfr The Razor's Edge gan Somerset Maugham.

Mr Sessions yn How Green Was My Valley. Peidiwch a鈥檌 ddarllen o, mi fydd yn gwneud chi'n flin.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

Y ddihareb o Gymru: "A fynno barch, bid gadarn", ac mewn gwrthgyferbyniad, y dyfyniad hwn o Martin Luther: "Cydiais yn llawer peth, a'u colli. Ond mae'r hyn a roddais yn llaw Duw yn eiddo imi byth."

• Pa un yw eich hoff air?
Cariad

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Optimistiaeth naturiol.

• Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Cydwybodol,
O ddifri',
Encilgar.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Pesimistiaeth.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Iesu Grist. Am gynifer o resymau: ei ddewrder, ei gariad, ei ddoethineb, a'i berthynas gyda Duw.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Rhyfel annibyniaeth Glyndwr - cyn iddo ddechrau colli.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Llywelyn ap Gruffudd.
"'Dwi ddim yn credu bod mynd i Gilmeri yn syniad da, Arglwydd."

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
I fyny mynydd Cyrn y Brain y tu 么l i'm pentref genedigol. Treuliais oriau lawer yno yn blentyn. Hwnna oedd ffin orllewinol fy myd a throthwy pob breuddwyd.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Os yw rhywun arall yn talu, Tournedos Rossini! Fel arall, cyri poeth.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen.

Pa un yw eich hoff liw?
Llwyd. Fel cymylau, llechi a'r m么r.

• Pa liw yw eich byd?
Llwyd, gydag ambell fflach o arian.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Rhywbeth i ddiogelu a normaleiddio sefyllfa'r Gymraeg.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, mae Wales and the Jews, blodeugerdd lenyddol, yn dod allan yn gynnar yn y flwyddyn newydd, a chyfrol o farddoniaeth ar y cyd gydag Elin ap Hywel yn y gwanwyn.

Beth fyddai鈥檙 paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Cwestiwn anodd iawn.
Canolbwyntio ar linellau clo cerddi y byddaf fi, yn hytrach na'r rhai agoriadol. Nid oes anian nofelydd na stor茂wr ynof, er fy mod yn edmygu yn fawr allu rhai fel Daniel Owen, Charles Dickens ac Edgar Allan Poe oedd yn gallu llunio brawddegau agoriadol gafaelgar.

i ddarllen adolygiad Cadwyni Rhyddid
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 成人快手 Cymru'r Byd






About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy