|
|
Adnabod
Awdur:
Golygydd siaradus, cyfeillgar a brwd
sy'n
chwilio am holl gerddi serch Cymru
Dydd Iau, Mawrth 8, 2001
|
Holi
Bethan Mair Matthews, cyd-awdur sydd newydd ei chyhoeddi.
Enw:
Bethan Mair, golygydd Hoff Gerddi Cymru.
Beth yw eich gwaith?
Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion gyda Gwasg Gomer yn Llandysul
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlithydd
O ble鹿r ydych chi鹿n dod?
Pontarddulais, ger Abertawe
Lle鹿r ydych chi鹿n byw yn awr?
Yn y Bont o hyd
Pa lyfrau ydych wedi eu cyhoeddi?
Fi yw golygydd Hoff Gerddi Cymru, a chyd-awdur Sut i Drefnu
Priodas (Gomer).
Rwyf hefyd yn awdur Y Da Cyfoes, cyfrol fach yn trafod barddoniaeth
Gymraeg rhwng 1945 ac 1952 (Barddas 1996) a sawl erthygl ar lenyddiaeth
Gymraeg.
Mae dwy gyfres o lyfrau i blant bach a addaswyd i鹿r Gymraeg gen i
ar fin ymddangos hefyd, sef Cyfres Pi-po a Chyfres Anifeiliaid
Bach Gwyllt.
Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg, T. H. Parry Williams. Yn Saesneg, Annie Proulx. Rwyf hefyd
yn hoff o Milan Kundera ac Umberto Eco, ond yn eu darllen mewn cyfieithiad.
Mwynheais lyfrau Helen Fielding am Bridget Jones hefyd!
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Wedi darllen llawer o lyfrau cofiadwy iawn, mae'n rhy anodd dewis
un.
Pwy yw eich hoff fardd?
T. Glynne Davies
Pa un yw eich hoff gerdd?
CwmNant yr Eira gan Iorwerth Peate
Pa lyfr rhyddiaith wnaeth yr argraff fwyaf arnoch - ac ym mha
ffordd?
The Shipping News gan Annie Proulx, am ei fod mor wirioneddol
ardderchog. Dyma sut ddylai nofel fod!
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff iawn o'r ffilmiau Singin in the Rain ac LA Confidential.
Llawer yn rhy hoff o'r teledu, yn enwedig Eastenders, 成人快手
Front in the Garden, Vicar of Dibley a This Life.
Mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd!
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Ni leddir iaith na chenedl fyth ond gan ei phobl ei hun - D. J. Williams
Pa gyngor fyddech chi鹿n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Darllennwch gymaint ag y gallwch, o bob math o lyfrau, ond yn enwedig
y math o lyfr yr hoffech chi ei ysgrifennu. Byddwch yn hunan-feirniadol,
ond peidiwch 芒 bod ofn mentro.
Cymerwch gyngor gan gyhoeddwr.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Reidio beic! Wedi methu'n l芒n 芒 dysgu.
Pa dri gair sy鈥檔 ei disgrifio chi orau?
Cyfeillgar
Siaradus
Brwd.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a
pham?
Methu 芒 dewis, sori.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Darganfod America. Mae鹿r syniad o fentro i鹿r anwybod yn fy nghyffroi
ac yn codi ofn arnaf, ond meddyliwch am fenter y rhai hynny a aeth
ati i hwylio i鹿r Gorllewin heb ddim syniad o鹿r hyn oedd o鹿u blaenau.
Anhygoel!
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech
chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Awdur Y Mabinogi. Buaswn yn gofyn Pwy ydych chi?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Hwlffordd i Dyddewi, yn enwedig dod i olwg y m么r yn Newgale. Mae'r
ardal honno o Sir Benfro, Pebidiog neu Dewisland, yn hudolus - fy
hoff fan.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Rwy'n ceisio colli pwysau ar hyn o bryd felly ddylwn i ddim meddwl
am fwyd, ond rwy'n hoff iawn o lasagne, salad gwyrdd a bara garlleg.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cyfeilio
i g么r Lleisiau Lliw ym Mhontarddulais, a chanu'r organ yn y
capel; gofalu am fy nai bach, Cai; darllen cylchgronau glossy; cefnogi
rygbi yn ystod y gaeaf.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Wrthi'n casglu enwebiadau ar gyfer Hoff Gerddi Serch Cymru,
dilyniant i Hoff Gerddi Cymru.
Mae croeso i ddarllenwyr Cymru鹿r Byd ddanfon enwebiadau ar gyfer eu
hoff gerddi plant ataf - bethan@gomer.co.uk.
Gweithio ar lyfrau pobl eraill fydda i fel arfer, serch hynny!
|
|
|