成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Adolygiad
Adolygiad

Dilyn
y leins

Glyn Evans yn cael ei hudo gan drens mewn cerdd a llun.
O feddwl lleoedd mor ddienaid, syrffedus ac oer y gall gorsafoedd tr锚ns fod mae鈥檔 rhyfedd cymaint o ramant sy鈥檔 perthyn i reilffyrdd.

Prin, fodd bynnag, yw鈥檙 rhai hynny sydd heb eu swyno gan hudoliaeth tr锚ns.

路O gofio鈥檙 hud a鈥檙 cyfaredd mae鈥檔 rhywfaint o syndod na chafodd beirdd a llenorion Cymru eu temtio i sgwennu mwy ar y thema hon.

Ond fel mae Hywel Teifi Edwards yn ein hatgoffa yn ei gyflwyniad i鈥檙 gyfrol swynol, Llinellau Coll, ni ddigwyddodd hynny. Fel T. H. Parry-Williams defnyddio鈥檙 dychymyg yn dr锚n wnaeth beirdd Cymru yn hytrach na mydryddu ac odli ynglyn a thr锚ns go iawn.

路"Yn seidings ein ll锚n y bu鈥檙 tr锚n ar hyd yr amser," meddai, ac "er ei fod yn bresenoldeb amlwg ym mhapurau a chylchgronau oes Victoria, nid ysgogodd yr un campwaith gan na bardd, na nofelydd nac arlunydd."

Fuon nhw ddim yn gwbl dawedog fodd bynnag a cherddi a baledi gan y beirdd hynny a fentrodd i gyfansoddi am dr锚ns a phethau trenaidd yw Llinellau Coll wedi eu casglu gan bennaf hanesydd rheiffyrdd Cymru, Gwyn Briwnant Jones o Fachynlleth - ond sy鈥檔 awr yn byw yng Nghaerdydd.

Bu ei gyfraniad ef i hanes rheilffyrdd yn Nghymru yn rhyfeddol.

Mae arwyddocad arbennig i deitl y gyfrol achos erbyn heddiw nid yn unig llinellau鈥檙 beirdd aeth ar goll ond llinellau neu leins y tr锚ns eu hunain hefyd. Diolch i lawfeddygaeth wallgof Dr Beeching collodd Cymru y rhan fwyaf o鈥檌 llwybrau rheilffordd gyda chledrau a gorsafoedd wedi dilflannu am byth.

Dim ond hen luniau sydd ar 么l erbyn hyn i鈥檔 hatgoffa o鈥檙 cyfoeth a fu ac y mae Gwyn Briwnant Jones yn cynnwys trysorfa o鈥檙 hen luniau hynny yn y gyfrol hon ochr yn ochr a cherddi鈥檙 beirdd yn ymateb i ddyfodiad y trenau cynnar.

Ond er i un bardd ganu:

Rhyfeddod, rhyfeddod ar waelod Cwm Nedd,

Yw gweled cerbydau mor wyched eu gwedd

nid pawb oedd yn argyhoeddedig mai bendith oedd dyfodiad y tr锚ns. Pan agorwyd y rheilffordd rhwng Castell-nedd ac Aberd芒r yn 1851 proffwydodd hen was ffarm o Ynysgerwyn:

Ni fydd dim llaeth gan wartheg mwyn

Daw鈥檙 twyni鈥檔 goch gan sychyn;

Y lloi yn feirw ar y waen

O ofn y train a鈥檙 injian.

Ond yn gyffredinol dathlu a gorfoledd fu yna ynglyn a dyfodiad y tr锚ns ac yn ardal Y Bala proffwydodd Dewi Havhesp am Ffordd Haearn Y Bala:

Hi chwal asynnod Gwalia, - gyrru mawr
Gwyr a meirch ddiflanna,

Pan wneir hon, dynion nid a
Ar ebolion i'r Bala

Beirdd gwlad fu'n canu fwyaf ac ni fydd unrhyw feirniad llenyddol yn rhoi llawer o werth i'r cerddi o safbwynt farddonol neu lenyddol. Arall yw eu hap锚l ac y mae Gwyn Briwnant Jones yn gwneud cymwynas a ni trwy ddod a hwy i olau dydd mewn cyfrol mor hyfryd sy鈥檔 profi鈥檔 gyfuniad go lwyddiannus o hiraeth, gair a llun.

Llinellau Coll gan Gwyn Briwnant Jones. Gwasg Gomer. 拢9.95.

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy