³ÉÈË¿ìÊÖ


Explore the ³ÉÈË¿ìÊÖ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



³ÉÈË¿ìÊÖ ³ÉÈË¿ìÊÖpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr O Graig yr Eifl  i America Meistres galed i Gymraes yn Nant Gwrtheyrn!


Hefyd :
Rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau

Dydd Iau, Rhagfyr 14, 2000

I fynd yn syth at y rhestr o lyfrau newydd
cliciwch yma:


Neu darllenwch am

gan Glyn Evans
O Graig yr Eifl i America gan Ioan Mai. Cyfres Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch.£3.50.

Cawn ddarlun difyr nid yn unig o Gymru wledig dechrau'r ugeinfed ganrif ond o fywyd ymhlith mewnfudwyr cynnar yr Unol Daleithiau mewn cyfrol Gymraeg sydd newydd ei chyhoeddi.

Yn O Graig yr Eifl i America y mae Ioan Mai Evans yn cynnwys deunydd a sgrifennwyd gan ei fam a fudodd gyda’i gwr i’r Unol Daleithiau ym 1909.

Hwylio o Lerpwl

Hwyliodd y ddau o Lerpwl ar y Lusitania - leinar gydag enwocaf erioed cwmni Cunard.

Cyfrol yng nghyfres ragorol Llyfrau Llafar Gwlad yw O Graig yr Eifl i America gyda'i darluniau byw a dadlennol o fywyd yn ardal Llithfaen rhwng Caernarfona Phwllheli ddiwedd y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.

Yn un o saith o blant ganwyd Elin Jones yn 1879 a phan fu farw yn 92 oed gadawodd yr hyn y mae ei mab yn ei alw yn "waddol o ysgrifau" hynod ddiddorol.

Y rheini yw cnewyllyn y gyfrol fach hon.

Un o ferched y grug

Bu hi'n "un o ferched y grug" yn cario ar eu cefnau y grug yr oedden nhw wedi ei gasglu ar lechweddau’r Eifl i’w werthu i dwymo popdai ym Mhwllheli.

"Cerddent un filltir ar bymtheg bob dydd hyd y flwyddyn . . . Bu rhai wrth y gwaith am flynyddoedd â hen glocsiau baglog am eu traed."

Yn "lefran o hogan" dywed iddi ddysgu gwnio yn Nefyn.

"Aros yno o fore Llun hyd y Sadwrn am dri mis heb gyflog gan ddychwelyd adref â’r injian wnio i nghanlyn. Fy nghyflog oedd swllt y dydd am weithio o wyth y bore hyd wyth yr hwyr. Cerdded tair milltir i ambell fan, rhai yn talu, ond eraill yn 'bobol yn talu eto' a’r ‘eto’ byth yn dod. Ond fel hyn y deuais i adnabod pobol," meddai.

Yng nghanol chwyldro y chwareli

Ond ym mro’r Eifl, fel mewn sawl lle yr adeg honno, yr oedd chwyldro yn digwydd yn sgil twf rhyfeddol y chwareli ithfaen a phawb "yn fwg ac yn dân" dros eu llwyddiant.

Un o ganlyniadau y chwyldro hwnnw oedd codi pentref ar gyfer y chwarelwyr - pentref y daethpwyd i’w adnabod fel Nant Gwrtheyrn!

"Adeiladwyd dau ddwsin o dai yno, yn ogystal â phlas hardd ar ei ben ei hun yn wynebu’r môr, yn gartref rheolwr y cwarel a’i deulu, neu ‘bobol y Plas’ fel y’i gelwid’," meddai.

Doedd gwaith yn y Plas ddim y mwyaf dymunol:

"Byddwn yn codi am bedwar o’r gloch ar fore Llun er mwyn gorffen godro erbyn wyth. Yna, byddai plant a phobol y Nant yn galw am y llefrith a ninnau wedi ein siarsio nad oeddem i roi dim ond yr union fesur i bawb.Roeddwn yn ei chael yn anodd efo ambell un a oedd yn sobor o dlawd ac mi wyddwn hefyd bod gwraig y Plas fel haearn Sbaen o galed."

Mudo i'r 'Merica

Y tro mawr ar fyd fu priodi yn 1906 a mudo wedyn gyda’i gwr i’r Unol Daleithiau i chwilio am fywyd gwell trwy ddefnyddio y grefft a ddysgwyd yng Nghymru yn chwareli ithfaen y wlad honno:

"Peth cyffredin ymysg amryw . . .oedd ymfudo i’r America pan fyddai dirwasgiad. Hel eu pac am fannau fel Vermont, lle bedyddiwyd y gorfforaeth yn Graig yr Oesoedd, neu i ganol eirth a bleiddiaid i wylltleoedd fel Pike efallai," eglura Ioan Mai.

I le o’r enw Redgranite yr ymfudodd ei dad a’i fam a’r darlun yw o fywyd ffyniannus.

"Roeddan ni wedi digwydd cyrraedd pan oed y dref wrthi’n datblygu. Mewn cyn lleied a chwe blynedd gwelsom fanc yn cael ei sefydlu a chychwyn papur newydd wythnosl. . . Theratr yr Eryr yn agor ymhen dwy flynedd . . . Redgranite oedd calon diwydiant y chwareli yn y gorllewin canol," meddai.

Ond doedd pethau ddim yn fêl i gyd: "Nid oedd y dref heb ei helyntion o ganlyniad i gamblo, ymladdfeydd a saethu . . . roedd y llawddryll yn erfyn lawer rhy barod . . . er mawr syndod iddo (ei gwr) fe’i cynghorwyd i gadw rifolfar mewn man arbennig wrth ei wely. Styrbiodd hynny dipyn arno."

Mwy cydnaws a’r Cymry yr oedd steddfota a chapela a digwyddai hynny yno hefyd.

Dychwelyd i eni plentyn

Onibai iddi golli plentyn ar enedigaeth y tebyg yw y byddai Elin a'i gwr wedi aros yn yr Unol daleithiau:

Ond meddai: "Fu perthau ddim yr un fath ac yn fy nghalon penderfynais na fyddwn yn rhoi genedigaeth i blentyn arall yn America. Ymhen tair blynedd canfyddais fy mod yn disgwyl fy ail blentyn. Addunedais y byddwn yn dychwelyd i’r henwlad i’w eni," meddai.

Hynny a wnaed ond, "bu fy ngwr mor gyndyn i hel ei bac nes iddo benderfynu claddu ei arfau trin cerrig mewn gardd a hynny gyda’r bwriad o ddychwelyd ryw ddydd," meddai.

Fu yna ddim dychgwelyd ac mae’r ail blentyn hwnnw, awdur y gyfrol hon, yn byw o hyd yn y ty lle dychwelodd ei fam i’w eni.

Gwedd ddiddorol ar yr hanes yw y cysylltiad a’r Lusitania achos ar ei bwrdd hi y dychwelwyd i Gymru hefyd a hynny ond ychydig cyn iddi gael ei suddo oddi ar arfordir Iwerddon - digwyddiad y bu cryn ddirgelwch ynglyn ag ef byth wedyn.

Cliciwch

Dyma restr yr wythnos hon o
lyfrau sydd newydd gyrraedd
y siopau:


Cymraeg a dwyieithog

BYD PLENTYN: E. Olwen Jones 0862435242 Y Lolfa £4.95 Casgliad o ganeuon a charolau i blant bach.

CÂN Y DDRAIG: Robat Arwyn 1897664192 Curiad £5.99 11 o ganeuon newydd gan gyfansoddwr poblogaidd.

CLYCHAU BETHLEHEM: Gwennant Pyrs 189766429X Curiad £5.99 Cyfrol o garolau newydd.

COFIO DEWI EIRUG: Huw Ethall 1871799414 Ty John Penri £4.95 Portread o'r diweddar Dewi Eirug Davies a'i gyfraniad i fywyd crefyddol Cymru.

CYFRES LLYFRAU LLAWEN:9. I WLAD YR HWLI DWLIS: Joan Ferrero Darl. Lyn Hughes-Evans 0862435609 Y Lolfa £4.95 Stori ddifyr gyda lluniau lliw-llawn.

Y CYNTEFIG CYFOES: Donald Evans 1900437422 Cyhoeddiadau Barddas £6.95 Detholiad o gerddi'r bardd, gydag ambell un newydd.

FFARWELIO Â CHANRIF: Alan Llwyd 1900437392 Cyhoeddiadau Barddas £7.95 Cyfrol o farddoniaeth newydd yn edrych yn ôl ar yr ugeinfed ganrif.

FFERM 123: Benedict Blathwayt 1855964155 Dref Wen £4.99 Adargraffiad o lyfr gair-a-llun dwyieithog i blant bach.

LLANGYNOG GYNT: J.D. Lloyd 0860741710 Gwasg Gwynedd £4.50 Atgofion yr awdur a hanes ardal Llangynog.

LLWYFANNAU LLEOL: Gol. Hazel Walford Davies 1859029027 Gwasg Gomer £9.95 Cyfrol ar hanes theatrau lleol yng Nghymru.

TAFF PAC: Joanna Davies 0862435323 Y Lolfa £4.95 Cyfweliadau gyda deg o Gymry ifanc sy'n gwneud eu marc ym myd drama a ffilm.

TOMI'N CEISIO CYSGU: Sally Chambers Addas. Hedd ap Emlyn, Non ap Emlyn 1855964546 Dref Wen £3.99 Llyfr lliwgar i blant bach, yn yr un gyfres â Tomi Mewn Trwbwl.

UN DRWG DRWG YW EDWYN: Alan Durant Addas. Dylan Williams Darl. Guy Parker-Rees 1902416406 Cymdeithas Lyfrau Ceredigion £5.75 Stori mewn odl am gwningen gas, gas.

Llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru


KEEP THE FEAST: 1859942423 Gwasg yr Eglwys yng Nghymru £14.99 Pecyn yn cynnwys cryno ddisg o 18 carol, llawlyfr Plygain a thestun y carolau.

NEWSPAPER RUSSIAN - A VOCABULARY OF ADMINISTRATIVE AND COMMERCIAL IDIOM: John Slatter 0708316344 Gwasg Prifysgol Cymru £10.99 Llawlyfr o'r iaith a'r eirfa sydd i'w gweld ym mhapurau newydd Rwsia heddiw.

POLITICAL PHILOSOPHY NOW SERIES: MICHAEL WALZER ON WAR AND JUSTICE: Brian Orend 0708316484 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Golwg ar rai o ddigwyddiadau mwyaf dadleuol ein cyfnod.

POLITICAL PHILOSOPHY NOW SERIES: WILLIAM MORRIS - THE ART OF SOCIALISM: Ruth Kinna 0708315828 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Astudiaeth sy'n edrych ar agweddau o waith William Morris.

TEACHING A CHICKEN TO SWIM: Gol. Rob Middlehurst 1854112910 Seren £6.95 Straeon byrion gan gyn-fyfyrwyr cwrs Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Morgannwg.

WALES YEARBOOK 2001, THE: Gol. Denis Balsom 0953128733 Cyhoeddiadau F.B.A. £35.00 Y cyfeirlyfr hanfodol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

WRITING RELIGIOUS WOMEN - FEMALE SPIRITUAL AND TEXTUAL PRACTICES IN LATE MEDIEVAL ENGLAND: Goln. Denis Renevey, Christiania Whitehead 0708316417 Gwasg Prifysgol Cymru £14.99 Cyfrol sy'n edrych ar destunau lle mae menywod yn chwarae rhan amlwg.

Mae'r rhestr hon gan y Cyngor Llyfrau yn cael ei diweddaru bob dydd Iau. I gael holl fanylion y llyfrau, ac i archebu trwy siop lyfrau o'ch dewis chi, cliciwch ar
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y Sîn Roc Gymraeggyda chriw C2



About the ³ÉÈË¿ìÊÖ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy