成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol Cerddi difyr - ond gweld eisiau
ambell i nodyn!

Cerddi Bois y Frenni yn peri i atgofion lifo

Dydd Iau, Tachwedd 30, 2000
• Cerddi Bois y Frenni gan W. R. Evans. Cyflwyniad gan Dic Jones. Gomer £4.95.

Llifodd yr atgofion yn donnau - y doniol a鈥檙 dagreuol bob yn ail. Cyfrol felny yw Cerddi Bois Y Frenni gan y diweddar W. R. Evans. W. R. Bwlchygroes, W. R. Y Barri wedi hynny.

Ond W. R. Bwlchygroes - neu Bwlchygrw锚s, fel maen nhw ddweud ffor鈥檔y - yw W. R. y gyfrol hon.

Cynulleidfa yn ei dyblau

Fe fedra i glywed Bois Y Frenni nawr yn Neuadd Goffa Tregaron yn morio Y Ddau Blisman i d么n y ddau Gendarme a鈥檙 actio dros-ben-llestri a鈥檙 gynulleidfa yn eu dyblau:

Pan fyddo rhywun yn lladd mochyn,
A heb gael permit at y gwaith,
Fe roddwn bapur glas i鈥檙 adyn,
Ac fe awn ati ar un waith.
Ond os cawn ganddo ddarn o鈥檙 balfes,
Neu ham neu ffrei neu asen dda,
Ni鈥檔 cau ein pen, awn adref heb ddweud bw na ba.


Eich tynnu chi i ganu mae鈥檙 gyfrol yma.

Does dim cerddoriaeth
Ond faint sy鈥檔 gwybod yr hen donau erbyn hyn? Dyna wendid y gyfrol. Petae ni ond wedi cael enwau鈥檙 tonau yr ysgrifenwyd y geiriau ar eu cyfer - buase hynny鈥檔 rhywbeth.

Gwell fuasai bod wedi cynnwys y gerddoriaeth.

Wn i ddim a ellir gwerthfawrogi crefft fawr W. R. heb fod y d么n yn chwyrl茂o yn y pen - geiriau fel Y Lecsiwn neu Tr芒th y Mwnt a鈥檙 odlau鈥檔 clecian i Solomon Levi? Ddim yn llwyr, goelia i.

Yn wir os gwnewch ymgais i roddi eich pleidlais i Fi ac i Fi ac i Fi, (triawd oedd hon)
Dywedaf yn fwynedd na chewch am bum mlynedd eich poeni o gwbwl gen i,
Rwyn addo o galon na fydd un ymryson i ddwyn arnoch amharch a sen,
Ond lan yn Westminster ar garped Axminster eisteddaf heb agor fy mhen.

Ddweda i ddim mwy am hyn鈥檔a.

Ond symud at feirniadaeth arall.

Angen egluro'r cefndir

Faint o bobol, tybed, sy鈥檔 deall heddiw wir arwyddoc芒d c芒n fel Cwtsh Dan St芒r a鈥檙 cyfeiriadau at y bomio.

Adeg y rhyfel fe sylwodd pobol mai y st芒r - neu y grisiau - oedd yr unig le fyddai鈥檔 sefyll pe digwyddai bom ddisgyn yn agos i dy.

Felly pan ai y seiren byddai llawer yn mynd i鈥檙 cwtsh dan star.

Faint, hefyd, erbyn hyn, fydd yn deall y dychan yn Dwybunt Yr Erw?

Adeg y rhyfel, eto, pan oedd y ffermwyr yn cael eu hannog i aredig y tir ymylol - dyma'r swm a dalai'r Llywodraeth iddynt am wneud hynny. Buasai'r nodyn hwn o eglurhad wedi bod yn dderbyniol iawn.

Meddwl am eraill ydw i - yn enwedig pan sylweddolais fod yma rai yn yr un swyddfa a mi nad ydynt yn gwybod y d么n Solomon Levi, er enghraifft, heb son am fanylion mwy perthnasol fel Yr ATS 苍别耻鈥檙 Blac Owt, hyd yn oed Yr Ifaciw卯.

Nid 鈥檓od i鈥檔 beirniadu neb nad ydynt yn gwybod y pethau hyn. Dweud ydw i y buasai gair neu ddau o eglurhad fan hyn a fan draw wedi bod o help mawr.

Bara te yn erchyll!

Oes rhywrai, ysgwn i, yn cael Basned o Fara T锚 i frecwast neu swper y dyddiau hyn? Stwff erchyll. Rwy'n cofio tr茂o鈥檌 yfed rywdro. Roedd Mam wedi bod at y deintydd a hwnnw wedi tynnu鈥檙 rhan fwya o鈥檌 dannedd ar un cynnig.

Llond basn o fara, t锚 wedi ei arllwys trosto a llwyaid o fenyn a weithiau tamaid o gaws gydag e. Shincyn oedd yr enw arno yn ein hardal ni.

Mwynhau yn aruthrol

Rhyfedd a adolygiad yw hwn. Er bod mwy o feirniadu nag o ganmol fe wnes fwynhau鈥檙 gyfrol yn aruthrol. Ac fe wna eraill o鈥檙 un oed 芒 mi. Ond buasai llawer mwy wedi cael yr un mwyniant o鈥檙 cerddi o ddeall y mymryn lleia o gefndir rhai ohonynt.

Mae darn o hanes cymdeithasol cyfnod, pwysig a diddorol, yn y gyfrol hon.

Hoffwn wybod fy hunan ar ba d么n y gellir canu y ddwy garol Etifedd Bach Joseff a Mair ac Eiliad Fach o Weddi.

Mae鈥檙 atgofion am Bois y Frenni, W.R. ei hunan, ac am y cyfnod hwnnw yn union wedi鈥檙 rhyfel - roeddwn i jyst ddigon hen i鈥檞 gofio - yn llifo.

Ysgol wedi cau

Ac ambell ddigwyddiad arall heb fod yn ddi-gyswllt. Er gwaetha brwydr y bobl leol mae hen Ysgol Gynradd Bwlchygroes newydd ei chau. Rwy'n cofio galw yn yr ysgol ddechrau鈥檙 chwe-degau a鈥檙 prifathro bryd hynny - Mr Beynon - yn dangos Tarian Aelwydydd yr Urdd i mi.

Roedd Aelwyd Bwlchygroes wedi ei hennill gynifer o weithiau nes i鈥檙 Urdd benderfynu y dylsen nhw ei chadw.

Pharhaodd Aelwyd Bwlchygroes ddim yn hir ar 么l dyddiau W.R. - ond fe ddaliodd Bois Y Frenni i fynd.

Mae鈥檔 wir ddrwg gen i fod mor feirniadol - nid ar W.R. mae鈥檙 bai. Bydd prynu mawr ar y gyfrol yn yr ardal yna o gwmpas Y Frenni, ymhlith y bobol lengar yn y pentrefi diwylliedig o gwmpas Crymych.

Gair haeddiannol iawn o ganmoliaeth i ddarlun Llyr John sy鈥檔 gwneud clawr ardderchog i鈥檙 gyfrol ac i Dic Jones a sgrifennodd y Rhagair a鈥檙 Cyflwyniad (rwyn credu).
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy