|
|
Dod
i adnabod Llydaw yn well
Llyfr newydd am ein cefndryd Celtaidd
Dydd Iau, Hydref 19, 2000
|
Adolygiad gan: Helen Price
Llydaw : ei Llên a’i Llwybrau gan Gwyn Griffiths. Gomer, 2000
1859028225 £13.95
Bydd Llydawgarwyr Cymru yn ymfalchio gyda chyhoeddi y llyfr newydd
hwn gan awdur Crwydro Llydaw (1978), Y Sionis
Olaf (1981), a Goodbye Johnny Onions (1988)
– yr un cyntaf, allan o brint ers blynyddoedd.
Yn llyfr tywys aeth Crwydro Llydaw gyda llawer o Gymry Cymraeg
ar deithiau i Lydaw.
Hanes safonol y gwerthwyr nionod o Lydaw a oedd mor gyfarwydd ar un
adeg yw’r lleill.
Cyrraedd y manion bethau
Adnabyddir Gwyn Griffiths hefyd fel newyddiadurwr sydd wedi cyhoeddi
llawer o erthyglau yn y wasg Gymreig a Llydewig am sawl agwedd o ddiwylliant
Llydaw.
Ni fydd y darllenwyr yn cael eu siomi gan ei lyfr diweddaraf.
Nid arweinlyfr confensiynol mo hwn, serch hynny, ond adroddiad personol
am y wlad. Ymgais i gyrraedd y manion bethau.
Y mae Gwyn Griffiths yn adnabod Llydaw yn dda ac er wedi ymweld â
hi ac ysgrifennu amdani ers blynyddoedd mae’n dal i’w gweld â llygaid
ffres.
Y mae fframwaith y llyfr wedi seilio ar ei daith ef a’i wraig o gwmpas
Llydaw yn y nawdegau hwyr.
Y mae pob pennod yn cymryd un ardal ac, yn ogystal â phrofiad personol
yr awdur, fe geir - lle mae’n briodol - ddarnau am hanes, economi,
daearyddiaeth a llenorion y fro - naws y lle,
y bwyd, amaethyddiaeth, cymeriadau lliwgar.
Cyfoeth o straeon wedi eu hadrodd yn ddifyr a darllenadwy - weithiau’n
ddoniol, weithiau’n ddwfn.
Chwarddais yn uchel gyda’r disgrifiad aflednais o wy wedi’i sgramblo
mewn gwesty otomatig ger Quimper. Mynheuais y feirniadaeth lem (fel
arfer, wedi ei hanelu atom ni yng Nghymru).
Perthynas dlawd? Go brin
Mae tuedd yng Nghymru i weld Llydaw fel perthynas dlawd y byd "Celtaidd".
Yn bennaf oherwydd cyflwr sigledig y Llydaweg. Fodd bynnag, ni fydd
y syniad o wendid yn parhau wedi darllen y llyfr hwn.
Nid yw’r awdur yn osgoi trafod problemau Llydaw, o’r gorffennol na’r
presennol.
Y mae erchyllterau’r rhyfel a’i adladd yn codi sawl gwaith:
diwedd trist bywydau Saint-Pol-Roux a Max Jacob, er enghraifft);
trafodir sut y defnyddir hyd heddiw y goel am "gydweithredwyr"
(yn wir am rai nid yn unig yn Llydaw ond yng ngweddill Ffrainc) i
frifo’r mudiad Llydewig, a’r iaith.
Colled ddiwylliannol
Y mae’r radd o hunanladdiad yn gymharol uchel yn Llydaw, ac y mae
yma argraff o golled ddiwylliannol, yn enwedig ynghylch yr iaith frodorol.
Ond diddorol yw gweld, ugain mlynedd ar ôl Crwydro Llydaw,
fod yr awdur yn obeithiol ynglyn â’r rhagolygon yn Llydaw.
Gwêl newidiadau er gwell:
llwyddiant economaidd,
delwedd fwy gweladwy a sicrach.
"Mae popeth yn Llydaw fel pe bai i’r gwrthwyneb i Gymru,"
meddai.
Datganiad syfrdanol ond yn un sy'n cael ei gyfiawnhau fesul pwynt.
Mae’n syndod gweld fod y Llydawyr fel pe byddent yn fwy annibynnol
na’r Cymry: er enghraifft, gyda llwyddiant mentrau cydweithio fel
Brittany Ferries a SICA, a sefydlwyd gan ffermwyr
Llydaw i sicrhau eu ffyniant.
Cymharu â Chymru
Y mae’r awdur yn feirniadol iawn am agweddau o fywyd yng Nghymru,
yn enwedig lle mae cyrff wedi’u hariannu yn gyhoeddus yn y cwestiwn.
Syndod darllen fod cylchrediad cylchgronau fel Ar men yn
Llydaw yn y degau o filoedd tra bo cylchrediad y New Welsh Review
ond yn 750.
Cyfeiria at ddiwydiant cyhoeddi ffyniannus yn Llydaw er
nad oes cymhorthdaliadau sylweddol fel ag yng Nghymru.. Golyga hyn
fod llai o arian ond mwy o annibyniaeth ymhlith cyhoeddwyr Llydaw.
Bydd sylwadau’r awdur am ein hamgueddfeydd a CADW yn anesmwytho
y sawl sy’n gweithio ym maes y "busnes treftadaeth".
Mae i’r llyfr glawr hyfryd a chynnwys luniau du a gwyn deniadol.
Er nad yw wedi ei fwriadu fel llyfr tywys, byddai map wedi bod o gymorth
ond cwyn fechan yw hon.
Os nad ydych yn gyfarwydd a Llydaw mae hwn yn gyflwyniad hyfryd –
ac os yr ydych yn gyfarwydd mae’n llyfr angenrheidiol ac yn
un sy’n codi awydd i ymweld â’r wlad hudolus y mae Gwyn Griffiths
wedi ymserchu a hi.
Y mae Gwyn Griffiths yn un o ohebwyr ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru'r Byd.
|
|
|