|
|
Rhamant
telynorion
Llyfr
am delynorion rhyfeddol Môn
Dydd Iau, Medi 14, 2000 |
Ychwanegiad hir ddisgwyliedig i Wlad y Medrau yw Telynorion
Llannerch-y-medd/The Harpers of Llannerch-y-medd gan Huw
Roberts a Llio Rhydderch, cyhoeddiad graenus gan Adran
Hamdden a Threftadaeth Cyngor Sir Ynys M么n.
Mae鈥檙 gyfrol ddwyieithog yn canolbwyntio鈥檔 arbennig ar deulu鈥檙 Britannia,
tafarn a fu鈥檔 gartre i鈥檙 delyn yn Llannerch-y-medd.
Yno roedd canu penillion a chanu cylch mewn bri a dylanwad y teulu
yn bell-gyrhaeddol.
Mae鈥檙 awduron, drwy eu hymchwil trylwyr, yn cyflwyno gwythien bwysig
a chyfoethog yn hanes cerddoriaeth y genedl. Fel y gellid disgwyl
gan ddau gerddor, mae鈥檙 gair a鈥檙 g芒n yn priodi鈥檔 hapus drwy鈥檙 gyfrol.
Ceir sawl enghraifft o wireddu鈥檙 cwpled
Diau oedd fod dydd a fu,
Telyn gan bob pen teulu.
O鈥檙 pump ar hugain o delynorion oedd ym M么n yn y ddeunawfed ganrif,
roedd saith yn cystadlu ar y delyn deires mewn Eisteddfod ym Miwmares
dros 150 mlynedd yn 么l.
Ymddengys fod hon yn un o鈥檙 rhai arbennig, pryd yr oedd y Dywysoges
Victoria yn arwisgo John Williams, mab clochydd Llangadwaladr am
ei berfformiad o Syr Harri Ddu gydag amrywiadau.
Parhaodd y deires mewn bri i鈥檙 ganrif nesaf, pryd y cafwyd 11 yn
cystadlu yn Eisteddfod Aberffraw 1849.
Dilyn y traddodiad ymlaen y mae鈥檙 awduron a rhoi peth o hanes y
delyn deires, nes dod at John Jones, Telynor M么n, ar ei aelwyd yn
Nhafarn y Britannia, lle y mabwysiadwyd dull y gogledd o ganu penillion
a lle鈥檙 oedd y diwylliant Cymreig ar ei orau.
Hyn oll yn blaguro鈥檔 y plant, a鈥檙 etifeddiaeth deuluol yn cerdded
ymlaen nes cysylltu 芒鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol a chymeriadau cenedlaethol
fel Arglwyddes Llanofer.
Yn perthyn i鈥檙 un teulu - yn ferch i Dafarn y Marchog, Caergybi
- yr oedd Ellen Jane Jones, Telynores Cybi, a fu farw mor ddiweddar
芒 1932.
Ceir y difri a鈥檙 digri mewn cyhoeddiad sy鈥檔 ffrwyth ymchwil manwl
y ffidler Huw Jones a鈥檙 delynores Llio Rhydderch. Mae dros gant
o luniau i hybu cefndir traddodiadol sydd o gymaint consyrn i鈥檙
ddau awdur.
At
y diwedd, wedi pori drwy gant o dudalennau, ceir golwg ar yr awduron
gydag Idwal Owen - y tri gyferbyn 芒 thabl achau yr hen delynorion.
Yn fonws i鈥檙 cyfan, yng nghesail y ddalen olaf mae cryno ddisg ac
arni ddetholion o鈥檙 hen alawon, sgyrsiau amserol ac atgofion.
Mae鈥檙 gwaith i gyd yn gymwynas amhrisiadwy a cherddoriaeth Ynys
M么n a Chymru.
Telynorion Llannerch-y-Medd. Teulu鈥檙
Britannia ac eraill/ The Harpers of Llannerch-y-Medd gan Huw Roberts
a Llio Rhydderch. Cyngor Sir Ynys M么n. 拢14.99 gan gynnwys CD.
|
|
|