|
|
Byd
o
fabis,
sêr a
Friends. . .
Pori
drwy J-17, cylchgrawn yr wythnos
Dydd Iau, Gorffennaf 20, 2000 |
Y
mae鈥檙 ysgolion ar gau neu wedi cau.
Mae鈥檔 bryd holi beth mae rhywun yn ei ddisgwyl o鈥檌 wyliau haf.
Os yr ydych o gwmpas eich dwy ar bymtheg oed ymhlith y dau ar bymtheg
o dips gwyliau y mae y cylchgrawn J-17 yn eu hawgrymu
y mae:
Cael deg rhif newydd ar eich ff么n symudol,
pob un yn perthyn i tanned boy-babes.
Bwyta rhywbeth na allwch ei ynganu
Nofio鈥檔 noeth efo鈥檆h ffrindiau
Anfon neges destun at fachgen
yr ydych wedi mopio efo fo.
Snogio bachgen o wlad nad ydych
erioed wedi ymweld 芒 hi.
Sgrifennu ei enw mewn llythrennau
mawr ar draeth tywodlyd.
Pryderon genethod ifanc
Yr ydw i鈥檔 ddigon hen i gofio J-17 pan oedd o鈥檔 cael ei alw
yn Just 17 a rhieni, mwyaf sydyn, yn gwaradwyddo o ddarganfod
pa mor fanwl oedd o鈥檔 trafod materion rhywiol.
Dechreuodd rhai alw鈥檙 hyn oedden nhw wedi arfer meddwl amdano fel
comic i鈥檙 arddegau o鈥檌 weld yn gorwedd mor ddiniwed ar eu soffas yn
porn gan sicrhau fod mwy fyth o enethod ifanc yn troi
ato.
Yr un, mae鈥檔 ymddangos, yw pryderon genethod ifainc heddiw a rhai
yr adeg honno ond bod y pryderon hynny鈥檔 cychwyn hyd yn oed yn gynt.
Mae rhai o ddarllenwyr J-17 yn poeni eu bod yn dal heb brofiad
rhywiol llawn a hwythau鈥檔 bymtheg oed.
Yn llythyr y mis mae merch 16 oed yn son am drafferthion magu ei babi
ac adolygu ar gyfer ei arholiadau TGAU ar yr un pryd.
"Meddyliwch am y pwyntiau drwg cyn rhuthro i rywbeth sy鈥檔 mynd i newid
gymaint ar eich bywyd. Mi ddysgais i鈥檙 ffordd anodd ond does dim raid
i chi. . .," medda hi.
Naw TGAU a rhyw
Ac meddai merch ifanc mewn erthygl arbennig, The Last Virgin
in Town : "By the time I hit 15, I knew that chastity was
not for me . . . My two aims in life was to get nine GCSE鈥檚 and have
sex."
Bu Ellen, 13 oed o Wales yn mynd allan efo John, 15 oed, ers dwy flynedd.
Y penwythnos diwethaf gwrthododd ei gais am gyfathrach rywiol . .
. ond mae鈥檔 holi nawr a wnaeth hi鈥檙 peth iawn.
Hyd yn oed mewn dyddiau pan yw perthynas rywiol i鈥檞 gweld yn beth
mor rhwydd 芒 hyn i lithro iddi bu "J17 writer Nic" yn arbrofi
sut orau i 'dynnu' bechgyn mewn parc. Aeth yno gyda sgwtar, p锚l-droed
a chi bach yn abwyd.
Mae鈥檙 b锚l-droed yn gwneud yn well na鈥檙 sgwtar a'r ci bach yn well
na鈥檙 ddau. "Looks like they鈥檙e barking mad about each other" meddai
J17 wrth ddod i鈥檙 casgliad mai efo ci ar dennyn y mae
dal bechgyn mewn parc.
Bechgyn eu breuddwydion
Wrth gwrs, mae yna rai bechgyn na all y ferch gyffredin ond breuddwydio
amdanyn nhw - a synfyfyrio鈥檔 llesmeiriol dros eu lluniau mewn cylchgrawn
fel hwn.
Yn eu plith y mae:
Kerr Smith o Final Destination
a "second resident heart-throb" Dawson鈥檚 Creek;
Yr Hot talent Don Philip
sy鈥檔 dweud i鈥檞 gariad ddygymod yn dda iawn a鈥檌 lwyddiant personol
- nes iddyn nhw wahanu!
Dywed Dec - o Ant a Dec ("The
most loved Geordie boys, like, ever) - mai鈥檙 hyn a fyddai
ef yn ei wneud pe gallai fod yn eneth am ddiwrnod yw: "go shopping
and play with my boobs."
Eilunod eraill
Ymhlith eilunod eraill y jyst dwyarbymthegion y mae Slipknot
y band a fydd yn gwneud i鈥檆h nain wylo, Friends - cyfres
deledu鈥檙 mis - sydd wedi eu dysgu, ymhlith pethau eraill, sut i wneud
aros i mewn yn y ty yn beth cwl a sut i regi mewn ffordd nad yw鈥檔
anweddus.
Ffilm y mis iddyn nhw ydi High Fidelity, gyda
Sleepy Hollow yn fideo鈥檙 mis ac If Only, Geri
Halliwell yn llyfr y mis.
Cofiwch am sbectol: Beth bynnag arall ddywedwn ni am enethod
yn eu harddegau y maen nhw鈥檔 graff iawn. Dyna鈥檙 unig ffordd i egluro
y defnydd o gymaint o brint m芒n, m芒n, ar gefndir anodd ei ddarllen.
Ynteu ai cynllwyn yw hwn i鈥檞 cadw yn y ty cyn hired 芒 phosib - o leiaf,
nes y byddan nhw鈥檔 ddigon hen i gael babis?
Chwiliwch am eiriau: mae'n ffasiwn torri geiriau'n fyr. 'Enders
am Eastenders; 'iIsh am issue a 'rents
am parents.
J-17. The World's Coolest Mag... Definitely. Awst, 2000.
£1.90.
|
|
|