成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Later Merched
ddoe

Yn dal cyn hardded
ag erioed

Glyn Evans yn edrych ar Gylchgrawn yr Wythnos

Dydd Iau, Mai 4, 2000
Dydyn nhw ddim yn eu gwneud nhw fel oeddan nhw. Dyna鈥檙 unig gasgliad i ddod iddo wrth fyseddu鈥檙 rhifyn diweddaraf o鈥檙 cylchgrawn i ddynion, Later.

Rhaid i鈥檙 cylchgrawn hynod gyfoes ac amserol hwn fynd yn ôl i鈥檙 pumdegau i chwilio am pinup werth chweil.

Ac yn wir i chi, hyd yn oed heddiw y mae yna rywbeth yn dal yn go arbennig ynglyn 芒'r Brigitte Bardot ifanc - y ferch a oedd yn gyfuniad o ddiniweidrwydd a goglais rhywiol ac y bathwyd y term sex kitten ar ei chyfer.

Llun a dynnwyd ohoni hi - the 20th century鈥檚 most remarkable sexual icon - yn noeth yn y pumdegau yw un o brif luniau鈥檙 cylchgrawn a dwy ddalen ohoni mewn wyth gwahanol ystum rhywiol i gadarnhau cywirdeb y geiriau.

Ac oedd, yr oedd rhywbeth yn sbesial ynglyn â seren Et Dieu Crea La femme - A Duw a Greodd Ddynes. O safbwynt pryfocio rhywiol dydi鈥檙 eiconau modern fel Heather I-feel-sexy-Graham ddim yn y r芒s hyd yn oed mewn rhan arall o'r cylchgrawn.

Yn syth i Uffern
Yr ydym i gyd, dwi'n siwr, yn falch o ddarllen fod Heather (y mae ei chorff lluniaidd wedi ei deilwrio鈥檔 arbennig ar gyfer hotpants a sgidiau uchel) wrth ei bodd gyda "crude humour" ac yn gwbl gartrefol gyda鈥檙 "concept of sexual congress."

Hynny, er ei bod wedi ei magu yn "devout Catholic" y dywedwyd wrthi fod y llwybr rhywiol yn arwain ar ei ben i Uffern.

Yr argraff a gawn yw ei bod erbyn hyn wedi cysegru ei bywyd i ddadwneud diniweidrwydd yr ieuengrwydd Pabyddol hwnnw - ac yn gwneud eithaf joban o hynny mewn ffilmiau nid amwys eu teitlau fel Two Girls and a Guy - heb anghofio am ei phen 么l wrth gwrs.

Ond mae鈥檙 cylchgrawn yn mynnu edrych yn 么l. Nid yn unig ar Bardot ond ar brydferthwch Kim Bassinger, hefyd, a fu鈥檔 hudo Garth mewn londret yn Wayne鈥檚 World yn 1993.

Y cwestiwn nad yw鈥檔 cael ei ofyn na鈥檌 ateb yw; a fyddai y boneddigesau Bassinger, Bardot a Graham yn edrych ddwywaith arnom ni ddarllenwyr Latest.

Dynion pasgedig, boliog

A chymryd ein bod ni i gyd yn edrych fel y dynion yn yr erthygl am golli pwysau, Male weight-loss: Forget Everything you鈥檝e been told, go brin y byddan nhw onibai eu bod nhw, fel Heather, yn mwynhau j么cs - neu o leiaf ddynion pasgedig, boliog, sy'n edrych yn dipyn o jôc.

Datgelu鈥檙 "ffeithiau caled" sut yr ydym yn ennill brasder a sut i gael gwared ag ef wedyn y mae鈥檙 erthygl. Ymhlith yr awgrymiadau y mae codi awr yn gynt a mynd allan i gerdded am hanner awr cyn brecwast.

Yn wir, cerddwch, cerddwch, cerddwch ydi鈥檙 neges fawr i foliau mawrion fel fi: cerdded i fyny鈥檙 grisiau yn lle defnyddio'r lifft; cerdded i fyny grisiau eraill i dai bach y llawr uwchben yn hytrach na鈥檙 rhai cyfleus ar eich llawr eich hun a cherdded i weld pobol mewn swyddfa ym mhen draw yr adeilad yn hytrach na'u galw ar y ff么n mewnol.

Ac yfed llawer o ddwr.
Hynny, mae鈥檔 debyg, fel eich bod yn treulio mwy fyth o amser yn nhai bach y llawr uwchben a gwneud mwy fyth o waith siarad i鈥檆h cydweithwyr.

Beicio yn eich hunfan

Awgrym arall, mewn erthygl arall, ydi beicio. Ond nid y math hwnnw o feicio sy'n mynd a chi i rywle ond ar gefn beic sy鈥檔 sefyll yn ei unfan waeth faint fyddwch chi鈥檔 dradlo.

Pwy fyddai鈥檔 credu y gallech chi losgi 700 calori mewn hanner awr a deng munud trwy aros yn eich hunfan?

Ond go brin fod hwn yn ymarfer i'w argymell i鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 teimlo nad yw eu bywyd yn mynd i le鈥檔 byd.

Sut i fod yn sâl

Ac os na wnaiff yr holl ymarfer sefydlog yma ichi deimlo鈥檔 gwla mae Later yn rhoi manylion bob mis am salwch y gallwch ffonio鈥檙 gwaith amdano i gael amser i ffwrdd.

Mae'r golofn, "Ways to get a day off sick - illnesses you can fake on the phone" yn swnio'n un fuddiol iawn i mi.

Salwch y mis y tro hwn yw Bowenoid Papulosis sy鈥檔 gwarantu saith niwrnod ar y tro i ffwrdd yn s芒l ichi.

Nid yn unig rhoddir manylion am y salwch ei hun ond hefyd, gynghorion ynglyn a'r pre-illness preparation achos cyfrinach unrhyw salwch smalio effeithiol yw fod y bobol yn y gwaith yn dweud, pan ydych chi i ffwrdd, bethau fel, Dydio ddim wedi bod yn edrych yn iawn ers dyddiau.

Gyda llaw rydw i鈥檔 hoffi鈥檙 awgrym o gael salwch hynod bersonol gan fod bosus yn swil o holi鈥檔 rhy fanwl ynglyn â鈥檙 rheini.

Ffasiwn Caerdydd a Merthyr

Y mae llawer gwell siap fodd bynnag ar y criw o fechgyn ifanc y daeth adran ffasiwn Later ar eu traws ar strydoedd Caerdydd.

Craig LimaSean yr entrepreneur a qualified psychologist 29 oed yn gwisgo siaced a throwsus gan Hennes er enghraifft a Craig, 27, y rheolwr storfa, mewn Rollneck gan French Connection a throwsus gan Reiss.

Ond dydi Later ddim yn datgelu ei fod ef, Craig Lima, hefyd yn chwarae pêl-droed i Ferthyr Tudful lle mae wedi sgorio pedair gôl i'r tîm cyntaf y tymor hwn a lle mae'n cael ei adnabod fel tipyn o classy dresser.

Pawb a'i broblem
Mae gan Later ("Voted best new magazine," meddan nhw, er na ddywedir gan bwy!!) golofn hefyd ar gyfer y rhai hynny sydd ddim yn sgorio - neu yn achos un darllenydd y disgwylir iddo sgorio mewn lleoedd anghyfleus.

Ar gyfer rhoi'r bobl hynny ar ben ffordd sicrhawyd gwasanaeth Alan Percy, yn "resident therapist and relationship adviser" a Paul Daniels y consurwr.

Sgrifennodd un o'r darllenwyr i mewn ii gwyno, os cwyno hefyd: "My girlfriend only likes sex in strange places - parks, buses, anywhere but the bedroom in fact. It鈥檚 great every now and again, but how can i convince her that sex can be just as much fun at home?"

Dydio ffadan o wahaniaeth gen i be di cyngor Alan a Paul. Yr hyn ydw i eisiau wybod ydi, lle gallaf i ddod o hyd i ferch felna?

Later. Rhifyn 13. Mehefin 2000. 拢3.

Os yr ydych eisiau ymateb i'r erthygl hon cliciwch yma a gwebostiwch:
glyn.evans@bbc.co.uk

 
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy