|
|
Be
felly
ydi bardd?
rhywun
ar boster - ond be arall?
Glyn Evans yn trafod cylchgrawn yr wythnos.
Dydd Iau, Mawrth 30, 2000
|
Y
cwestiwn, "Beth sy'n gwneud bardd yn fardd?"
wnaeth fy mhrocio fi i brynu rhifyn Chwefror 2000 o Taliesin.
Gwir, dydi o ddim yn gwestiwn sy'n fy nghadw ar ddihun yn y nos ond
o weld Tudur Hallam o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yn cynnig
ateb, byddwn yn ffwl colli'r cyfle.
Un arall a hudwyd yw Gwilym Owen yr oedd yr erthygl yn bwnc trafod
ar ei raglen radio fore Llun diwethaf.
Yr oedd o wedi gweld sarhau Gerallt Lloyd Owen yn yr erthygl. Doeddwn
i ddim.
Mae Tudur Hallam yn defnyddio Gerallt, - un o feirdd mwyaf poblogaidd
Cymru heddiw, - a Thaliesin a Lewys Clyn Cothi i'w helpu i ateb ei
gwestiwn.
Efallai fod fy nisgwyliadau i yn rhy uchel ond rhaid imi gyfaddef
fy mod i wedi disgwyl gwell ateb na'r un a geir.
O'i roi yn ei ffurf fwyaf amrwd credaf mai ateb Tudur Hallam i'r cwestiwn
Beth sy'n gwneud bardd yn fardd? ydi; Bod rhywun
yn defnyddio un o'i gerddi ar boster.
Wêêl, ateb braidd yn annigonol a dweud y
lleiaf. Ond meddai Tudur Hallam wrth grynhoi:
"O geisio ateb cryno i'r cwestiwn (Beth sy'n gwneud bardd yn
fardd), fy nghynnig i fyddai, mewn gair - sylw, cyhoeddusrwydd,
amlygrwydd, os nad dylanwad cymdeithasol, yn fwy na chydnabyddiaeth
farddol hyd yn oed. . . Er mwyn ennill y sylw, wrth gwrs, mae angen
i'r bardd fod yn berson sy'n cyfansoddi cerddi, a gorau i gyd os yw'r
cerddi o deip arbennig, sef math o gerddi sy'n mynd i ddwyn bardd
i sylw'r cyhoedd, a'i ganoneiddio."
O'r ateb yna, mae'n amlwg nad oedd Tudur Hallam yn gofyn yr un cwestiwn
ag oeddwn i'n feddwl oedd o'n ei ofyn ond un cwbl wahanol - ac un,
yn fy marn i, nad oedd llawer o werth yn ei ofyn heb son am drafferthu
cynnig ateb iddo.
Trueni.
Cwestiwn arall nad yw'n cael llawer o ateb yn yr un rhifyn o Taliesin
yw'r un a ddylai Cymru gael Bardd Cenedlaethol Cymraeg a Saesneg
yn ôl awgrym prif weithredwr yr Academi Gymreig.
Dim ond tri allan o'r pymtheg o feirdd a llenorion a wahoddwyd gan
Taliesin i fynegi barn a drafferthiodd i ateb. Yn amlwg, dydi'r
syniad ma o rhyw fath o poet laureate Cymraeg yn gysylltiedig
a'r Asembli ddim yn un sydd wedi cyffroi'r beirdd heb son am weddilly
Cymry.
Mae un o'r tri, y Prifardd Ceri Wyn Jones, yn codi'r cwestiwn a ddylid
gwneud y fath swydd yn un etholedig.
Mae'r Archdderwydd, wedyn, yn disgrifio'r hyn sydd mewn golwg fel
"peiriant barddoni" gan ofyn "a pha fath
o farddoniaeth a ddaw o beiriant?"
Dim ond y Prif Lenor Robyn Lewis sy'n cynnig enwau i'w hystyried;
Alan Llwyd, Donald Evans, Gwyn Thomas, Gerallt Lloyd Owen, Jim Parc
Nest a Luned Teifi "er mwyn cadw dysgl y rhywiau yn wastad."
O safbwynt bersonol fyddai ddim gwaeth gen i gynnig Ifor ap Glyn achos
y mae o yn llwyddo mewn cerdd yn Nhaliesin i gyfleu i'r dim
brofiad a gefais innau hefyd sawl tro.
Dychrynaf, wrth basio fy hun mewn ffenest;
y fi yw'r boi hefo'r bol!
medda fo gan siarad drosof innau hefyd.
Efallai y byddai rhywun lecio rhoi y ddau ohonom ar boster.
Mi fedrwn innau, wedyn, fod yn fardd -yn ôl diffiniad Mr Hallam.
Taliesin. Cyfrol 108. Chwefror 2000. Yr Academi Gymreig.
£2.50.
|
|
|