成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Apêl
at hanes


Mae Hanes yn fwy na brenhinoedd, dyddiadau a ffeithiau sychion meddai hanesydd.

Dydd Iau, Mawrth 30, 2000
Y mae Hanes yn fwy na brenhinoedd, hen gestyll, dyddiadau a ffeithiau sychion.

Felly, y mae gan haneswyr ac amgueddfeydd ddyletswydd i adlewyrchu hynny meddai un o haneswyr mwyaf blaenllaw Cymru mewn llyfr y mae newydd ei gyhoeddi.

Y mae arwyddocad arbennig i鈥檙 is-bennawd, C么r o Leisiau, i gasgliad Glanmor Williams o ysgrifau Cymru a鈥檙 Gorffennol.

Ymuno a'i gilydd
Achos nid un llais yn siarad a ni o鈥檙 gorffennol yw Hanes ond cymysgedd - c么r - o wahanol leisiau yn ymuno a鈥檌 gilydd i gyfleu un darlun cyfansawdd.

Yn llawer rhy aml y mae鈥檙 gair Hanes, meddai Glanmor Williams, yn "awgrymu hanes brenhinoedd a鈥檙 bendefigaeth, rhyfel a chynghreirio, llywodraeth a deddf, castell ac abaty, plasty ac eglwys plwyf; yn fyr, gwleidyddiaeth a diddordebau鈥檙 llywodraethwyr a鈥檙 dosbarthiadau uchaf."

Ond ychwanega mewn darlith a draddododd adeg trichwarter canmlwyddiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1982:

"Tueddir i gynnig darlun unochrog, yn rhannol o ganlyniad i darddiad aristocrataidd hanes fel astudiaeth."

Eang ac amryliw
Ond prysura i ddweud fod yn rhaid i hanes o鈥檌 astudio a鈥檌 ddysgu y ffordd iawn "gydnabod fod mantell ddi-wniad y gorffennol yn rhywbeth llawer mwy eang ac amryliw."

Y mae yn cynnwys "pob agwedd ar fywyd dynion, a'r newidiadau a achoswyd ganddynt a鈥檙 modd y newidwyd hwythau: gorffennol Cymru yn ei gyfanrwydd . . . rhaid wrth gorws cyfan o leisiau, yn cydasio, os yw鈥檙 gorffennol hwnnw i鈥檞 gyflwyno鈥檔 llwyddiannus."

Un o ganlyniadau hyn yw fod yn rhaid i鈥檙 hanesydd fod a diddordebau eang oherwydd gan fod cymaint o wahanol agweddau i un testun.

Er enghraifft y mae鈥檔 son yn benodol am ei ran ef ei hun yn astudio hanes yr Eglwys yng Nghymru.

"Er mwyn darlunio'r Eglwys fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru ac yn Ewrop gydag unrhyw fath o argyhoeddiad, rhaid oedd edrych y tu hwnt i astudiaethau a ffynonellau hanesyddol confensiynol," meddai .

Oherwydd bod yr eglwys yn dirfeddiannwr rhaid oedd ei hystyried o safbwynt economaidd; wedyn o safbwynt bensaerniol a chelfyddydol oherwydd ei hadeiladau ac o safbwynt lenyddol a chrefyddol hefyd oherwydd ei gweithgarwch arall.

Canmol yr amgueddfa
Yr un dyletswydd sy鈥檔 wynebu amgueddfeydd ac y mae Glanmor Williams yn canmol cyfraniad Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn hynny o beth gan dynnu sylw arbennig at yr Amgueddfa Diwydiant a M么r a鈥檙 Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn ehangu鈥檙 gorwelion arferol.

Er, mi ddywedwn i, mai chwip dîn yn fwy na churo cefn y mae鈥檙 amgueddfa yn ei haeddu parthed yr Amgueddfa Diwydiant a M么r.

Bu鈥檙 ffordd y cafodd ei thrafod gan awdurdodau鈥檙 Amgueddfa yn destun ymchwiliad ac adroddiad seneddol hynod feirniadol ac, wrth gwrs, fe gollwyd cartref yr amgueddfa arloesol honno ers traethu'r ddarlith hon. Fe ddylid fod wedi cynnwys troednodyn yn y gyfrol yn tynnu sylw at yr anfadwaith hwnnw.

Y mae arwyddocad arbennig, felly, i sylw Glanmor Williams ynglyn 芒 swyddogaeth a dyletswydd amgueddfeydd yn gyffredinol ac mae'n werth ei ailadrodd yn sgil anfelystra a blerwch yr hyn ddigwyddodd gyda'r Amgueddfa Ddiwydiant a Môr hynod;

"Nid cyflwyno gwrthrychau materol yw unig waith nac ychwaith brif waith amgueddfa, eithr cyflwyno syniadau: syniadau a fydd yn penderfynu pa wrthrychau a ddewisir er mwyn eu defnyddio i esbonio a darlunio鈥檙 gorffennol a鈥檙 presennol . . .

" Ennill dealltwriaeth fwy cyflawn a chyson o hyn fu o bwys ac sydd o bwys i bobl Cymru yw鈥檔 nod y mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Amgueddfa ei gosod iddi ei hun. . . Mae arwain c么r o leisiau y tu mewn i鈥檙 Amgueddfa a鈥檙 tu allan iddi, mewn cytgord perffaith, er mwyn cyflwyno gorffennol Cymru, yn gyfrifoldeb arswydus," rhybuddia.

Mae cwestiwn a ysgwyddwyd y cyfrifoldeb hwnnw yn llawn er na thrafodir hynny yma

Cymru鈥檙 Gorffennol - C么r o Leisiau, gan Glanmor Williams. Gwasg Gomer 拢14.95 . Mae鈥檙 gyfrol yn cynnyws hefyd ysgrifau ar: Proffwydoliaeth, Prydyddiaeth a Pholitics yn yr Oesoedd Canol; Harri Tudur; y Deddfau Uno; Cyfieithiadau Beiblaidd; y Diwygiad Protestannaidd; Yr Esgob William Morgan; John Penry; Etholiadau Seneddol; R. T. Jenkins; Cofio Dowlais - tref enedigol yr awdur.
Wythnosau Blaenorol:

[an error occurred while processing this directive]*

[an error occurred while processing this directive]
*
*
*
Siaradwch
*
[an error occurred while processing this directive]

*
*
Dysgwch
[an error occurred while processing this directive] *
Gwybodaeth
*
Arolwg Blynyddol
adborth.cymru@bbc.co.uk
成人快手 Wales (Saesneg)


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy