成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cylchgrawn yr wythnos Cylchgrawn
yr wythnos

Glyn Evans yn ceisio bod yn bedair ar bymtheg oed
eto

Dydd Iau, Mawrth 16, 2000
Cyfaddefiad. Nid y fi brynodd y rhifyn o 19 fum i鈥檔 ei ddarllen yr wythnos hon. Gadawodd y ferch ifanc oedd yn eistedd gyferbyn a fi ar y trên o'r gogledd ef ar ei h么l wedi inni gyrraedd Caerdydd.

Ond adawodd hi ddim mo鈥檙 Free Mobile Phone Holder oedd efo鈥檙 cylchgrawn. Rhai pobl!

Dydw i ddim yn siwr ydi etifeddu cylchgrawn fel hyn yn ddwyn yng ngolwg y gyfraith. Rwy鈥檔 ymddiheuro os yw .

Wn i ddim, hefyd, beth mae ei adael yn ei ddweud am y cylchgrawn achos ddarllenodd hi ddim llawer arno fo yn ystod y daith ychwaith.

Dau beth ar eu meddwl
Ond yr hyn mae鈥檙 cylchgrawn yn ei ddweud am bobol ifanc pedair ar bymtheg oed yw nad ydyn nhw鈥檔 meddwl am fawr ddim ond rhyw a鈥檜 pryd a鈥檜 gwedd.

Does yna ddim resipis ac yn sicr does yna ddim cynghorion sut i hel llwch o du 么l y wardrob neu dan y gwely.

Ond y mae yna golofn -- fuddiol i鈥檙 sawl a鈥檌 myn - dan y teitl Foreplay of the Month sy鈥檔 digwydd bod yn ymwneud y mis hwn ag effaith ddyrchafol merched yn anadlu鈥檔 ysgafn chwareus i glustiau dynion a chnoi tagelli eu clustiau.

Rhagchwarae y mae iddo difficulty rating o un seren allan o bump!

Rhywbeth y gallai rhywun o fy oed i, hyd yn oed, ddygymod ag ef.

Ar gyfer yr ansicr
i'r rhai hynny sy鈥檔 ansicr o鈥檜 rhywioldeb eu hunain y mae dalen gwestiwn ag ateb How sexy are you fel y gall merch ddarganfod a yw hi deigres y dwfe ynteu鈥檔 gath fach y gwely wenscot.

Er enghraifft mae yfed vodka martini yn ei gwneud yn vamp, yfed vodka strêt yn ei gwneud yn secspot; yfed vodka a thonic yn sex kitten ac yfed vodka a Red Bull yn nymphet.

Mae yna gryn bwyslais ar ddod i adnabod yr hunan gyda gwahoddiad i wneud llun yn cynnwys coeden, ty, llwybr, ffens, haul, llyn a neidr fel y gall arbenigydd ddehongli cymeriad merch yn ôl ffurf y goeden, ty ac ati.

Llwybr unionsyth, er enghraifft, yn arwydd o ferch sy鈥檔 sicr o鈥檌 meddwl ei hun ond llwybr troellog yn arwydd o rywun digyfeiriad sydd braidd ar goll.

Am ddynion, mae c芒n eu ff么n symudol yn datgelu llawer am eu cymeriad gyda pherchen ffôn arferol ei gloch yn "completely normal, bordering on boring" ond br锚n y llanc sy鈥檔 defnyddio ei gynhyrfwr (vibrator) wedi ei leoli rhwng ei goesau!

Mae鈥檔 debyg mai鈥檙 cam naturiol ar ôl dod i adnabod eich hun yw dod i adnabod eraill yn well ac i鈥檙 perwyl hwnnw mi ffeiriodd Becks a Simon a Stuart a Helen gariadon ei gilydd gyda Becks yn mynd allan efo Stuart a Simon efo Helen gan adrodd yn ôl wedyn.

Ond hoffwn i ddim rhgoi鈥檙 argraff fod y cylchgrawn yn anwybyddu gwir gwestiynau mawr ein bodolaeth ar sail rhyw fanus fel hyn.

Ac ar ysgwyddau dyn o'r enw Jon Axworthy y mae'r cyfrifoldeb o fynd i'r afael a hwy yn syrthio ac i鈥檙 afael ag arferiad gwrywaidd nad oeddwn i yn gwbl gyfarwydd ag ef y mae ond mynd i'r afael: Pam y mae dynion yn p卯-p卯 dros offer trydan a phoptai ar ôl bod allan yn yfed?

Yn 么l neurophysiologist o鈥檙 enw Dr Raymond Pritxchett ac iwrolegydd ymgynghorol o鈥檙 enw Dominic Carey, y mae yfed lot yn gwneud i ddynion fod eisiau codi yn y nos ond gan fod eu pledren yn deffro cyn eu brên maen nhw'n cael anhawster gwahaniaethu rhwng y ty bach a鈥檙 ffwrn neu beiriant stereo ac yn pî-pî dros y rheini.

Efallai y galla i fod o help trwy awgrymu i鈥檙 cyhuddiedig drio bwyta鈥檜 chips popty ar ôl eu mwydo yn y pan am hanner awr.

19 - It鈥檚 all new. 拢2.10.
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy